
“Arweiniais y tîm i ennill y llwy bren ym Mhencampwriaeth Prifysgolion Cymru!”
“Gwnaeth gweld y deyrnged i Syr John Thomas FRS fy atgoffa am ba mor falch yr oeddem yng nghanol y 1960au i gael darlithoedd gan rywun a oedd wedi ennill DSc. a statws Darllenydd pan oedd mor ifanc. O'm rhan i, cefais gradd lwyddo (y cyfeirir ati heddiw fel Gradd Sylfaen, rwy'n credu) ar ôl 4 blynedd ac fel ymgeisydd allanol! Ar ôl ymuno â Shell Research heb radd ac ar gontract dros dro, graddiais o'r Sefydliad Cemeg Brenhinol trwy gael fy rhyddhau i wneud astudiaethau un-dydd. Trosglwyddodd y cymhwyster hwn yn ddiweddarach i MRSC, Cemegydd Siartredig.
Ar ôl symud ymlaen i Dow Chemical yn King’s Lynn, roeddwn yn rhan o gydweithrediad aml-gwmni a enillodd Seren Arian am arloesi mewn pecynnu gan y Sefydliad Pecynnu ac ennill Seren y Byd gan Sefydliad Pecynnu’r Byd. Mae'r tlws gen i o hyd. Yn ddiweddarach fi oedd prif awdur y bennod ar becynnu yn y gwerslyfr “Chemistry and Technology of Agrochemical Formulations". Roedd hwn hefyd o ganlyniad i gydweithredu rhwng diwydiant ac mae ar gael fel e-lyfr. Erbyn hyn roeddwn yn Rheolwr Datblygu Pecynnu yn Ewrop ar raddfa Uwch Wyddonydd Ymchwil yn gweithio ar blaleiddiaid a ddosberthir yn fyd-eang - neu feddyginiaethau ar gyfer cnydau os hoffech ei alw’n hynny.
Ynr ystod fy nghyfnod ym Mangor, ym maes chwaraeon, datblygais o fod yr 20fed wrth gefn ar gyfer y 3ydd tîm, i fod yn Ysgrifennydd Cymdeithasol ac yna i fod yn gapten ar y tîm 1af yn fy mlwyddyn olaf. Enghraifft arall o ddyfal donc a dyr y garreg .... Yn anffodus, arweiniais y tîm i'r safle olaf ym Mhencampwriaeth Prifysgolion Cymru a chyflwynwyd y llwy bren i mi yn Ysgol Feddygol Caerdydd. Doedd o ddim yn ddiwrnod da. Serch hynny, roedd ennill Saith Bob Ochr Gogledd Cymru yn gysur. Aeth nifer o aelodau’r tîm llwy bren ymlaen i gyrraedd rownd derfynol yr UAU yng Nghymry Llundain yn erbyn Loughborough y flwyddyn ganlynol. Roedd ffrind ysgol yn y tîm oedd yn ein gwrthwynebu.
Yr uchafbwynt fel Ysgrifennydd Cymdeithasol oedd dod allan o Westy'r Castell tua 5am ar ôl Dawns Haf y clwb, ar ôl rhannu swper hwyr neu o bosib brecwast gyda'r perchennog. Roeddwn wedi herio ei waharddiad ar logi grŵp pop!
Un o fy hoff atgofion yw rhoi pas sgorio i Geoff Evans a bownsiodd yn yr eira yn Sheffield cyn iddi groesi'r linell wen go iawn. Atgof arall yw pan wnes i fynd â Geoff yn fy fan Ford Thames ryw ddydd Sul i Wilmslow pan roedd yn chwarae i Brifysgolion Prydain yn erbyn Swydd Gaer. Roedd chwaraewr rhyngwladol yr Alban, Peter Stagg, 6 troedfedd 10 modfedd, yn nhîm Swydd Gaer. Rwy'n crybwyll dydd Sul oherwydd yn y dyddiau hynny roedd pob chwaraeon gan gynnwys hyfforddi wedi eu gwahardd yng Nghymru. Gan fod y tafarndai ar gau hefyd, nid oedd unrhyw esgus dros beidio â chael pen mawr fore Sul! Aeth Geoff ymlaen i chwarae i Gymry Llundain, Cymru a mynd ar daith i Seland Newydd gyda thîm epig y Llewod yn 1971.
Cyn mynd i Fangor roeddwn wedi rhoi pas sgorio arall a bownsiodd i John Atkinson wrth chwarae rygbi'r gynghrair ar ddydd Sul. Chwaraeodd John ran amlwg iawn yn Rownd Derfynol y Cwpan Her yn Wembley yn 1968. Sgoriodd ddau gais hefyd ym mhrawf olaf y Llewod yn Awstralia yn 1970. Hwn oedd y tro olaf i Awstralia golli cyfres brawf i'r Llewod. Roedd John yn yr un flwyddyn ysgol ac yn yr un ysgol uwchradd ger fy nghartref ag Ian McGeechan - Syr Ian yn ddiweddarach! Gan barhau â’r thema rygbi’r gynghrair, yn 2004 ysgrifennais fywgraffiad fy llys-dad-yng-nghyfraith, a oedd yn cynnwys ei brofiadau yn ystod y rhyfel o Dunkirk i Normandi, a'i yrfa rygbi a arweiniodd at ennill Rownd Derfynol y Cwpan Her yn 1952.

Er bod fy ngwraig yn honni nad yw hi'n cofio, wnes i gyfarfod â hi gyntaf yn nawns y glas. Gwelais bedair merch yn dawnsio gydag un bachgen felly dyma fagu digon o ddewrder i ymuno â nhw. Dyna sioc o glywed eu bod yng Ngholeg y Santes Fair a’u bod i fod yn ôl cyn 11pm! Yn unol â’r rheolau gwnaethom eu cerdded i fyny'r bryn i Bryn Kynalt (wrth lwc nid Barlows) a bu rhaid i mi gerdded trwy'r glaw i'm llety ym Mhorthaethwy. Y nos Sadwrn ganlynol cefais fy hun yn cerdded merch yn ôl i'r Coleg Normal. Roedd hynny'n iawn gan ei fod ar y ffordd i Borthaethwy ac nid oedd hi'n bwrw glaw. Aeth dros dwy flynedd heibio cyn i mi gwrdd â fy narpar wraig eto. Roedd yr ail waith yn y sied prefab a alwyd yn Tanrallt. Roedd Jen yn dawnsio (eto) ond gyda dim ond un ferch y tro hwn. Gwnaeth Mary briodi John Tovey (M.Sc. Electroneg), chwaraewr rygbi a oedd hefyd yn gwneud y naid bolyn i’r coleg. Fo oedd fy ngwas priodas.
Rwy'n cofio fy amser ym Mangor gyda hoffter ac ychydig o dristwch. Ond yn fwy na dim, daeth â Jen a fi at ein gilydd.”