Yn ei bumdegau, dychwelodd Peter Montgomery (Cymdeithaseg gyda Pholisi Cymdeithasol, 2004) i addysg i astudio ym Mhrifysgol Bangor.
Fy amser ym Mangor...
“Yn blentyn, nid oedd gen i weledigaeth o fynd i’r brifysgol. Yn ddyn ifanc, symudais o swydd i swydd, oherwydd gadewais yr ysgol heb unrhyw gymwysterau. Ar ôl bod yn ddi-waith am bum mlynedd, des maes o law yn weithiwr gofal gan weithio mewn ysbyty Seiciatryddol yn Swydd Gaer. Yn ddiweddarach cefais fy nhrosglwyddo i uned pobl hŷn ag afiechyd meddwl, hefyd yn Swydd Gaer. Cefais fy annog gan gydweithiwr i ddychwelyd i astudio, er mwyn i mi allu ennill rhai cymwysterau. Fy ngham cyntaf oedd ennill TGAU mewn Cymdeithaseg, lle enillais Radd 'A'. Dilynwyd hyn gan Lefel 'A' yn yr un pwnc, lle cefais radd C.
Yna cefais fy annog gan fy nhiwtor i wneud cais i Brifysgol Bangor, fel myfyriwr aeddfed. Cefais fy nerbyn a threuliais bum mlynedd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Fy maes astudio oedd Cymdeithaseg, gyda Pholisi Cymdeithasol. Ar ôl graddio, cefais dy annog gan diwtor i ymgeisio am gwrs ôl-radd mewn Gwaith Cymdeithasol; a dyna wnes i, gan ennill Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol.
Ar ôl graddio unwaith eto, llwyddais i gael swydd yn weithiwr cymdeithasol gyda Chyngor Sir Dinbych. Treuliais naw mlynedd ddifyr yn y swydd, ac rwy'n teimlo mewn difrif fy mod wedi helpu llawer o bobl agored i niwed pan oeddwn yn gyflogedig gyda'r cyngor.
Mwynheais fy amser ym Mangor. Â minnau’n ddyn yn ei bumdegau, gwnaeth y cwrs i mi deimlo'n iau nag yr oeddwn ar y pryd, ac roedd yr her wrth fodd fy nghalon. Ar ddiwedd fy mlwyddyn gyntaf, a oedd wedi cynnwys modiwl ar Droseddeg, collais y gwaith gymaint nes imi ysgrifennu papur ar ddiwedd y Semester a oedd yn cwmpasu llawer o'r damcaniaethau yr oeddwn wedi'u hastudio yn ystod y flwyddyn, gan gysylltu'r damcaniaethau ag achosion gwirioneddol a oedd wedi bod yn y newyddion. Gelwais y papur yn 'Deviance and it’s Implications'.
Rwyf bellach wedi ymddeol, ac rwyf newydd gyhoeddi nofel o'r enw Priest in a Suitcase. (ar gael drwy Amazon). Rwyf nawr yn gweithio ar fy ail nofel. Rwy'n arbennig o falch o'r llyfr; pam? oherwydd ei fod yn ymdrin â threialon bywyd cymunedol ar ystâd dai cyngor newydd, a gwaith offeiriad ifanc i ddod â'r gymuned ynghyd, yr wyf yn ei ystyried yn bwysig iawn yn y dyddiau sydd ohonynt.”