"Helo, fy enw i yw Adrian a graddiais o Brifysgol Bangor yn 2020 gyda gradd meistr mewn troseddeg a chymdeithaseg. Byddai’r darllenydd yn gofyn beth sy'n anarferol am hynny? Dim byd, ar wahân i’r ffaith fy mod yn fy chwe degau hwyr ac roeddwn yn byw ym mhentref y Santes Fair. Cefais amser gwych ac mae gen i atgofion hyfryd o fynychu'r Brifysgol a byw ym mhentref y Santes Fair.
Mae'n debyg y dylwn adrodd fy hanes ac egluro pam fy mod yn fyfyriwr llawer hŷn. Mae'r stori'n dechrau yn 1971 pan adawais yr ysgol gyda llond llaw o raddau CSE. Bues i’n gweithio fel prentis mecanig yn trwsio ceir. Ar ôl cymhwyso gyda City and Guilds, penderfynais nad dyna’r yrfa i mi. Fe wnes i gais i fynd yn nyrs a llwyddo yn y cyfweliad. Fodd bynnag, doedd gen i ddim lefel O yn Saesneg ac felly penderfynais ddychwelyd i addysg llawn amser. Dechreuais astudio pynciau ym maes gwyddorau cymdeithas gan gynnwys cymdeithaseg. Roeddwn yn mwynhau astudio gwyddorau cymdeithas gymaint nes i mi barhau i wneud lefel A ac yna gwneud gradd mewn Gwyddorau Cymdeithas yng ngholeg Polytechnig Dinas Sheffield, sef Prifysgol Hallam bellach. Yna cymerais flwyddyn allan a gwirfoddoli gyda'r Gwasanaeth Prawf gan ymgymryd â rolau amrywiol.
Yn 1981 astudiais Dystysgrif Addysg i Raddedigion yn arbenigo mewn Gwyddorau Cymdeithas. Arweiniodd hynny at i mi addysgu plant ag anghenion arbennig am 10 mlynedd mewn addysg uwchradd. Rwyf hefyd wedi gweithio i elusennau sy'n arbenigo mewn gweithio gyda throseddwyr ifanc. 40 mlynedd yn ddiweddarach, ar ôl ymddeol, penderfynais ddechrau dilyn cwrs MA mewn Troseddeg a Chymdeithaseg. Hwn oedd y penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed, yn enwedig byw ym mhentref y Santes Fair er mwyn i mi allu ymdrochi’n llwyr ym mywyd y brifysgol. Roedd y gefnogaeth gan yr aelodau staff yn wych. Cefais gefnogaeth wych gan y myfyrwyr ar y cwrs ac wrth fyw mewn neuadd breswyl. Roedd y myfyrwyr yn fy nhrin i'n gyfartal er fy mod dros ddwywaith eu hoedran! Ers graddio, rwyf wedi gwirfoddoli i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhlas Newydd mewn rolau amrywiol.
Os oes unrhyw fyfyrwyr hŷn yn ystyried dychwelyd i'r brifysgol, yna Prifysgol Bangor yw'r lle i fod. Fel maen nhw'n dweud, dydy hi byth yn rhy hwyr i ddysgu."