“Rhoddodd fy nghyfnod ym Mhrifysgol Bangor gymaint o hyder, annibyniaeth a chred yn fy ngallu fy hun i mi”
“Rwy’n dal i gofio’r tro cyntaf i mi ymweld â Bangor - roeddwn i wedi penderfynu cymryd golwg ar y Brifysgol, heb wybod dim am y ddinas heblaw am y ffaith bod ganddi lun hyfryd iawn ar glawr y prosbectws! Roedd yn ddiwrnod heulog pan wnes i gamu oddi ar y trên, a disgynnais mewn cariad â Bangor ar unwaith, ac o hynny ymlaen doeddwn i ddim hyd yn oed eisiau ystyried prifysgol wahanol. Mae'n amlwg na chwaraeodd y dwysedd uchel o dafarndai unrhyw ran yn y penderfyniad hwnnw…
Roeddwn i wrth fy modd yn tyfu i fyny yn Birmingham ond ni allai Gogledd Cymru fod wedi bod yn fwy o wrthgyferbyniad iddo. I mi, roedd byw yn rhywle gyda'r môr, mynyddoedd a thraethau o'n cwmpas, lle byddwn i'n gweld rhywun roeddwn i'n ei adnabod bob tro y byddwn i’n cerdded i lawr y stryd, yn brofiad anhygoel ac yn gwbl estron i mi. Pan gyrhaeddais ar fy niwrnod cyntaf, roeddwn i wedi cael fy mhennu i neuadd breswyl Bryn Eithin uwch ben Safle’r Santes Fair, ac roedd gyrru i fyny'r mynydd hwnnw am y tro cyntaf yn dipyn o brofiad. Roeddwn i'n gwybod bryd hynny na fyddwn i'n rhoi’r 14 pwys hynny ymlaen sy’n safonol i lasfyfyrwyr! Roedd yn neuadd wych, ac roedd bod ar ben mynydd yn arwain at lefel o glosrwydd cyfeillgarwch nad ydw i erioed wedi'i brofi byth ers hynny.
Does gen i ddim byd ond yr atgofion melysaf am fy narlith gyntaf ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, yr oriau a dreuliais yn darllen hen gyfrolau llychlyd yn y llyfrgell, a'r bywyd cymdeithasol yr ymrwymais iddo ag ychydig gormod o arddeliad, a'r ffrindiau a wnes i sydd dal yn ffrindiau gorau i mi hyd heddiw. Ymunais hefyd â'r timau rygbi a badminton, dechreuais ymgyrch Masnach Deg Bangor, yn ogystal â chreu tîm cwis tafarn o newyddiadurwyr answyddogol yn fy nhrydedd flwyddyn. Fe wnes i ddisgyn mewn cariad mor ddwfn â'r ardal nes i mi aros yn byw yno am rai blynyddoedd ar ôl graddio, gan weithio'n fyr yn Ysbyty Gwynedd cyn cael cynnig profiad gwaith fel newyddiadurwr ar y North Wales Chronicle. Roedd hynny i fod i fod am wythnos yn unig, ond fe wnaethant fy nghadw ymlaen am 4 mis! O hynny cefais gynnig gwaith gan bapurau’r Herald, cyn symud i Landegfan ar Ynys Môn a gweithio i'r Holyhead & Anglesey Mail ac yn ddiweddarach i’r Daily Post yn ennill profiad fel ysgrifennwr, ac yn dechrau meddwl am y freuddwyd o fod yn nofelydd go iawn. Rwyf wedi sylwi bod pobl o brifysgolion eraill bob amser yn barod i adael ar ddiwedd eu gradd, ond does neb byth yn barod i adael Bangor!
