“Rwy’n fythol ddiolchgar i’r Brifysgol a’r Ddinas am roi profiadau arbennig iawn imi a llenwi fy mhen â gwybodaeth rwy’n ei defnyddio hyd heddiw.”
“Dechreuais fy ngradd mewn Botaneg gyda Botaneg y Môr ym Mangor ym 1975. O ran dewis pwnc y galon oedd yn drech. I ddechrau cefais fy ysbrydoli gan Lumberjack Song Monty Python a gwnes gais am radd Goedwigaeth a Gwyddor Coed. Ond roedd yn rhaid imi ychwanegu 4 opsiwn arall at fy ffurflen UCCA, ac oherwydd bod prosbectws Bangor wrth law fe wnes i gais am y cwrs Botaneg a Botaneg y Môr (ac er mwyn darlunio'r ffaith fod y galon yn drech na'r pen y pumed dewis oedd Bragu yng Nghaeredin). Bu gen i ddiddordeb mewn bioleg erioed a phlanhigion yn bennaf - credaf i wersi darnio morgwn yn yr ysgol gadarnhau'r penderfyniad hwnnw (a'm gwneud i'n llysieuwyr am oes hefyd). Felly, erbyn imi gael graddau Lefel A digonol (ac o dan ddylanwad arwyr fy llencyndod - David Bellamy a Jacques Cousteau) dewisais y cwrs Botaneg gyda Botaneg y Môr. Wnes i rioed ddifaru'r dewis.
Gwyddwn o'r diwrnod cyntaf imi ddewis y Brifysgol iawn er na fues i erioed yng Ngogledd Cymru. Gyrrodd fy rhieni fi o Sir Durham ar wibdaith i Ddinas Bangor i gael cip ar yr Adran Bioleg Planhigion. Aethon ni ddim i mewn ond cawson ni sgwrs braf gyda'r dyn a oedd yn glanhau'r drws ffrynt gwydr mawr. Gadawodd dyn hynod drwsiadus â dici-bo yr adeilad a safodd yn gwrtais iawn i sgwrsio â mi a fy rhieni a chyfarch y glanhawr yn wresog gan ddefnyddio ei enw (roedd hynny'n gofiadwy). Yn ddiweddarach, dysgais mai'r Athro Harper oedd y dyn ac mi ddaeth yn arwr imi mewn dim o dro. Yna gyrrodd fy rhieni fi i'r llety a oedd wedi'i drefnu imi ym mhentref Tregarth. Yng ngwesty Pant yr Ardd gydag Artist Americanaidd ecsentrig. Ofnwn y byddai'n rhaid imi ymdopi â chriw o gydletywyr hynod ddeallusol, ond mewn byr amser fe wnaeth y saith hogyn arall a oedd yn lletya ym Mhant Yr Ardd imi deimlo'n gartrefol. Dyma fi'n tywys fy rhieni o'r fan mor gyflym ag y gallwn yn rhesymol ac ymdoddi'n ddidrafferth i fywyd y coleg. Y broblem gyntaf ar y noson gyntaf oedd wynebu'r ffaith nad oedd tafarndai yn Nhregarth diolch i'r Arglwydd Penrhyn. Ond fe wnaethon gerdded i Fethesda'r noson honno a mwynhau'n arw a dod yn gyfeillion yn fuan iawn. Rwy'n credu fy mod yn iawn i ddweud bod holl dafarndai Bethesda (ac roedd yna lawer ohonynt) ar un ochr i'r ffordd oherwydd bod canol y ffordd yn nodi terfyn dylanwad sobreiddiol yr Arglwydd Penrhyn.
Roedd wythnos y glas yn hwyl er gwaethaf y daith hir ar y bws o Tregarth i Fangor (un o nodweddion fy mlwyddyn gyntaf!). Roedd bws rheolaidd a ymunai â'r A5 yn union y tu allan i Dregarth, a bws lleol achlysurol lliw porffor, hen a gwichlyd ac a ddeuai i Fangor i lawr Lôn Popty. Honno oedd orau gen i.
