Gradd Seicoleg cyn-fyfyriwr o Fangor yn mynd â hi i bencadlys
Cewch hyd i rai a raddiodd o Fangor yn gweithio ym mhob cwmni mawr ar draws y byd.
Mae Facebook, cwmni cyfryngau cymdeithasol mwyaf y byd, yn gartref i Susie Thompson, a raddiodd mewn Seicoleg yn 2004, ac a ddaeth o hyd i'w swydd ddelfrydol yng Nghaliffornia.
Mynyddoedd ar gyfer dringo creigiau, môr ar gyfer syrffio, diwylliant dinas fach, unigryw, ac adran seicoleg o safon fyd-eang; daeth Susie o hyd i bopeth roedd hi'n chwilio amdano pan ddaeth i astudio ym Mangor.
Meddai Susie, "Mi wnes i astudio Seicoleg ym Mangor, sydd wedi newid fy mywyd yn y ffyrdd mwyaf anhygoel. Fyddwn i ddim yn lle rydw i heddiw heb gael hynny fel sylfaen. Rydw i'n wastad wedi ymddiddori mewn pobl, sut yr ydym yn meddwl a beth sy'n gwneud i ni ymddwyn fel y gwnawn. Fe wnaeth astudio seicoleg ddysgu gymaint i mi, ac rwy'n dal i ddefnyddio'r hyn wnes i ei ddysgu yn fy ngwaith o ddydd i ddydd.
"Mae'n swnio fel cliché, ond y bobl wnaeth wneud fy amser ym Mangor yr hyn oedd o. Fe wnes i ffrindiau am oes, ac rydw i'n dal mewn cysylltiad â'm ffrindiau o Fangor 15 mlynedd yn ddiweddarach. Fy atgofion amlwg o'm hamser yn y brifysgol ydi chwerthin gyda ffrindiau tan oriau mân y bore, fy argraffydd yn torri'r diwrnod roedd fy nhraethawd hir i fod i gael ei gyflwyno, dysgu sut i siarad chydig o Gymraeg a rhai o'r athrawon Seicoleg a oedd yn ddwy ran yn ysbrydoledig, un rhan gwallgof! Edrychaf yn ôl ar fy amser ym Mangor â chymaint o hoffter, a byddwn i wrth fy modd yn gwneud y cyfan eto."
Teithiodd Susie y byd ac ymgartrefodd yn Sydney, Awstralia ar ôl gadael Bangor. Cymerodd y cam a mentro i ymuno â'r tîm yn Facebook yn Silicon Valley ar ôl 12 mlynedd yn Sydney, lle bu'n gweithio yn y diwedd fel Pennaeth Cydymffurfio â Chynnyrch Asia Pacific yn LinkedIn.
Bellach, mae Susie yn rheoli tîm mawr o Arbenigwyr Data Cynnyrch o'r radd flaenaf, gan ddefnyddio'r wybodaeth a gafodd yn ystod ei gradd i arwain. Gyda'i brwdfrydedd tanbaid wrth ddatrys problemau mawr, a chenhadaeth ei thîm i hyrwyddo dealltwriaeth ddynol, gall gael effaith ar fwy na dau biliwn o bobl ar draws y byd.
Er nad yw ei chefndir mewn Seicoleg yn draddodiadol am yrfa ym maes technoleg, mae'n profi y gall sylfaen gadarn, chwilfrydedd ac adeiladu cysylltiadau arwain at unrhyw beth. Bellach mae hi'n gweld arloesedd rownd bob cornel yn Silicon Valley; ceir hunan-yrru yn cael eu peilota o gwmpas ei chymuned, peiriannau gwerthu yn ei swyddfa yn llawn offer TG, a robotiaid sy'n arllwys coffi!
Mae nifer o gyn-fyfyrwyr Bangor o amrywiaeth o bynciau bellach yn gweithio i gwmnïau fel Facebook, Google a LinkedIn yn America ac ar draws y byd. Gall gradd o Fangor fynd â chi i unrhyw le!