“Mi fedrwch chi gyflawni llawer iawn o ganolbwyntio ac ymdrechu'n gyson”
“Helo, Gaz ydw i. Graddiais o Brifysgol Bangor yn 2004 gydag MEng mewn Peirianneg Electronig. Yna gwneuthum 3 blynedd arall o astudio ôl-radd. Mwynheais fy amser yn y Brifysgol, yn enwedig y darlithoedd a'r gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag entrepreneuriaeth. Rwyf hefyd yn hoff iawn o'r ardal gan fy mod i'n mwynhau gweithgareddau awyr agored ac mae Eryri'n agos.
Sefydlais fy musnes yn fy amser hamdden tra roeddwn yn gwneud astudiaethau ôl-radd ym Mangor. Dilynais sesiynau tiwtorial ar-lein a dechrau gwneud gwefannau a gemau ar-lein am ddim. 10 mlynedd yn ddiweddarach ac rydw i bellach wedi gwneud dros 100 o gemau ac yn rhedeg gwefan boblogaidd o'r enw FreeGames.org. Mae fy ngemau wedi cael eu chwarae filiynau o weithiau ac rydw i wedi ennill sawl gwobr fusnes. Rwyf hefyd wedi cael fy enwebu gan BAFTA ddwywaith ac wedi torri Record Byd Guinness!
Roedd Prifysgol Bangor yn gefnogol i'm busnes o'r cychwyn cyntaf. Mae gan bob myfyriwr fynediad at gymorth menter am ddim a chefais fy mentora mewn busnes am ddim yn ogystal â chael mynd i weithdai defnyddiol. Ers imi adael, mae Prifysgol Bangor wedi cynyddu’r gefnogaeth fusnes y mae’n ei chynnig i’w myfyrwyr ac yn gweithio’n agos gyda Syniadau Mawr Cymru yr wyf bellach yn Fodel Rôl iddynt.
Mae dyfodol cyffrous i FreeGames.org. Mae mynd yn entrepreneur a dal ati i wneud hynny yn un o'r penderfyniadau gorau imi ei wneud erioed. Fy nghyngor i'r rhai sy'n cychwyn y siwrnai yw gwnewch yr hyn rydych yn frwd drosto. Bydd y ffordd yn hir a bydd yna amseroedd caled (a newid cyfeiriad fwy nag unwaith), ond mi fedrwch chi gyflawni llawer iawn o ganolbwyntio ac ymdrechu'n gyson.
Gallwch ymweld â'm gwefan i chwarae am ddim gemau ar-lein yma: https://freegames.org/”