“Dechreuodd y cyfan yng Ngholeg Polytechnig Kenya lle roeddwn i'n dysgu, gan ddechrau yn 1972. Yma, cyfarfûm â darlithwyr o Brydain a oedd dan gefnogaeth UNESCO. Yn eu plith roedd Mr. John Hunt a ddaeth yn ffrind gorau i mi. Daeth i wybod fy nhrallodion am fy ngradd Sofietaidd ac astudiodd fy ngalluoedd academaidd yn dawel. Fe wnaeth fy annog i fynd am astudiaethau pellach a dilyn gradd PhD yn y Deyrnas Unedig. Ymgeisiais am Ysgoloriaeth y Gymanwlad a thrwy gefnogaeth aruthrol y canolwyr o Brydain, cefais fy rhoi ar y rhestr fer a chael gwahoddiad i gyfweliad gan banel o athrawon a chynrychiolwyr y Weinyddiaeth Addysg yn Gill House, Nairobi.
Mi wnes i lwyddo yn y cyfweliad a chefais ysgoloriaeth i fynd i'r Deyrnas Unedig. Cyrhaeddodd llythyr mynediad i Fangor yn wreiddiol ar gyfer Rhaglen MSc dwy flynedd, hyd nes matriciwleiddio i PhD yn y brifysgol. Es i at y map a dysgu am Ddinas Bangor a'i phrifysgol. Mi wnes i ganfod mai Bangor yw dinas hynaf Cymru, ar arfordir Gogledd Cymru ger Y Fenai, sy'n gwahanu Ynys Môn oddi wrth Wynedd, gyda Phont Menai yn cysylltu'r ynys â'r tir mawr ac i'r gogledd o'r ddinas roedd mynyddoedd Eryri.
Pan gyrhaeddodd yr amser gadael, fe wnes i hedfan allan o Kenya gyda British Airways ar 30 Medi 1974 ac ar ôl glanio yn Heathrow, es i orsaf Euston ar y tiwb, mynd ar drên i Fangor ac, yn unol â’m llythyr amserlen teithio, roedd Mrs. Jones, Cynrychiolydd Cyngor Prydeinig Gogledd Cymru, yno i’m derbyn. Fe yrrodd fi i Neuadd Rathbone am lety dros dro tra'r oeddwn yn chwilio am uned deuluol, gan y byddai fy ngwraig yn ymuno â mi ar ôl mis. Ar ôl setlo am ychydig, canodd ffôn yr ystafell ac ar y llinell roedd gwraig a gyflwynodd ei hun fel Ysgrifennydd yr Ysgol, Ms Gabrielle Barwell. Rhoddodd eiriau o groeso i mi i Fangor a dywedodd fod disgwyl fi drannoeth am 9am ac y byddai'n fy nôl o'r hostel am 8.30am.
Drannoeth, aeth â fi i'r Ysgol Gwyddor Peirianneg Electronig yn Stryd y Deon, lle wnes i gyfarfod â'r Athro Ian Stephenson a Mr. Brian Easter a Dr. Anan Gopinath, y Tîm Peirianneg Microdonnau. Dywedasant wrthyf fy mod i'n mynd i gael fy rhoi yn y dosbarth MSc i ddechrau i asesu fy ngalluoedd academaidd ac ar ôl mis, byddai penderfyniad yn cael ei wneud i gael dyrchafiad i PhD, yn dibynnu ar fy mherfformiad. Gweithiais yn galed a llwyddais yn yr holl brofion ac aseiniadau a matriciwleiddio. Cefais fy symud i’r rhaglen PhD drwy ymchwil a thraethawd ymchwil.
Cyrhaeddodd fy ngwraig, Jane, gyda fy merch Nyna ym maes awyr Heathrow, lle cawsant flas ar oerfel yr hydref. Derbyniais nhw a threuliasom un diwrnod yn nhŷ cefnder ac ymgyfarwyddo â Llundain. Yna aethom ar y trên i Fangor ac aethom i'r tŷ a gafodd y brifysgol i'r teulu yn Llanllechid, ger Bethesda. Yno, cefais wraig gyfeillgar iawn, Mrs. Thomas, a roddodd groeso cynnes i’m teulu. Cyfarfûm hefyd â Mr. John Roy Porter, sydd bellach yn Athro Emeritws. Rwy'n ei gofio yn rhoi benthyg ei gar i mi, a finna'n ei daro ar waliau'r fferm wrth i mi yrru i lawr yr allt. Roeddwn mor falch o gwrdd ag ef a rhai aelodau o’m teulu pan ddaeth i Nairobi ar berwyl Newid Hinsawdd Byd-eang ym mis Chwefror 2023.
O Lanllechid, daeth y brifysgol o hyd i fflat agosach at dri llawr a oedd yn eiddo i'r Eglwys Gatholig ar 40 Ffordd y Coleg, Bangor Uchaf.
Rhoddodd hynny fynediad da i mi i far John Bull, lle buom yn cyfarfod bob nos Wener i drafod cynnydd ein hymchwil, wrth i “ddynion y dref” wrando’n astud a gwerthfawrogi bod Bangor, yn wir, yn ddinas prifysgol. O’r trafodaethau, rwy’n cofio beirniadaethau a barodd i ni neidio i fynd i fyfyrio ar y newidynnau coll, a gafodd eu hysgogi gan “leygwyr”. Gwnaeth hyn, ynghyd â chyfraniadau gan ein goruchwylwyr, i ni gyhoeddi mewn cyfnodolion ag enw da yn fyd-eang.
Amddiffynnais fy nhraethawd ymchwil, dan y teitl Microwave Field Effect Transistors, a chefais gydnabyddiaeth fy mod wedi llwyddo gan yr Ysgrifennydd Academaidd ar y pryd, R.W.Evans, mewn nodyn dyddiedig 28 Gorffennaf, 1977. Yna deuthum yn ôl adref, lle rwyf wedi dysgu Electroneg a Thelathrebu ym Mhrifysgol Nairobi, lle ymddeolais yn 2004, ac yna helpu i ddechrau Cyfadrannau Peirianneg ym Mhrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Masinde Muliro (2004-2011), Prifysgol Amlgyfrwng Kenya (2011-2019) ac yn awr ym Mhrifysgol Dechnegol Kenya.
Cefais y fraint unwaith eto i gwrdd â Ms. Louise Morgan, y Dirprwy Gyfarwyddwr Recriwtio a Symudedd Rhyngwladol, a ymwelodd â ni yma yn Nairobi ym mis Ionawr eleni, ac wedi dod o hyd i mi. A gaf i ddiolch i Swyddfa’r Cyn-fyfyrwyr am ddiweddariadau rheolaidd. Rydw i a fy merch Laurie, a aned tra roeddwn yn fyfyriwr yno, yn gobeithio dychwelyd i ymweld cyn i mi ymddeol yn llwyr. Pob lwc i bawb a chofiwch alw heibio pan fyddwch yn Kenya."