A minnau ar grwydr yn Ffair y Glas yn meddwl tybed sut medrwn i sefydlu fy hun mi wnes i daro ar hen ffrind o'r ysgol yn Bishop Auckland a fu'n un o sêr tîm hoci'r ysgol ac a fu ym Mangor ers blwyddyn. Buaswn innau'n chwarae i dîm yr ysgol ond doeddwn i ddim yn chwaraewr a oedd yn rhagori o bell ffordd. Ond cefais fy machu'n syth bin i fyd hoci ym Mangor ac felly y bu. Ymunais hefyd â'r clwb deifio sgwba (dylanwad Cousteau eto). Roedd byd cymdeithasol helaeth o gwmpas yr hoci. Byddai'r timau hoci'n cwrdd yn rheolaidd yn y King's Arms ar y stryd fawr (neu'r King's Legs fel y byddem yn galw'r lle yn ein clyfrwch) ac yn mwynhau teithiau epig i chwarae timau eraill Prifysgol Cymru - roedd y teithiau'n epig o ran pellter o ystyried pa mor bell oedd Bangor o bob man arall â'r ffyrdd yn arafach o ddigon nag ydynt yn awr. Roedd tîm hoci Bangor yn rhyfeddol o gryf yn y cyfnod hwnnw ac fe gyrhaeddodd y tîm cyntaf rownd derfynol yr UAU tra oeddwn i yno.
Ym Mangor datblygais ddiddordeb ysol mewn gwylio adar - yn bennaf trwy ffrind da (sy'n dal yn ffrind imi) a oedd hefyd yn chwarae hoci (a ninnau ymhlith hoelion wyth yr ail dîm - gan chwarae'n achlysurol iawn i'r tîm cyntaf). Cofnodwyd yr adar lleol gwerth eu gweld mewn llyfr nodiadau yn y llyfrgell Sŵoleg ac felly byddem yn galw heibio yn aml i weld a oedd rhywun wedi gweld rhywbeth anarferol. Un atgof gwych sydd gen i o wylio adar ym Mangor yw cerdded o bentref Aber ac o amgylch Rhaeadr Aber i fyny hyd at gopaon y Carneddau fis Mai i weld yr Hutan (cornicyll bach ysblennydd) a oedd yn mudo i'r gogledd i fridio ym Mynyddoedd Cairngorm yn yr Alban neu i Lychlyn.
O fyw y tu allan i'r dref rhaid oedd llenwi amser rhwng y darlithoedd a'r sesiynau ymarferol. Yn anochel, treuliem oriau yn Undeb y Myfyrwyr. Cofiaf fod blas te ac oglau cwpanau plastig ar baneidiau'r lolfa grom - a rholiau caws a nionyn hefyd. Roedd yr ystafelloedd pinbel a phêl-droed bwrdd hefyd yn ffefryn gennym ac yno buom yn cymysgu â changen Bangor o Blaid Chwyldroadol y Gweithwyr. Byddai gemau hir o snwcer hefyd pan allem sicrhau bwrdd. Roedd gan yr Undeb faddonau hefyd (un baddon bach oedd yn ein llety ar gyfer 8 ohonom) a byddem yn mwynhau moethusrwydd baddon twym dwfn yn ystod misoedd oer y gaeaf - ar ôl hel y chwilod duon allan. Cofiaf y myfyrwyr Sŵoleg yn llechu yn yr ystafelloedd ymolchi er mwyn casglu chwilod duon er mwyn gwneud pethau erchyll gyda nhw fel y byddai myfyrwyr sŵoleg. Uchafbwynt yr wythnos oedd dawnsio yn Nisgo'r Lolfa Grom - byddem yn dawnsio i bob mathau o bethau er mai 'The Jean Genie' Bowie sy'n aros yn y cof. Dyna i chi brofiad chwyslyd a gwlybaniaeth yn rhedeg i lawr y ffenestri erbyn diwedd y nos. Bu chwyldro cerddorol yn ystod fy nghyfnod ym Mangor gyda dyfodiad pync ac rwy'n cofio gweld The Stranglers ym mar yr Undeb. Roedd gan Fangor ei band pync ei hun hefyd - The Inadequates - roedden nhw'n wirioneddol wych, a ninnau'n dawnsio'r pogo.
Yn fy ail flwyddyn, symudais gyda ffrind i fflat yn Llanfairfechan - rhwng y môr a'r mynydd. Dipyn o daith i Fangor ond roedd modd bodio i mewn ac arbed pris y bws. Deuai ymwelwyr lu yno ddydd Sul a thafarndai Bangor ar gau a Llanfairfechan ar agor. Cawsom groeso mawr gan y bobl leol a byddem yn mynd â'n gwaith efo ni i'r dafarn lle byddai croeso cynnes inni - yn llythrennol ac yn drosiadol.
