Roedd fy mryd ar ddilyn gyrfa mewn gwyddoniaeth erioed. Serch hynny, nid tan astudio BSc Gwyddorau Biofeddygol ym Mhrifysgol Bangor y darganfyddais fy angerdd dros ficrobioleg. Roedd y cwrs yn cwmpasu amrywiaeth o fiowyddorau ac mi gefais brofiad ymarferol mewn labordy o'r sesiynau ymarferol niferus yn ystod fy ngradd. Ym mlwyddyn olaf fy ngradd, cwblheais fy nhraethawd hir, a oedd yn adolygiad llenyddiaeth systematig ; 'Effeithlonrwydd y brechlyn ffliw ar gyfer clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint”. Dyna oedd fy mhrofiad cyntaf o ymchwil annibynnol. Cyfrannodd yn helaeth at fy mrwdfrydedd dros ymchwil. Graddiais yn 2020 gyda gradd dosbarth 1af BSc (Anrh). Roedd y misoedd diwethaf yn heriol oherwydd yr angen i addasu i ddysgu ar-lein oherwydd y pandemig COVID.
Roedd Bangor yn ddinas anhygoel i astudio ynddi, roedd popeth o fewn cyrraedd a bywyd gwych i fyfyriwr. Fe wnes i gymaint o atgofion anhygoel yn ystod yr wythnosau cyntaf yn y brifysgol yn gwneud ffrindiau gyda phobl o neuaddau’r myfyrwyr ac ar fy nghwrs.
Mae gan y brifysgol lwyth o glybiau a chymdeithasau i ymuno â nhw, ac er imi roi cynnig ar sawl un, gan gynnwys pêl-droed a’r gymdeithas lysieuol a fegan; gyda Chymdeithas Ambiwlans Sant Ioan y bûm fwyaf gweithgar. Pe cawn i wneud y cyfan eto, byddwn yn ymuno â mwy o gymdeithasau ac yn gwneud yn fawr o'r hyn sydd ar gael. Roedd Cymdeithas Sant Ioan yn ffordd wych o ryngweithio â phobl oedd yn dilyn gwahanol raddau yn ogystal â dysgu sgiliau achub bywydau. Cefais amser gwych bob tro.
Ar ôl graddio symudais i Fanceinion yn ystod y pandemig a phenderfynais fod angen profiad arnaf mewn labordy er mwyn symud ymlaen yn fy ngyrfa. Cefais swydd yn Libra Speciality Chemicals fel technegydd labordy’n rheoli ansawdd. Er y gwyddwn nad dyma’r maes gwyddoniaeth penodol yr oeddwn am ei astudio, cefais brofiad allweddol fel cadw at weithdrefnau gweithredu safonol a thechnegau profi cemegau, yr wyf yn dal i'w defnyddio hyd heddiw. Ar ôl blwyddyn o ennill profiad yn y diwydiant roeddwn i'n teimlo ei bod hi'n bryd dychwelyd i fyd addysg i ehangu fy set sgiliau ac felly dechreuais wneud cais am radd meistr mewn microbioleg.
Rhwng 2022 a 2023 cwblheais MSc mewn Microbioleg Feddygol yn Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain gan ennill marc Rhagoriaeth. Treuliais 3 mis olaf fy ngradd MSc yn cynnal project ymchwil annibynnol. Teitl fy mhroject oedd “Gwerthuso Cyfansoddion Gwrthficrobaidd Newydd ar gyfer Trin Heintiau yn y Llwybr Resbiradol”. Cwblhawyd y gwaith hwnnw yn Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain yn y Labordy Ymchwil Amgylcheddol, ac rwyf yn dal i weithio yno heddiw. Ar ôl cwblhau fy mhroject ymchwil, penderfynodd fy ngoruchwylydd fod lle i ehangu'r project a chefais fy nghyflogi fel Microbiolegydd Ymchwil. Ers hynny, bûm yn ymwneud â nifer o brojectau ymchwil gan gynnwys ymchwiliadau clinigol i achosion a phrofion gwrthficrobaidd ar gyfer nifer helaeth o achosion amgylcheddol. Pseudomonas aeruginosa a ynyswyd. Cefais gyfle hefyd i fynd i gynadleddau yn y Deyrnas Unedig a thramor. Yn 2023 euthum i Gynhadledd Cyngres Microbioleg Glinigol a Clefydau Heintus Ewrop yn Nghopenhagen, Denmarc.
Edrychaf ymlaen at yr hyn a ddaw yn fy ngyrfa, a hoffwn barhau i ddatblygu fy mhrofiad ymchwil gyda'r posibilrwydd o wneud PhD. Agorodd Prifysgol Bangor fyd o gyfleoedd imi a bydd yn un o fy hoff ddinasoedd hyd byth.