"Mae’r ddau ohonom yn cadw Coleg Prifysgol Gogledd Cymru a’n harhosiad ym Mangor yn uchel iawn yn ein hatgofion bywyd gan eu bod yn allweddol i’n gyrfaoedd, datblygiad proffesiynol, ac yn ddi-os hefyd i’n bywydau personol a theuluol."
Ar ôl derbyn grantiau gan y Cyngor Prydeinig, llwyddodd Salvador Sanchez-Colon a’i wraig Maria Elena i ddod o Fecsico i astudio eu MSc mewn Ecoleg ym Mangor yng nghanol yr 1980au. Yma mae Salvador yn dweud wrthym am eu hamser ym Mangor a gyrfa sydd wedi cynnwys gwaith yng Ngweinyddiaeth yr Amgylchedd Mecsico a nifer o asiantaethau'r Cenhedloedd Unedig.