“Cafodd fy ngwraig a fi ein dêt cyntaf yn y caffi ar ben draw Pier Bangor!”
“Cefais fy ngeni yn Everton, ar Lannau Merswy. Yn y slymiau roedd y tai gefn yng nghefn ac roedd y tai bach y tu allan, doedd dim ystafelloedd ymolchi, gerddi na dŵr poeth. Pan benderfynwyd dymchwel yr ardaloedd hynny cafodd fy nheulu ei symud i ystâd o dai cyngor ar gyrion y ddinas. Roedd y tŷ newydd yn foethus mewn cymhariaeth, ond roedd diweithdra yn frith yn yr ardal ac roedd llawer o broblemau cymdeithasol.
Roeddwn i’n ffodus yn yr ystyr fy mod i’n mynychu un o hen ysgolion gramadeg Lerpwl. Gadawodd y rhan fwyaf o fy nghyd-ddisgyblion i weithio ar ôl gwneud lefel “O”, ond cefais fy mherswadio gan fy athrawon gwyddoniaeth i fynd i'r chweched dosbarth a gwneud cais am le mewn prifysgol, peth anghyffredin iawn i'r rhan fwyaf o Scousers tŷ cyngor ar ddechrau’r chwedegau. Fe wnes i gais am le yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru i astudio botaneg a sŵoleg, sef dau o fy mhynciau lefel A.
Ar 28 Awst 1962 agorais y llythyr yn cynnig lle imi astudio botaneg amaethyddol, atebais ar yr un diwrnod yn derbyn eich cynnig.
Magwraeth hollol drefol oedd fy magwraeth i - doedd gen i ddim cysylltiad o fath yn y byd ag amaethyddiaeth. Cafodd unrhyw bryderon oedd gen i cyn gadael cartref eu lleddfu pan gyrhaeddodd llythyr yn llawysgrifen yr Athro Geoff Sagar yn fy nghroesawu i Fangor ac i’r Adran, gan ddweud y byddai, fel fy nhiwtor personol, yn rhoi cefnogaeth academaidd i mi. Wnes i erioed anghofio’r caredigrwydd hwnnw; flynyddoedd yn ddiweddarach pan ddeuthum yn diwtor personol fu hun, byddwn yn anfon llythyr personol tebyg at bob un o fy myfyrwyr tiwtorial y flwyddyn gyntaf.
Roedd gwasanaeth Bws Crosville Green bob dydd o Lerpwl i Fangor. Gadewais gartref gyda dim ond un cês dillad. Roedd y swyddog llety wedi fy rhoi mewn gwely a brecwast gyda Mrs Notter yn Ffordd Caernarfon. Roedd hi'n llym iawn, dim merched, un bwced o lo ar nosweithiau’r gaeaf, a’r drws wedi ei gau yn dynn erbyn 10.30pm. Arhosais gyda hi am ddau dymor; erbyn i mi raddio roeddwn wedi byw mewn 5 llety gwahanol ym Mangor.
Cefais fy nghroesawu i’r Adran Botaneg Amaethyddol gan yr Athro John Harper; fy nhiwtor, yr Athro Geoff Sagar; a Chymro bonheddig o’r enw Mr Dafydd Parry; tri athro deinamig.
Ar ddiwedd cyfarfod rhagarweiniol yr Adran pan oedd y coffi’n cael ei weini, roedd yr Athro Harper yn sgwrsio â mi, “David”, meddai, “there is no such thing as a buke, it is a book”. Roedd wedi sylwi ar fy acen Scouse! O'r eiliad honno, penderfynais ddysgu iaith newydd, sef Saesneg posh! Rhaid imi ychwanegu nad oedd yn bod yn angharedig, roedd John Harper yn adnabyddus am ei synnwyr digrifwch a'i getyn.
O'i gymharu â llawer o fyfyrwyr heddiw, roedd gen i amserlen brysur bob wythnos. Yn ogystal â'm prif bwnc roedd yn rhaid i bob myfyriwr yn y flwyddyn gyntaf ddewis dau is-gwrs, ac fe wnes i ddewis amaethyddiaeth a botaneg.
