“Roedd gen i freuddwydion o fod y Jacques Cousteau nesaf”
Roeddwn i ym Mangor o '75 i '78 yn darllen Sŵoleg gyda Sŵoleg Môr. Fel llawer o rai eraill yn y '70au roedd gen i freuddwydion o fod y Jacques Cousteau nesaf. Rwy’n cyfaddef fy mod i wedi rhoi Lerpwl fel dewis cyntaf yn fy newisiadau UCCA, ond newidiais ef i Fangor ar y funud olaf oherwydd yn Lerpwl, ni fyddwn yn astudio bioleg môr tan y drydedd flwyddyn, ond ym Mangor buaswn yn cael gwneud hynny yn yr ail flwyddyn. Nid oeddwn byth yn difaru’r penderfyniad hwnnw. Yn wythnos y Glas, y peth cyntaf wnes i oedd ymuno â'r clwb nofio tanddwr lle gwnes i lawer iawn o ffrindiau da, ac rydw i'n dal mewn cysylltiad â nhw.
Fe wnaethon ni dreulio llawer iawn o amser mewn sesiynau ymarferol, mae llawer o dechnegau y gwnaethon ni eu dysgu yn ymddangos fel hen hanes nawr. Yn yr amgueddfa, fe dreulion ni oriau yn adnabod penglogau mamaliaid a thynnu eu lluniau. Roedd dau yn hawdd, y mochyn daear y mae ei ên yn parhau’n gysylltiedig â'r penglog, a'r cangarŵ, sef yr unig benglog wedi'i farneisio yn y casgliad.
Rwy’n cofio’n dda ddarlithoedd daeareg yn y flwyddyn gyntaf, a’r darlithydd, Tony Jones, yn dod â’i sach gefn chwilio ac achub ar y mynydd i mewn i’r ddarlithfa bob tro.
Ar ôl graddio, mi wnes i radd PhD yn Hull mewn imiwnoleg pysgod. Fe wnaeth fy nhraethawd ymchwil Studies on Immunosuppression in Teleost Fish, gyfeirio’n sylweddol at waith cynnar Anthony Fauci.
Yn 1981 ymunais â'r Llynges Frenhinol. Pam? Yn syml iawn oherwydd fy mod i eisiau mynd i'r môr - treuliais y rhan fwyaf o'r 4 blynedd nesaf ar y môr, a'r rhan fwyaf o hynny yn Ne'r Iwerydd (ac es i rownd yr Horn ddwywaith). Cyd-swyddog yn fy ail long, HMS APOLLO, oedd Brian Warren, a oedd wedi graddio mewn mathemateg ac eigioneg ym Mangor. Yna yn fy mhedwaredd llong, HMS HERALD, y mordwywr oedd Chris Weaver, un arall a oedd wedi graddio ym Mangor yr oeddwn i wedi'i adnabod yn y clwb nofio tanddwr.
Ar ôl gadael yr RN yn '85, mi wnes i ddwy gymrodoriaeth ôl-ddoethurol, y ddwy ym maes datblygu brechlynnau, un yn Aston ac un yn Kingston.
Ar ôl sylweddoli nad oedd gyrfa academaidd lawn i mi, yn ôl pob tebyg, fe wnes i ail-ymuno â'r llynges frenhinol a hyfforddi fel meteorolegydd ac eigionegydd (METOC). Uchafbwynt mawr hyn oedd dwy flynedd yn HMS ENDURANCE, dwy daith i'r Antarctig, a mynd o amgylch yr Horn ddwywaith eto.
Ar ôl gadael y llynges frenhinol eto ym 1997, deuthum yn ddyn camera bywyd gwyllt tanddwr. Gweithiais ar The Natural World (ddwywaith), Battle of the Sexes, Bill Oddie Goes Wild, a Blue Peter Special, ac, yn fwyaf cofiadwy, y Blue Planet gwreiddiol.
Ar ôl BP1 prin oedd y gwaith i weithredwyr camerâu bywyd gwyllt tanddwr gan ein bod ni newydd wneud y cyfan, felly ... yn ôl i'r Llynges! Yno mi fues i’n rhedeg uned hyfforddi meteoroleg ac eigioneg y Llynges.
Yn 2007, ar ôl cael swydd gyda MetService Seland Newydd, fe wnaethon ni ymfudo i Seland Newydd. Ar ôl tair blynedd yn llunio rhagolygon y môr ac yn rheolwr y rhagolygon hedfan, ymunais â Llynges Frenhinol Seland Newydd fel eu hunig feteorolegydd. Yn HMNZS OTAGO, es yn ôl i'r Antarctig a llwyddo i fynd ymhellach i'r de nag yr oeddwn wedi’i wneud yn ENDURANCE. Treuliais yr ychydig flynyddoedd nesaf yn recriwtio eraill i'r maes. Mae gan feteoroleg y llynges yn yr RNZN hanes nodedig gan mai un o'r rhai a oedd yn llunio rhagolygon ar gyfer goresgyniad Normandi ym mis Mehefin 1944 oedd yr Is-gapten Lawrence Hogben RNZN.
Ar ôl bron i ddeugain mlynedd (toredig) yn y llynges yn llawn-amser, rydw i wedi gadael eto yn ddiweddar, y tro hwn am yrfa newydd fel actor proffesiynol. Pan ddychwelais i actio ar ôl egwyl o flynyddoedd lawer, fy rhan gyntaf oedd fel Macbeth mewn un olygfa o'r ddrama Albanaidd honno. Nid oeddwn erioed wedi cwrdd â'r actores yn chwarae'r Arglwyddes Macbeth o'r blaen, ond Lian Butcher oedd hi, a oedd hefyd wedi graddio mewn bioleg môr ym Mangor! Maen nhw wir yn cyrraedd pobman!
Mi wnes i gyfarfod fy ngwraig, Andrea, mewn pencadlys tanddaearol pan oedd hi'n swyddog WRNS, ac mae gen i ddau o blant. Mae un yn byw ac yn gweithio fel datblygwr meddalwedd yn Berlin, tra bod y llall yn fyfyriwr yn Wellington.”