Fy ngwlad:
Gwirfoddolwr yn cymryd rhan mewn arbrawf ar weithgaredd yr ymennydd

Seicoleg

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Seicoleg

8fed

yn y DU am Foddhad Myfyrwyr

Complete University Guide 2024

8fed

yn y DU am Brofiad Myfyrwyr

Times Good University Guide 2023

14eg

yn y DU am Ansawdd Addysgu

Times Good University Guide 2023

25 Uchaf

yn y DU ar gyfer Seicoleg

Guardian Good University Guide 2023

2il

yng Nghymru am Seicoleg

Guardian Good University Guide 2023

Pam Astudio Seicoleg?

Nod ein hymchwil yw i hyrwyddo gwyddor sylfaenol a chymhwysol. Rydym eisiau deall y cysylltiadau sylfaenol rhwng yr ymennydd ac ymddygiad, a chyfrannu’n uniongyrchol at iechyd a lles y gymuned.

Ar lefel ymchwil ôl-radd gallwch astudio gradd Meistr trwy Ymchwil (Mhres) neu Ddoethur mewn Athroniaeth (PhD). Nod gradd PhD yw darparu sylfaen gref i chi mewn meysydd ymchwil arbenigol iawn. Trwy astudio yn Ysgol Seicoleg Bangor byddwch yn rhan o gymuned PhD o dros 50 o ymgeiswyr sy'n rhan hanfodol o weithgaredd ymchwil yr Ysgol ac sydd â mynediad at gyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf.

  • Mae'r adran Seicoleg ym Mangor yn adran fawr a chosmopolitan gyda staff a myfyrwyr o bob cwr o'r byd

  • Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil mwyaf diweddar, roedd 85% o'n hymchwil yn cael ei ystyried yn 'rhagorol yn rhyngwladol' neu 'gyda'r gorau yn y byd'.

  • Graddiodd dros 75% gyda gradd 1af neu 2:1 yn 2021

  • Sefydlwyd yr adran seicoleg ym Mangor ym 1963 gan ei gwneud ymhlith yr hynaf yn y DU

  • Mae gennym lawer o labordai ymchwil arbenigol, yn cynnwys sganiwr MRI, labordai TMS, cyfleusterau EEG a labordy anatomeg ymennydd dynol

Fel ymchwilydd ar ddechrau eich gyrfa gyda ni byddwch hefyd yn cael eich hyfforddi i addysgu fel rhan o'n cwricwlwm datblygiad proffesiynol helaeth a chwarae rhan allweddol yng nghenhadaeth addysgu'r Ysgol. Mae hyn yn rhoi'r sgiliau a'r profiadau angenrheidiol i chi ddilyn gyrfa yn y byd academaidd.

Er bod staff yn gallu goruchwylio myfyrwyr ymchwil mewn sawl maes sy'n ymwneud â Seicoleg, mae gennym arbenigedd gyda'r gorau yn y byd mewn:

  • Canfyddiad
  • Gweithredu
  • Iaith
  • Dwyieithrwydd
  • Datblygu
  • Gwybyddiaeth Gymdeithasol
  • Niwrowyddoniaeth
  • Seicoleg Glinigol ac Iechyd
  • Ymyriadau a Lles
  • Seicoleg Ymddygiad.
Leanne Rowlands

Proffil Cyn-Fyfyriwr Leanne Rowlands

Niwroseicoleg

"Rwy'n mwynhau fy ngwaith PhD, lle rwy'n rhedeg grwpiau gyda goroeswyr anaf i'r ymennydd yng Ngwasanaeth Anafiadau Ymennydd Gogledd Cymru. Rwyf hefyd yn mwynhau helpu gyda'r sesiynau labordy anatomeg, lle mae myfyrwyr israddedig y flwyddyn gyntaf yn cael cyfle i gafael ar ymennydd dynol fel rhan o'u modiwl."

Cyfleoedd Gyrfa mewn Seicoleg

Gall graddau ymchwil ôl-radd mewn seicoleg eich arwain at yrfaoedd mewn ystod o wahanol leoliadau sy'n cynnwys sefydliadau elusennol, llywodraeth leol a chenedlaethol ac mewn diwydiant lle mae medrusrwydd ymchwil yn werthfawr. Mae'r hyfforddiant ymchwil a ddarperir gan y rhaglenni hyn yn eich galluogi i gynhyrchu gwybodaeth newydd trwy ymchwil wyddonol yn ogystal ag ennill profiad addysgu gwerthfawr.

Gall graddau ar lefel PhD hefyd eich arwain at yrfaoedd mewn prifysgolion lle mae swyddi academaidd fel rheol yn cyfuno ymchwil ac addysgu. Ym Mangor, rhoddir cyfle i fyfyrwyr ar lefel PhD ddatblygu ac ymarfer sgiliau addysgu a all arwain at Gymrodoriaeth Gyswllt â'r Academi Addysg Uwch.

Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor

Ein Hymchwil o fewn Seicoleg

Mae ein hymchwil yn adlewyrchu dau ddull allweddol. Ein dull allweddol cyntaf yw datblygu ac astudio ymyriadau i hyrwyddo llesiant, o blentyndod cynnar i oedran hŷn. Roedd ymyriad wrth wraidd agenda’r ysgol pan gafodd ei sefydlu fwy na 50 mlynedd yn ôl, ac mae’n parhau i fod yn ganolog i’n hunaniaeth ymchwil heddiw. Ein hail ddull allweddol yw niwrowyddoniaeth wybyddol, lle rydym wedi buddsoddi'n helaeth mewn staff ac adnoddau ymchwil arbenigol, i ymchwilio i ganfyddiad a gweithredu; iaith a datblygiad; a gwybyddiaeth gymdeithasol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.