
"Newidiodd Bangor fy mywyd a'i roi ar lwybr a olygai yn y bôn fy mod yn cael fy nhalu am weithio ar fy hobi"
“I mi yr hyn oedd yn nodweddu fy amser yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, fel yr oedd bryd hynny, oedd ei fod yn ail gyfle imi ar ôl imi ddarganfod nad meddygaeth oedd y llwybr gyrfa imi. Roeddwn i wir yn gwerthfawrogi'r flwyddyn gyntaf yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru’n astudio Bioleg, Seicoleg ac Athroniaeth - pynciau a fu’n amhrisiadwy yn fy ngyrfa a’m datblygiad personol. Roedd ansawdd yr addysgu’n uchel iawn gyda phobl fel John Harper ac eraill ac roedd yna ddifyrrwch o bobmath hefyd fel ymarfer gyda chwaraewr rygbi rhyngwladol a chwaraeodd i Gymru a’r Llewod o'r enw Tony Gray. Chwaraeais griced i staff y Coleg pan enillon ni dlws criced PC ac roedd y bywyd cymdeithasol yn wych.
Roedd gennym dŷ bach yn Rachub y gwnaethom dalu £1,400 o bunnoedd amdano ym 1971 ac wrth yrru o Rachub i Fangor roedd golygfeydd gwych dros Ynys Môn. Roedd yna ddynes hyfryd o'r enw Maud Williams yn byw drws nesaf ac yn gofalu am 'yr hogia'. Roedd hi'n gogyddes yn Neuadd y Brifysgol a deuai â’r bwyd oedd dros ben i ni fyfyrwyr tlawd - ond yn y dyddiau hynny roeddech yn cael grant. Y llynedd, ysgrifennais gân am fy nghyfnod yn Rachub fel myfyriwr ac mae croeso ichi wrando arni yma.
Newidiodd Bangor fy mywyd a'i roi ar lwybr a olygai yn y bôn fy mod yn cael fy nhalu am weithio ar fy hobi - gwyddorau ecolegol ac amaethyddol planhigion.
Cefais yrfa fel gwyddonydd ym maes ecoleg a ffisioleg cnydau, modelu biolegol ac ecoleg amaethyddol. Rwy'n Athro Emeritws Amaethyddiaeth a Newid Hinsawdd yn y Sefydliad Adnoddau Naturiol, Prifysgol Greenwich ac yn Athro Emeritws Newid Hinsawdd a Diogelwch Bwyd ym Mhrifysgol Copenhagen. Fy mhrif gyfraniad gwyddonol oedd y gwaith amlddisgyblaethol ar ymateb cnydau âr, cnydau ynni a ecosystemau amaeth cymhleth i’w hamgylchedd, gyda phwyslais ar newid hinsawdd, agronomi a gwasanaethau ecosystemau. Cyfrannais at nifer o adroddiadau’r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC) er 1994. Rhannodd yr IPCC Wobr Heddwch Nobel yn 2007.
Cefais fy ngwneud yn Farchog Urdd Teilyngdod Amaethyddol Ffrainc am fy nghyfraniadau at amaethyddiaeth a'r flwyddyn ganlynol roeddwn yn falch iawn o ddychwelyd i Brifysgol Bangor i dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaethau i wyddor hinsawdd. Cefais fy enwebu am yr anrhydedd honno gan Jocelyn Ridley (nee Cutting, Seicoleg 1972), y cyfarfûm â hi ym Mangor fel myfyriwr ac sy'n dal yn ffrind da imi.
Cymhariaeth ryngwladol o bandemig Covid yng ngwledydd Ewrop yw fy mhapur diweddaraf. Mae’n defnyddio rhai o'r hafaliadau a’r technegau modelu a ddysgais 45 mlynedd yn ôl pan wnes i radd PhD gyda John L Harper - cylch go iawn mewn addysg.”