“Mae fy ffrindiau o Fangor ymhlith y rhai agosaf hyd heddiw”
“Cyn imi ddechrau fy ngradd mewn Llenyddiaeth Saesneg a Ffrangeg ym Mangor, gadewais fy nghartref yn Guernsey i weithio am flwyddyn fel au pair yn ne Ffrainc. Er mai Bangor oedd fy newis cyntaf o blith y prifysgolion, roeddwn yn byw’n rhy bell i ffwrdd i ymweld ac felly roedd cyrraedd y dref fechan fryniog honno’n dipyn o sioc ddiwylliannol imi, a’r awyr heb ymdebygu dim i awyr Fôr y Canoldir, a chyfuniadau cytseiniol diddorol i fynd i’r afael â nhw!
O feddwl yn ôl, nid oedd Bangor yn ddewis amlwg imi. Rwy'n hoffi anhysbysrwydd a bywyd diwylliannol cyfoethog y prifddinasoedd. Doeddwn i ddim yn hoff o chwaraeon a doedd gen i ddim awydd dringo na cherdded mynyddoedd – doeddwn i ddim hyd yn oed yn berchen ar gôt gnu! Ond clywais bethau da am gyfadran y Celfyddydau, ac erbyn y trydydd tymor, deuthum o hyd i fy mhobl ymhlith fy nghyd-fyfyrwyr Llên Saesneg.
Roeddwn wrth fy modd yn ysgrifennu'n greadigol a gwelais fy ngeiriau mewn print am y tro cyntaf ychydig flynyddoedd ynghynt, pan gafodd darn a ysgrifennais am ddisgos ysgol ei ddewis i'w gyhoeddi mewn blodeugerdd ynglŷn â bywydau merched ifanc gan Virago Press. Ond fel myfyrwraig israddedig, rhaid imi gyfaddef imi dreulio mwy o amser yn siarad am ysgrifennu nag yn ei wneud go iawn! Mae gen i atgofion hyfryd o eistedd ar y gwair y tu allan i neuadd breswyl Llys Tryfan, mewn tywydd poeth iawn (do, mi gynhesodd yn y pen draw) yn trafod bywyd, cariad, a’r beirdd metaffisegol, gyda phobl oedd yn malio cymaint â minnau am am bethau llenyddol.
Mae'r hyn a ddywedant am gyfeillion prifysgol yn wir- mae fy ffrindiau o Fangor ymhlith y rhai agosaf hyd heddiw. Dydw i ddim yn fawr o saer er imi rodio’r llwyfan fel Mrs Cratchit mewn perfformiad BEDS (Cymdeithas Saesneg a Drama Bangor) o A Christmas Carol, a rhoddais y fath fonclust i glustiau Tiny Tim nes i lens cyffwrdd yr actor gwympo allan. (Rhai anhafladwy oedd i’w cael y dyddiau hynny ac felly buom ar ein pedwar am beth amser yn chwilio amdani. Mae'n ddrwg gennyf, Paula!)
Graddiais yn 1993 a’r Deyrnas Unedig mewn dirwasgiad. Dywedodd fy nhiwtor Saesneg yn y flwyddyn olaf, Dr Sylvia Ellis, y gallai fy ngweld “yn y byd cyhoeddi”, ond roedd cystadleuaeth ffyrnig am swyddi lefel mynediad. Roedd gen i awydd ysgrifennu o hyd ac roedd gen i'r syniad o wneud MA mewn Ysgrifennu Nofelau ym Mhrifysgol Manceinion, ond ni fyddai fy sefyllfa ariannol yn caniatáu hynny.
Felly, fe wnes i’r un peth ag y gwnaeth nifer o raddedigion ar y pryd a chofrestru ar gwrs dwys pedair wythnos mewn Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor. Aeth hyn â fi i Dwrci am flwyddyn ac yna i Barcelona. Mwynheais ddysgu mwy nag yr oeddwn wedi ei ddisgwyl, ac roeddwn wrth fy modd yn byw dramor a'r holl brofiadau newydd a’r cymeriadau diddorol. Ro’n i’n sgwennu’n achlysurol bob hyn a hyn, ond nid euthum ati o ddifri’ i ysgrifennu’r nofel honno!
Deuthum yn ôl i’r Deyrnas Unedig a gwnes gais am swyddi golygyddol di-ri’ ym maes cyhoeddi llyfrau, nes o’r diwedd cynigiwyd rôl golygydd cynorthwyol imi yn Adran Dysgu Saesneg Gwasg Prifysgol Rhydychen. Roedd Dr Ellis yn iawn - roedd yn gweddu’n dda imi a dros y pum mlynedd ar hugain nesaf, bûm yn gweithio i sawl cyhoeddwr mawr gan gynnwys Scholastic, Macmillan a Penguin Random House.
Nid tan fy mhenblwydd yn ddeugain y dechreuais feddwl y dylwn gymryd fy ysgrifennu ychydig yn fwy o ddifrif. Cofrestrais ar gyfer dosbarth nos mewn ysgrifennu nofelau a dechreuais fy nofel gyntaf, After the Affair. Cyrhaeddodd restr fer cwpl o gystadlaethau ond ni lwyddodd i sicrhau asiant imi. Felly, ysgrifennais un arall, a ysbrydolwyd gan hanes y teulu, a’i gosod ar Guernsey, yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Y teitl gwreiddiol oedd The Watcher of Hauteville House, ac fe'i bachwyd gan asiant yn nyddiau tywyll y clo, a rhoi teitl newydd, The French House iddi a'i chyflwyno i gyhoeddwyr yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Gallaf ddweud yn onest mai’r diwrnod y cefais gynnig cytundeb am ddau lyfr gan Hodder a Stoughton, ychydig cyn y Nadolig oedd un o eiliadau gorau fy mywyd!
Mae The French House newydd ei chyhoeddi, a bydd fy ail nofel hanesyddol The Golden Hour, allan y flwyddyn nesaf. Ac mae’n debyg nad yw’n syndod bod y ffrindiau o Fangor y bûm i’n byw, yn teithio ac yn rhannu fy meddyliau mwyaf personol â nhw ddeng mlynedd ar hugain ynghynt, yno’n llu yn lansiad y llyfr, yn porthi ac yn cymeradwyo, yn deall bron cystal â minnau yr hyn yr oedd y cyfan yn ei olygu.”
www.jacquiebloese.com
Mae The French House ar gael nawr mewn clawr caled, e-lyfr a llyfr sain.
Amazon
Waterstones
Goldsboro Books