Ac yn olaf, yn fy nhrydedd flwyddyn symudais i'r ddinas - i Neuadd Emrys Evans. Ni allaf gofio rhif fy ystafell, ond roedd ar y llawr gwaelod yn y gornel lle roedd llwybr yn torri trwyddo rhwng yr adeiladau. Ac felly gallwn godi llaw a chyfarch pawb a âi heibio. Roedd yna gymeriadau ar yr un llawr hefyd, yn rhannu cegin, yn dwyn llefrith - a'r cyfan o dan oruchwyliaeth deg ond cadarn Mrs Hughes.
A pheidied ag anghofio'r elfen academaidd! Roeddwn i wrth fy modd gyda'r cyfan. Dysgais gymaint a fu'n gefn imi yn fy ngyrfa. Cefais fy nysgu gan bobl hynod a charedig yn yr Adran Forol ym Mhorthaethwy ac yn yr Adran Bioleg Planhigion yn y ddinas. O fwrw trem yn ôl, gallaf fyfyrio ar ansawdd yr hyn a gyflwynwyd.
Mae cymaint o atgofion eraill, deifio sgwba yn Chwarel Dorothea, criced gyda'r tîm Botaneg (diolch i Dr. Shattock), prynu casetiau rhad yn Recordiau Cob Porthmadog, rhedeg ar Draeth Lafan, cymryd samplau dŵr ac algau ar lethrau creigiog Mynydd Parys, mynd i samplu yn y Fenai ar long y Tywysog Madog, teithiau maes botaneg i Juniper Hall a Malham, ystafell deledu’r Undeb yn gwylio rhaglenni General Hospital (a Lloegr yn cael eu chwalu gan dîm Rygbi Cymru) a gwthio gwely ysbyty o Gaernarfon i Fangor fel stynt wythnos rag - pawb yn ffrindiau wedyn ac ymdeimlad dwys o gyfeillgarwch. Myfyrwyr a staff Bangor oedd y gorau - halen y ddaear!
Yn y pen draw, roedd yn drist gadael. Cawsom hwyl am y tro olaf wrth raddio ac yna roedd y cyfan ar ben. Llwythwyd yr ymennydd yn llawn serch hynny, a chamais ymlaen i wneud gradd PhD mewn Botaneg yn Durham ac yna bywyd yn llawn anturiaethau ledled y byd - Affrica yn bennaf - yn gweithio mewn nifer o swyddi a oedd yn cynnwys addysgu, ymchwilio, yr amgylchedd a chadwraeth. Rwy'n dal wrthi. Symudais i Ddinas Efrog Newydd yn 2001, syrthio mewn cariad, priodi, cawsom fab, teithio'r byd i gefnogi prosiectau cadwraeth a glanio o'r diwedd yn Sir Boulder, Colorado a dyna lle rwyf i ar hyn o bryd yn cyfarwyddo prosiect i warchod adar glaswelltir peithdir mawr gorllewin America.
Ond eto, yr hyn a gofiaf orau yw caredigrwydd pobl. Gwnaethpwyd rhai ffrindiau oes, ac mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi fy helpu i ailgysylltu â rhai eraill. Ond rwy'n cofio cymaint o fomentau ac wynebau (hyd yn oed os na allaf gofio'r holl enwau). Rwy'n cofio fy amser ym Mangor gyda diolchgarwch mawr (ac ie, ychydig o hiraeth!). Trwy sbienddrych amser rwy'n cofio dyddiau dibryder braf ac rwy’n fythol ddiolchgar i’r Brifysgol a’r Ddinas am roi profiadau arbennig iawn imi a llenwi fy mhen â gwybodaeth rwy’n ei defnyddio hyd heddiw.
Wrth ysgrifennu hyn o lith, es i ar daith fach ar-lein o'r llefydd roeddwn i'n eu hadnabod ym Mangor a'r cyffiniau. Mae rhai wedi diflannu, dyw rhai ddim fel y cofiaf i nhw ac mae rhai'n union fel rwy'n eu cofio. Yn drist ddigon, yn y 42 mlynedd ers imi adael, ni fûm i yn ôl - ar ôl COVID bydd yn rhaid imi unioni hynny a pherswadio fy nheulu i ddod ar daith hiraeth i ogledd Cymru hardd - mae'n debygol y bydd glaw! ”