Roedd dosbarthiadau ymarferol fy nghwrs amaeth yn cael eu cynnal yn aml ar fferm y Coleg yn Abergwyngregyn. Yn ystod fy ail wythnos ymunais â dosbarth dan ofal G.M. Davis, a ddarlithiai am gynhyrchu cnydau. Gan fwyaf, myfyrwyr yn gwisgo wellingtons gwyrdd, cotiau seimllyd a chapiau stabal - iwnifform cefn gwlad - oedd yn y dosbarth. Canslwyd y daith gerdded o amgylch y fferm i gyfeiriad Rhaeadr Fawr oherwydd y glaw ac fe wnaethom swatio i lawr mewn ysgubor wair lle cyflwynodd Mr Davis bwnc trafod, “The adverse effects of fat hen on sugar beet production”. Ro’n i wedi drysu’n llwyr, a finnau’n dod o ddinas gerddorol a oedd wedi mopio am y Beatles, un sillafiad yn unig oedd i 'beat'. Yna fe ddechreuodd ofyn cwestiynau, ac mi lithrais yn is i guddio tu ôl i un o’r byrnau gwair.
Ar ôl dychwelyd i Fangor rhuthrais i'r llyfrgell i ddatrys y cysylltiad rhwng ieir tew a therminoleg gerddorol. Yn rhesymegol, fe es i'r adran ddofednod i ymchwilio i ieir beichiog!
Dyna ddechrau cromlin ddysgu enfawr; erbyn canol y tymor roeddwn yn fwy hyderus ac yn barod i holi'r myfyrwyr amaeth yn y dosbarth. Wnes i erioed brynu wellingtons gwyrdd yn ystod fy nhair blynedd ym Mangor, ond yn y diwedd fe wnes i orffen fy ngyrfa yn dysgu fy myfyrwyr fy hun mai chwyn âr ydy troed-yr-ŵydd, neu ‘fat hen’, a bod betys siwgr, ‘sugar beet’ yn cael ei dyfu yn Swydd Lincoln a Norfolk.
Mae gen i atgofion melys am y dosbarthiadau ymarferol awyr agored a gawsom yn ystod y ddwy flynedd a dreuliais yn yr adran botaneg. Roedd Dr Greig Smith yn ei elfen yn disgrifio ffenoteipiau glaswellt Marram ar y twyni tywod rywle yn Ynys Môn, ond ni ddeallais erioed y cysyniadau ecolegol yn ei lyfr enwog o'r enw Quantitative Plant Ecology.
Cefais y fraint o fynd gyda’r Athro Richards i gynefinoedd llaith i enwi mwsoglau a llysiau'r afu, ac ymuno â dosbarthiadau casglu ffyngau yr hydref gyda Dr Dobbs mewn coetiroedd ger Bethesda.
Rhaid imi sôn am Mr Woodhead a fynnai y gallai ei fyfyrwyr dorri sbesimenau perffaith o blanhigion i’w rhoi dan y microsgop yn defnyddio rasel hir. Daeth yn rhugl yn y Gymraeg ac roedd ei gyrsiau mewn anatomeg planhigion a thacsonomeg yn benigamp. Byddent o gymorth i lawer o fyfyrwyr heddiw sy'n astudio gwyddorau planhigion; rwy’n synnu y gall myfyriwr lwyddo i gael gradd dosbarth cyntaf mewn ffisioleg planhigion heb fod â llawer o wybodaeth am strwythur planhigion.
Cefais y fraint o fynd i ddarlithoedd gwych mewn tair Adran. Anaml y byddai fy adran fy hun, sef Botaneg Amaethyddol, yn amserlennu dosbarthiadau ymarferol ac ymweliadau allanol. O'r flwyddyn gyntaf roeddem fel myfyrwyr yn cael ein hannog i wneud gwaith arbrofol yn bennaf mewn tai gwydr ar do'r adeilad amaeth. Byddai’r gwaith yn golygu casglu data, dadansoddi, dehongli a llunio adroddiad ysgrifenedig. Roedd yr Athro Harper yn fwriadol yn annog ei fyfyrwyr i ddilyn astudiaethau ôl-radd a gyrfa ym maes ymchwil.
