“Dysgais sut i ddeifio yn y gaeaf, mewn siwt wlyb roeddwn wedi ei wneud fy hun ...”
“Cefais i, fel fy nghyfaill Matt Ruglys, fy ysbrydoli gan Jacques-Yves Cousteau ac roeddwn yn dyheu am y ffordd yna o fyw. Roeddwn yn ffodus i gael fy nerbyn gan Brifysgol Bangor; roedden nhw eisiau tri “C” ac fe ges i B, E a methu un ... Gofynnodd yr athro gyrfaoedd yn yr ysgol i mi a oeddwn wedi ystyried Cynllunio Tref fel gyrfa. Doeddwn i ddim. Ond bu Bangor mor hynaws â fy nerbyn i wneud radd “Gwyddoniaeth Gyfunol”. Am y tro cyntaf yn fy mywyd, roedd addysg yn ddiddorol a gwnes yn ddigon da yn y flwyddyn gyntaf fel y cefais ganiatâd i newid i Swoleg gyda Swoleg y Môr.
Ar ôl i mi raddio roeddwn yn ffodus i gael swydd yn yr Adran Swoleg fel technegydd. Prynais dŷ tair ystafell wely yn Ffordd Caernarfon am £5,300 a’i adnewyddu yn fy amser hamdden. Ar ôl ei werthu, roedd gen i ddigon i brynu Eila, cwch hwylio 35' a adeiladwyd ym 1935. Fe wnes i hwylio gyda fy nghariad ar draws Môr yr Iwerydd lle wnaeth hi gyfarfod â rhywun talach, cyfoethocach, a oedd yn ddelach na mi gyda chwch mwy o faint. Felly wnes i hwylio ar fy mhen fy hun i Panama a draw i Marquesas yn Polynesia Ffrainc, mordaith o 34 diwrnod ar fy mhen fy hun.
Roedd Polynesia yn bopeth roeddwn wedi ei freuddwydio. Treuliais 20 mlynedd yn hwylio ar hyd a lled Polynesia, weithiau'n gweithio ar gychod eraill ond yn deifio yn bennaf, yn tynnu lluniau o dan y dŵr gyda gorchuddion camera roeddwn wedi ei wneud fy hun ac yn ysgrifennu erthyglau ar gyfer cylchgronau. Yn 1998 cefais fy nerbyn gan Getty Images a chynyddodd fy incwm lluniau stoc yn ddramatig. Prynais gwch sychach a mwy o faint yn Seland Newydd oedd yn cynnwys oergell, a oedd yn rhywbeth newydd i mi a gosodais biano trydan ynddo. Gwnes gais am Fisa Talent Nodedig ar gyfer Awstralia, a phan gafodd ei ganiatáu, hwyliais i Cairns. Rhoddais y cwch ar werth, prynais dŷ braf a cheisio “setlo i lawr”.
Un diwrnod cefais e-bost gan rywun; “Mae fy hyfforddwr deifio yn dweud y gallwch ddysgu ffotograffiaeth tanddwr i mi ...” Atebais, ac awgrymu y dylem gwrdd am goffi. Eglurodd yr e-bost nesaf fod yr anfonwr yn ferch, o wlad Thai, yn 24 oed ac yn astudio yn Sydney 1000 o filltiroedd i ffwrdd ... Roeddwn yn 48 oed, yn ddibriod, bob amser yn chwilio am ferch ddel a allai fodelu o dan y dŵr ac a oedd â diddordeb mewn ffotograffiaeth. Erbyn y trydydd diwrnod roeddem ar fideocam ac ar ddiwedd yr wythnos gofynnais iddi fy mhriodi dros y ffôn heb erioed gwrdd. Derbyniodd, gwnaethom briodi dri mis yn ddiweddarach ac rydym newydd ddathlu 15 mlynedd o fywyd priodasol. Ar ôl i Darin gael pasbort Awstralia symudon ni i Phuket, Gwlad Thai, lle mae hi wedi dod yn un o'r ffotograffwyr priodasau gorau yn Asia.
Ysgrifennais lyfr am fy anturiaethau, Polynesia ~ An Ocean Realm, y gallwch ei weld yn www.peteatkinson.com Yn fwy diweddar rwyf wedi bod yn tynnu lluniau o ferched hardd, a phyllau nofio, yn enwedig siotiau uwch ben ac o dan.
Gan fod ffotograffiaeth wedi mynd yn ôl i fod yn hobi i mi unwaith eto, rwy’n meddwl weithiau tybed a fyddai hyfforddi fel plymwr wedi bod yn ddewis gwell o ran gyrfa.”