Yn y pen draw, gadewais Ogledd Cymru yn anfoddog i fynd i deithio'r byd, gan dreulio sawl mis yn India, a gorffen yn Awstralia lle bûm yn byw yn Brisbane am flwyddyn, ac yno, yn ôl yn 2009, y cefais hedyn y syniad i’r nofel sydd newydd ei chyhoeddi. Roedd fy ngradd mewn Hanes gyda Newyddiaduraeth, a does dim amheuaeth mai hynny sydd wedi bod yn sylfaen i’m llyfr. Mae’r llyfr, nofel antur ysbïo o'r enw The Soviet Comeback, wedi'i osod yn y Rhyfel Oer, ac yn ailadrodd hanes yn ffuglennol, gan gyffwrdd â phynciau cyfarwydd fel gwenwyn novichok, cytuniadau niwclear, ac yn fwyaf arwyddocaol hiliaeth endemig. Mae'n dilyn stori mewnfudwr o Nigeria sy'n byw yn Rwsia ac yn cael ei orfodi i ymuno â'r KGB, am eu bod yn teimlo na fyddai neb yn disgwyl ysbïwr du Rwsiaidd. Yn anfodlon mae’n cael ei dynnu i fyd o lofruddiaethau, agweddau hiliol cyferbyniol yn y dwyrain a'r gorllewin, a phwerau byd-eang, lle mae'n anodd osgoi gelynion. Cyn hir, mae Nikita yn cael ei ddal rhwng dau bŵer, dwy ramant a chydwybod sy’n ymrafael â'r pethau ofnadwy y mae'n rhaid iddo eu gwneud i'r bobl y mae'n eu caru.
Cymerodd y llyfr dros ddegawd i mi ei ysgrifennu, felly tyfodd hedyn y syniad a ddaeth imi yn 2009 ar ôl i mi ddychwelyd o Awstralia, a byw yn Birmingham, Swydd Warwick, Llundain, lle cymhwysais fel cwnselydd therapiwtig, yna Sussex a bellach rwyf wedi ymgartrefu, am y tro o leiaf, yn Thame, Swydd Rhydychen gyda fy ngwraig a thri phlant bach.
Roedd fy ail lyfr, ffantasi i oedolion ifanc o'r enw Where Giants Walk, yn broses ychydig yn gyflymach - gan gymryd 8 mis i ysgrifennu yn hytrach na 12 mlynedd! Mae'r llyfr yma yn dilyn bachgen yn ei harddegau o'r enw Barry Birchwood, sy'n baglu ar y fynedfa i fyd arall lle nad oes dim byd fel y mae'n ymddangos, ac sy'n cael ei hun mewn ymerodraeth hynafol sydd wedi cwympo i dywyllwch ac anhrefn. Does dim rhaid i chi edrych yn galed i sylwi ar olion Bangor a'r ardal o'i chwmpas sy'n ymddangos yn y byd hudolus mae Barry yn ei ddatgelu!
Fy mreuddwyd oes, o'r dechrau un, oedd cyhoeddi fy llyfr fy hun un diwrnod. Ni feddyliais erioed fy mod yn ddisglair iawn nac yn ddigon da i wneud hynny felly cedwais y syniad i mi fy hun, gan gredu ei bod yn freuddwyd bell ac anghyraeddadwy. Ond rhoddodd fy nghyfnod ym Mhrifysgol Bangor gymaint o hyder, annibyniaeth a chred yn fy ngallu fy hun i mi nad oedd gen i cyn mynd yno, fel y gallaf ddweud yn onest na fyddwn erioed wedi cyrraedd y pwynt yma oni bai am Fangor. Rwy’n dal i binsio fy hun ei fod wedi digwydd, ac ni allaf ond gobeithio y bydd pobl yn mwynhau eu ddarllen! Rwy'n ymdrechu i fynd yn ôl i Fangor o leiaf unwaith y flwyddyn, am fod darn o’m calon wedi'i wreiddio'n ddwfn yno am byth.
Mae'r llyfrau bellach ar werth: The Soviet Comeback: Smith, Jamie: 9781800160491: Amazon.com: Books
Where Giants Walk: Amazon.co.uk: Smith, T. S. J.: 9781804680124: Books
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw beth arall y byddaf yn gweithio arno, dilynwch fi ar Facebook: www.facebook.com/jamiesmithbooks / TikTok: @JamieSmithBooks / Instagram: @JamieSmithBooks / Twitter: @JamieSmithBooks "