Ar ôl gadael Bangor ym 1965 fe wnes i PhD yn Sutton Bonington, Prifysgol Nottingham. Dylanwadodd gwaith ymchwil fy nhiwtor ym Mangor, yr Athro Sagar, ar y testun a ddewisais. Ar ôl cwblhau PhD, cefais fy nerbyn fel darlithydd iau yn Adran Amaethyddiaeth, Prifysgol Caergrawnt. Yn y fan honno wynebais fy ail gromlin ddysgu enfawr, cefais y dasg o gynorthwyo mewn dosbarthiadau ystadegau a dylunio arbrofol. Pan gaeodd yr Adran Amaethyddiaeth, derbyniais swydd yn Wye College, Prifysgol Llundain, yn dysgu am gynhyrchu cnydau a dylunio arbrofol i fyfyrwyr israddedig ac ôl-radd.
Cafodd fy ngwraig a fi ein dêt cyntaf yn y caffi ar ben draw Pier Bangor! Pan oedd ein hail ferch, Hannah, yn llenwi ei ffurflen UCAS roeddwn yn gobeithio y byddai'n cynnwys Bangor. Fe deithiodd yn eithaf annibynnol i sawl campws, a chael sawl cynnig yn seiliedig ar ei chanlyniadau Lefel A. Cyrhaeddodd gwahoddiad hwyr o Fangor yn ystod mis Tachwedd 1991, ac roedd Hannah yn eithaf amharod i deithio yno. Ac roedd ei thad yn anhapus!
Gan ddefnyddio’r esgus yr hoffwn i ailymweld â’r ddinas, fe gynigiais fynd gyda hi ar y trên o Gaint, aros mewn gwely a brecwast, a gadael iddi fynd am ei chyfweliad yn adeilad Thoday. Nid oedd adrannau ar wahân bellach ar gyfer Botaneg, Amaethyddiaeth a Botaneg Amaethyddol, erbyn hynny câi ei galw yn Adran Rheolaeth Adnoddau Gwledig.
Yn dilyn sesiwn ragarweiniol fer cawsant eu cludo mewn bws i fferm Aber lle clywais i gyntaf erioed am ‘fat hens’. Aethant i Ddyffryn Aber yng nghwmni Dr David Wright i drafod glaswelltir a phori defaid. Pan es i gyfarfod Hannah ar ôl cinio, fe gyhoeddodd “Dad dwi'n dod i Fangor”
Ar y daith yn ôl i Fangor ym mis Hydref 1992 roedd llond y car o ddillad a theclynnau technegol, llawer gormod i un cês dillad! Fe ddringon ni Lôn Pobty i hen Goleg y Santes Fair, sydd bellach yn neuadd breswyl i fyfyrwyr. Mae’n rhaid i mi gyfaddef i mi golli ambell ddeigryn wrth i ni yrru oddi yno.
Cefais wahoddiad gan David Wright i gyflwyno ambell ddarlith ar gnydau hâd olew ledled byd i israddedigion Bangor. Gyda chryn falchder fe welais fy merch yn gwenu arnaf yn narlithfa Thoday lle roeddwn i wedi mynychu darlithoedd yr Athro Richards yn ystod y chwedegau. Pan raddiodd Hannah ym 1995 yn Neuadd PJ, cafodd ei thystysgrif gradd ei rhoi iddi gan yr Athro Sagar, fy nhiwtor mewn Botaneg Amaethyddol. Cyfarfu Hannah â Chymro o Ynys Môn a Jones yw ei chyfenw bellach! Mae hi bellach yn Bennaeth Cynorthwyol mewn ysgol uwchradd fawr yng Nghaint.
Bu’r dair blynedd hyfryd a dreuliais i ym Mhrifysgol Bangor yn sylfaen ardderchog ar gyfer gyrfa mewn ymchwil Amaethyddol. Roeddwn yn ffodus nad oedd fy narlithwyr yn cael eu poeni gan ymarferion asesu ymchwil. Roedd ganddyn nhw’r amser i gyfarwyddo a chefnogi fy nghynnydd academaidd i.
Os oes cyd-aelodau o fy nosbarth Botaneg Amaethyddol i yn darllen y llith hwn, byddwn wrth fy modd yn clywed oddi wrthych.”
E-bost: d_scarisbrick@hotmail.com