Mae'n debyg mai ychydig iawn o gyn-fyfyrwyr a all hawlio eu bod yn dal i weithio ar eu pwnc ymchwil PhD hanner can mlynedd ar ôl ennill y radd honno. Ond rwyf wedi cael y fraint o barhau i asesu cynaliadwyedd planhigfeydd pinwydd cynhyrchiol dros bum cylchdro o gnydau yn Eswatini, Swaziland gynt. Byddaf yn dychwelyd i’r wlad dirgaeedig honno, sy’n llai o faint na Chymru, bob dwy neu dair blynedd.
Dechreuodd y cyfan yn union ar ôl imi sefyll fy arholiadau gradd mewn coedwigaeth yn 1968, pan alwyd fi i swyddfa’r Athro Dennis Richardson yn Ffordd Deiniol. Nid oedd y canlyniadau gradd wedi cael eu rhyddhau, ond cefais wybod fy mod yn mynd i wneud yn dda a gofynnwyd imi a fyddai gen i ddiddordeb mewn gwneud PhD yn Swaziland? A fyddai gen i ddiddordeb? Roeddwn wrth fy modd â’r cynnig ac mi es ar garlam i Neuadd Rathbone i chwilio am Margaret, fy nyweddi, i rannu'r newyddion â hi. Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach dringodd ei thad a minnau bob un o’r pedwar copa ar ddeg sydd dros 3000 o droedfeddi yn Eryri mewn un diwrnod hir o ychydig dros 14 awr o adael copa’r Wyddfa hyd at gyrraedd copa mwyaf dwyreiniol y Carneddau. Rwy'n credu bod gofyn imi brofi rhywbeth iddo cyn priodi ei ferch.
Dechreuodd fy mlwyddyn gyntaf yn Swaziland gyda fy ngoruchwyliwr, Geoff Elliott, ond yn fuan roeddwn ar ben fy hun yn cyfrifo sut i gymharu celloedd pinwydd cylchdro cyntaf aeddfed â rhai ifanc ail gylchdro a oedd yn edrych yn hynod o ddi-liw. Cafodd yr ymchwil ei hariannu gan ODA (DFID bellach) oherwydd bod pryder byd-eang ynglŷn ag a fyddai planhigfeydd coed sy'n tyfu'n gyflym yn gynaliadwy ar gyfer cnwd ar ôl cnwd. A fyddai eu cynnyrch yn gostwng dros amser?
Roedd Margaret wedi aros ym Mangor i gwblhau gradd Meistr mewn mathemateg. Gwnaethom briodi ym mis Mehefin 1969 ac yna aeth y ddau ohonom i Swaziland i orffen ail a phrif ran y gwaith maes ar gynaliadwyedd. Ond roedd rhywbeth arall wedi digwydd yn 1968-69 tra fy mod yn Affrica - sefydlwyd eglwys newydd i fyfyrwyr. Byddai’n cyfarfod yng Nghapel Ebeneser yn Caellepa. Roedd Margaret yn un o’i haelodau cyntaf ac, yn ddiweddarach, bûm i’n un o’r ymgeiswyr cyntaf am fedydd gan yr eglwys. Cynhaliwyd y bedyddiadau cyntaf hynny yn y môr oddi ar Ynys Môn, ond erbyn imi gymryd y cam hwnnw o ymrwymiad a ffydd yng Nghrist roeddem yn cael defnyddio Eglwys fechan y Bedyddwyr ar Ffordd Penrallt. Mae Eglwys Efengylaidd Ebeneser yn parhau i ffynnu hyd heddiw ac wedi ei lleoli yn Nheras San Paul yng nghanol Bangor.
Wrth wneud fy ngwaith ymchwil PhD yn Swaziland agorwyd fy llygaid i botensial plannu coedwigoedd yn y trofannau a’r is-drofannau ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach cefais fy mhenodi’n ddarlithydd mewn coedwigaeth ym Mhrifysgol Technoleg Papua New Guinea. Pan oeddwn yno gwnes i’r hyn y bydd llawer o academyddion yn ei wneud a throsi fy narlithoedd yn werslyfr, Plantation Forestry in the Tropics, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen yn 1982. Mae’n parhau mewn print ac yn ei drydydd argraffiad. Y llyfr hwn, ynghyd ag ymchwil yn ôl ym Mhrydain yng ngorsaf ymchwil ddeheuol y Comisiwn Coedwigaeth, Alice Holt Lodge, a arweiniodd at fy ail lyfr, Silviculture of Broadleaved Woodland (HMSO), a fu’n sail i ddyfarnu DSc imi gyda chefnogaeth yr Athro Larry Roche. Rwy'n credu mai hon oedd yr uwch ddoethuriaeth gyntaf i Fangor ei hennill mewn coedwigaeth.
Ers hynny rwyf wedi parhau i gynnal cysylltiadau agos â Bangor a dyfarnwyd Cadair er Anrhydedd, 1995-2005, imi ac fe’m gwnaed yn Gymrawd er Anrhydedd y brifysgol yn 2017. Ond wrth fwrw golwg yn ôl ar ganol yr 1960au yr hyn sy’n fy nharo fwyaf yw bod coedwigaeth yn faes hyd yn oed yn fwy canolog heddiw nag yr oedd bryd hynny wrth inni ymdrechu i gyrraedd sero net erbyn 2050. Mae’r targedau plannu coed uchelgeisiol ar gyfer ehangu gorchudd coedwigoedd a’r defnydd llawer ehangach o bren mewn dulliau mwy gwyrdd o adeiladu ill dau yn arwyddocaol iawn. Ac mae Bangor yn parhau i fod ar flaen y gad yn cynnig ymchwil, addysg a hyfforddiant mewn maes sydd ar dwf.
A beth a sefydlwyd gan yr ymchwil hirdymor yn Swaziland? Mae'n newyddion da: mae pob cnwd o binwydd wedi tyfu cystal os nad yn well na'i ragflaenydd. Mae gennym bellach fesuriadau o bum cylchdro olynol: mae tyfu pren mewn planhigfeydd coedwig yn gynaliadwy. Gallwn bellach fod yn sicr o hynny, diolch i broject ymchwil ym Mangor a ddechreuwyd ddiwedd yr 1960au.
Ond mae mater arall sy’n tarddu o’m dyddiau ym Mangor. Deuthum yn Gristion yn ystod cyfnod fy ymchwil PhD a, chan fy mod yn rhywun sy'n hoff o ysgrifennu, penderfynais lunio’r gyfrol God's Trees - Trees, woods and forests in the Bible. Mae'n llyfr bwrdd coffi a gyhoeddwyd gan DayOne, Leominster (ail argraffiad 2018). Mae cydblethu ffydd a choedwigaeth wedi bod yn fendith fawr imi, yn arbennig felly gan fy mod yn ddisgynnydd uniongyrchol i Thomas Charles o’r Bala, y pregethwr mawr hwnnw ac awdur y Geiriadur Beiblaidd, Geiriadur Charles, - fel yn wir ag yr oedd cyn brifathro Bangor, y diweddar Syr Charles Evans yntau, a oedd yn gefnder i’m tad.
Yr Athro Julian Evans, OBE FICFor
Comisiynydd Coedwigaeth