
Pam dewisais i Fangor i astudio Mathemateg? Roeddwn i yn y llyfrgell yn fy ngholeg, yn Blackburn, yn pori drwy ffolderi prifysgolion. Dechreuais ar “A”, gan neidio dros Aberystwyth (rhy anodd ei sillafu) ac Aberdeen (rhy bell), a symud ymlaen i “B” – a doedd dim angen edrych ymhellach. A minnau wedi fy magu mewn tref yng ngogledd Lloegr, roedd gweld mynyddoedd, llynnoedd a choedwigoedd gogledd Cymru yn ddigon i wybod fy mod wedi darganfod lle roeddwn i eisiau treulio'r tair blynedd nesaf.
Roedd hefyd yn help, gyda llaw, bod gradd mathemateg Bangor yn gweddu’n berffaith at fy niddordebau, a bwysai’n drwm ar bleserau haniaethol mathemateg bur. Yn anffodus, nid yw'r adran fathemateg yn bodoli mwyach, ond bryd hynny roedd yn lle anhygoel i fod.
Yn rhyfeddol, es i ddim i Ddiwrnod Agored, gan roi fy holl ffydd yn addewid y prosbectws. Ym mis Medi, gyrrodd fy mrawd fi i lawr mewn fan wedi'i llogi yn llawn i’r ymylon gyda dillad gwely a llyfrau. Bu'n rhaid i mi atal fy mam rhag fy anfon ymaith gyda phentwr anferth o sosbenni - nid oedd hi'n argyhoeddedig y byddai bwyd neuadd breswyl Reichel yn addas.
A bod yn deg â hi, doedd bod mewn neuadd arlwyo ddim yn hawdd. Cefais fy magu ar aelwyd Fwslimaidd, ac roedd fy chwaeth yn draddodiadol iawn. Roedd bwyd llysieuol yn dal i fod yn brin y tu allan i'r dinasoedd mawr. Eto i gyd, rywsut, llwyddodd y tîm arlwyo i ddod o hyd i gyw iâr halal yng ngerwinder gogledd Cymru. Bron bob nos yn ddieithriad, cawn frest o gyw iâr sych, wedi'i or-goginio, gydag amrywiaeth o lysiau wedi'u berwi. Buasai'n wallgof cwyno.
Doeddwn i ddim wedi byw oddi cartref o'r blaen, ac roedd bywyd prifysgol yn sioc ddiwylliannol. Ar wahân i'r bwyd (lle canfyddais fwydydd egsotig am y tro cyntaf fel caws, madarch, courgettes a saws Dolmio), dysgais sut roedd pobl eraill yn byw. Yn fy ail flwyddyn, rhannais dŷ myfyrwyr ar Ffordd Garth Uchaf gyda chwech arall. Dysgais nad oedd Saeson yn rinsio eu llestri ar ôl eu golchi efo sebon, y cai te ei wneud mewn tegell yn hytrach na'r ‘chai’ a wnâi Mam ar y stôf, ac y rhoddid menyn ar dost ar ôl crasu’r bara (roeddwn i wedi arfer â thost wedi'i wneud o fara wedi'i orchuddio â menyn yn gyntaf ac yna wedi ei roi ar radell boeth).
Pan nad oeddwn yn trin rhifau, dechreuais ymwneud â phapur newydd y myfyrwyr, Y Seren. Roedd yn dda cydbwyso fy ymennydd rhesymegol gyda rhywbeth mwy creadigol. Ysgrifennais bob math o ddarnau - yn straeon newyddion am yr orsaf bŵer newydd ar gyfer Trawsfynydd, adolygiadau o sioeau yn Theatr Gwynedd (gan danio cariad gydol oes at y celfyddydau), a chyfweliad gyda David Icke (amhosib cael ateb pendant ganddo, gan ei fod yn defnyddio mil o eiriau pan fyddai deg wedi gwneud).
Ar ôl graddio, des i Lundain a dilyn diploma ôl-radd mewn Newyddiaduraeth. Roedd fy amser yn gweithio ar Y Seren wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod eisiau gweithio gyda geiriau, nid rhifau. Bûm yn newyddiadurwr am sawl blwyddyn wedyn, yn arbenigo mewn cylchgronau plant a merched ifanc. Yn y pen draw, derbyniais nad oedd newyddiaduraeth yn mynd i fy helpu i brynu tŷ. Felly, ymunais â chwmni cyfreithiol yn y ddinas fel gweithiwr achlysurol. Ni adawais i erioed. Roeddwn i yno am 27 mlynedd.
Yn ystod y pum mlynedd diwethaf dechreuais ysgrifennu eto - ffuglen y tro hwn. Dechreuodd fy straeon byrion ennill gwobrau. Enillodd un stori, “Home from Home”, wobr aur y Creative Future Writers Awards. Daeth y stori yn sail i fy nofel gyntaf, Northern Boy, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2024, ar ôl ennill cystadleuaeth a gynhaliwyd gan y cyhoeddwr Unbound. Mae’n stori ynglŷn â chyrraedd llawn oed, wedi’i gosod ar ddechrau’r 1980au mewn tref felinau yn Swydd Gaerhirfryn, am fod yn “glöyn byw ymhlith y brics”.
Yn 2025, penderfynais ddod yn awdur amser llawn, gan ffarwelio â diogelwch y Ddinas. Weithiau, mae angen i chi gymryd naid i'r tywyllwch. Yn union fel pan ddewisais i Fangor heb fynychu Diwrnod Agored. Dim difaru, dim amser i newid eich meddwl, dim ond mynd amdani a gwybod y bydd amseroedd a chyfleoedd anhygoel o'ch blaen.
Mae Northern Boy ar gael o bob man arferol, gan gynnwys Unbound, Amazon, Waterstones a bookshop.org. Gallwch hefyd wrando arno fel llyfr sain, yn Audible.