“Rydw i’n dathlu 10 mlynedd o weithio gydag anifeiliaid ar ol gael gwybod gan arbenigwyr meddygol na fyddai bywyd o weithio gydag anifeiliaid yn bosibl”
“Fe ddes i ar dri diwrnod agored i Brifysgol Bangor gan i mi syrthio mewn cariad â thirwedd naturiol yr ardal, y brifysgol hanesyddol a’r holl gyfleusterau sydd yma, megis yr Amgueddfa Byd Natur.
Mae’r darlledwr a’r naturiaethwr Syr David Attenborough wastad wedi bod yn ysbrydoliaeth i fi ac fe hoffwn ddilyn yn ôl ei droed drwy ddod â materion cadwriaethol pwysig i sylw cenedlaethau’r dyfodol. Felly, peth naturiol ddigon oedd i fi ddewis prifysgol lle gallwn astudio bioamrywiaeth. Mae gan Brifysgol Bangor enw rhagorol am wyddorau biolegol ac am y cyfleusterau natur sydd yma, o'r amgueddfa byd natur i’r llong ymchwil. Dyma’r lle delfrydol i ddatblygu fy sgiliau a meithrin yr angerdd sydd gen i am fyd natur.
O’r dechrau mae fy mywyd i wedi bod yn dra gwahanol; cefais fy ngeni gyda chyflwr Troed Mewndro Cynhenid Dwyochrog, a elwir hefyd yn “Troed Glwb”. Mae'n gyflwr cyffredin sy’n effeithio’r coesau, ac mae 1 o bob 1000 o fabanod yn cael eu geni gyda’r cyflwr. Mae'r cyflwr hwn yn effeithio ar eich traed a'ch fferau ac yn achosi i'ch traed droi at i mewn.
Wrth dyfu i fyny, byddai nain a taid yn mynd â fi i’r sw yn aml, ac ar deithiau i warchodfeydd natur ac ar wyliau i'r Arfordir Jwrasig. Chwilio am ffosilau deinosoriaid, cerdded trwy amgueddfeydd byd natur a gweld beth oedd yn crwydro ein planed 66 miliwn o flynyddoedd yn ôl sydd wedi fy ysbrydoli i garu’r byd naturiol o’m cwmpas.
Pan oeddwn yn 13 oed, awgrymodd arbenigwyr meddygol y byddwn mewn cadair olwyn cyn i mi fod yn 30 oed. Cefais gyngor hefyd na fyddai gyrfa yn ymwneud ag anifeiliaid yn bosibl, oedd yn golygu na fyddai modd i fi wireddu fy uchelgais sef cael bod yn geidwad sw.
Wnes i ddim gadael i’r prognosis hwnnw fy rhwystro, a chofrestrais yn ddiweddarach ar gwrs Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Rheoli Anifeiliaid yng Ngholeg Rodbaston, Swydd Stafford, lle cefais Ragoriaeth *** a phrofiad gwerthfawr yn helpu i sefydlu Sw'r Coleg.
Ar ôl gadael y coleg, gwnes gais i wneud BSc (Anrh.) mewn Sŵoleg gyda Herpetoleg ym Mhrifysgol Bangor. Tra oeddwn yn y brifysgol teithiais i Corfu i chwilio am ymlusgiaid gwenwynig gyda chymdeithas Herpetolegol Prifysgol Bangor, ac ymweld â Thenerife lle gwnes ymchwil annibynnol i ymddygiad cysgu morfilod pengrwn.
Yn fy ail flwyddyn, fel rhan o'r cwrs, mae cyfle i deithio dramor. Fe wnes i ddewis De Affrica. Fe wnaethom deithio o amgylch parc cenedlaethol Kruger, lle gwelais anifeiliaid mwyaf Affrica megis yr eliffant a’r rhinoseros. Hyd heddiw dwi'n dal i gofio mynd i gerdded trwy’r gwylltir a theulu o eliffantod yn cerdded heibio i ni ac fe geisiodd un o’r eliffantod ifanc smalio rhuthro tuag atom, cyn penderfynu cerdded i ffwrdd yn lle, roedd hynny’n hollol syfrdanol.
Syrthiais mewn cariad â De Affrica felly dychwelais yno yn 2017 i wneud interniaeth yn gwneud ffilmiau am fywyd gwyllt gyda chwmni o’r enw Affrica Media. Dysgais sut i ffilmio bywyd gwyllt a chyflwyno o flaen camera am ryfeddodau’r byd naturiol. Cefais fy nysgu gan Ryan Johnson, sy’n arbenigo mewn gwneud ffilmiau bywyd gwyllt ac sydd wedi gwneud ffilmiau ar gyfer y BBC a’r National Geographic. Mae cael fy nysgu gan arbenigwr yn y diwydiant wedi fy ngalluogi i ennill sgiliau a’r gallu i greu fy rhaglenni dogfen fy hun wedyn, gan gynnwys fy nhraethawd hir lle creais raglen ddogfen am y bywyd gwyllt a geir yng Ngardd Fotaneg Treborth. Er mawr syndod i mi, edrychodd Steve Backshall, anturiaethwr bywyd gwyllt y BBC, sydd bellach yn ddarlithydd er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, ar fy ffilm ar Twitter gan ddymuno’r dda i mi yn y diwydiant i’r dyfodol.
Tra oeddwn yn y brifysgol bûm yn gwirfoddoli yn Amgueddfa Byd Natur y brifysgol am ddwy flynedd yn adnabod, catalogio a threfnu casgliadau’r amgueddfa. Trwy wneud hynny cefais helpu ar ddyddiau agored y brifysgol yn hyrwyddo fy nghwrs. Byddwn yn hebrwng darpar fyfyrwyr mewn bysys o amgylch y campws ac yn sôn wrthynt am fywyd prifysgol a bûm hefyd yn arwain teithiau tywys o amgylch cyfleusterau'r brifysgol. Hyd yn oed ar ôl i mi raddio gofynnodd y brifysgol yn garedig iawn i mi roi araith mewn diwrnod agored yn syth ar ôl i’r dirprwy is-ganghellor siarad, roedd hyn yn anrhydedd mawr i mi yn cael siarad â rhwng 200-300 o ddarpar fyfyrwyr a’u teuluoedd. Roedd mynd o fod mor swil yn yr ysgol i sefyll i fyny a siarad o flaen cynulleidfa mor fawr yn foment fythgofiadwy.
A
Ar ôl graddio gyda 2:1, teithiais yn ôl i Tenerife fel gweithredwr camera bywyd gwyllt a chydlynydd creadigol lle bûm yn ffilmio morfilod a dolffiniaid yn y gwyllt am chwe mis ac yn dysgu gwirfoddolwyr am gadwraeth morfilod a ffotograffiaeth bywyd gwyllt. Oherwydd rhesymau personol fe ddes yn ôl i’r Deyrnas Unedig a gweithio mewn bwytai am gyfnod byr cyn i mi gael swydd addysgu yng ngholeg Rodbaston fel darlithydd gofal anifeiliaid yn dysgu cyrsiau gofal anifeiliaid lefel 1, 2 a 3.
Tra'n gweithio'n llawn amser yn y coleg, cefais hefyd swydd fel tywysydd bws mini ym Mharc Saffari Gorllewin Canolbarth Lloegr gan yrru bws mini 15 sedd o amgylch y cylch saffari 4 milltir, gan dywys y gwesteion i weld trigolion y parc megis y rhinoserosod a’r llewod. Ar ôl gwneud hyn am ychydig, daeth cyfle i drio am swydd fel swyddog addysg yn y parc saffari, ond roedd elfennau ychwanegol yn rhan o’r rôl arbennig hon, megis cael bod yn agos i’r anifeiliaid, cynnal teithiau deinosoriaid a neidio ar fysys a dysgu grwpiau ysgolion a cholegau am gadwraeth bywyd gwyllt. Fe wnes i gais a chael y swydd, ac ymhen rhyw fis ar ôl dechrau fe drawodd y pandemig Covid-19 gan gau’r wlad i lawr. Digwyddodd hynny ar fy mhen-blwydd yn 24, sef y 23ain o Fawrth.
Wrth i ni ddod allan o'r pandemig, roedd rôl newydd ar gael yn y parc fel tywysydd saffari VIP, yn mynd â gwesteion ar deithiau o amgylch y parc saffari a chael mynd yn agos at lawer o anifeiliaid hyfryd gan wneud pethau megis bwydo llewod a theigrod a hyd yn oed dreulio'r diwrnod fel ceidwad y rhinoserosod, dydw i ddim wedi edrych yn ôl ers hynny.
Yn olaf, yn 2021 sefydlais “Our cities’ wild islands” sef syniad am raglen ddogfen y meddyliais amdano sy’n sôn am y nodweddion sy’n gyffredin rhwng ynysoedd y cefnfor a chylchfannau traffig a sut y gall y mannau hyn o dir nas oes defnydd iddynt ddod yn gynefinoedd i fywyd gwyllt. Daeth hwn yn broject y buom yn gweithio arno mewn partneriaeth â chynghorau lleol gan gynnwys Cyngor Dinas Wolverhampton i ddechrau ail-wylltio parciau, a gobeithiwn yn y blynyddoedd nesaf y bydd yn arwain at wneud hynny gydag ymylon glaswelltog a chylchfannau, a fydd yn creu priffyrdd sy’n addas i fyd natur ac yn ein galluogi ni a bywyd gwyllt i ailgysylltu â’n gilydd unwaith eto.
Rydw i’n dathlu 10 mlynedd o weithio gydag anifeiliaid. Mae mynd o gael gwybod gan arbenigwyr meddygol na fyddai bywyd o weithio gydag anifeiliaid yn bosibl i gael gyrfa sydd wedi ymestyn dros ddegawd hyd yn hyn yn rhywbeth rwy'n hynod falch ohono.
Fy mhrif nod mewn bywyd nawr yw cynhyrchu rhaglenni dogfen bywyd gwyllt sy'n sôn am harddwch ein byd naturiol a sut y gallwn ni i gyd wneud gwahaniaeth er mwyn ei warchod. Ond fy mhrif uchelgais yw cyflwyno rhaglenni dogfen bywyd gwyllt fel cyflwynydd, ond cyflwynydd a chanddo anabledd, a fydd yn dod â rhagor o gyfleoedd i'r diwydiant gwneud ffilmiau bywyd gwyllt ac yn gwneud y maes yn fwy cynhwysol i bobl ag anableddau cudd neu anableddau corfforol.
Mae fy nghyflwr yn gwaethygu ac nid wyf yn siŵr beth fydd fy nyfodol, ond rwyf wedi cydweithio ag elusen o’r enw Steps Charity Worldwide i greu ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o gyflwr troed glwb fel y gall mwy o oedolion fel fi gael mwy o gefnogaeth gan y llywodraeth a gwell gofal meddygol.
I roi hwb i'r ymgyrch cerddais ar hyd yr arfordir Jwrasig, y 95 milltir cyfan ohono, i dynnu sylw at y cyflwr. O'r arian cafodd ei godi yn sgil y digwyddiad mae 80% wedi mynd at elusen Steps Charity Worldwide, a bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i helpu'r elusen i barhau â'u gwaith anhygoel i helpu pobl â chyflyrau’n effeithio’r coesau. Mae'r 20% sy'n weddill yn mynd i Save the Rhino International, a bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i helpu i amddiffyn y 5 rhywogaeth gwahanol o rhinoserosod.