“Helpodd Prifysgol Bangor i feithrin fy ysbryd entrepreneuraidd”
“Mae fy mywyd ym Mhrifysgol Bangor yn teimlo fel bywyd arall ond eto mae’r effaith y mae wedi ei gael ar fy mywyd yn fythgofiadwy.
Yn ddwy ar bymtheg oed ac yn ysu am annibyniaeth, dewisais Brifysgol Bangor am ddau reswm:
1. Roedd yn bell oddi cartref (131 milltir i fod yn fanwl gywir) ac mewn gwlad arall
2. Roedd yn un o'r prifysgolion gorau i astudio seicoleg
Dair blynedd yn ddiweddarach, yn 2014, ffarweliais â bywyd fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, yn barod i gamu i’r “byd go iawn”— beth bynnag yw hynny.
Ychydig a wyddwn y byddai Bangor yn hawlio rhan o’m calon ac nid y diwrnod olaf hwnnw fel myfyriwr mewn dinas fechan yng Nghymru fyddai’r tro olaf imi fod yng nghanol tirwedd garw Eryri. Ond, y dyddiau hyn, byddaf yn ymweld â Gwynedd a’i bywyd gwyllt fel ffordd o ymlacio a gorffwys fy meddwl ar ôl prysurdeb bywyd bob dydd. Nid oes unrhyw beth tebyg i awyr iach y mynyddoedd i ailgynnau'r synapsau creadigol!
Gan fod gennyf ddiddordeb mawr yn sut mae'r meddwl yn gweithio, dewisais astudio seicoleg ym Mhrifysgol Bangor. Nid oeddwn yn gwybod ble’r oeddwn am fynd nesaf tan fy nhrydedd flwyddyn, fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol.
Astudiais Seicoleg Defnyddwyr fel un o'm modiwlau trydedd flwyddyn a chefais fy niddori ar unwaith. Roedd dysgu am yr holl bethau sy’n gyrru pobl, y gweithredoedd sy'n dylanwadu ar benderfyniadau prynu, a chymhlethdod ymddygiad defnyddwyr o ddiddordeb mawr imi. Roedd dysgu popeth am seicoleg defnyddwyr fel gweld y ‘butterfly effect’ ar waith. Gall pob penderfyniad bach ym maes seicoleg defnyddwyr gael effaith aruthrol ar brofiad y cwsmer. Chwalodd hynny fy mhen.
Dyna ni. O'r eiliad honno, roeddwn yn gwybod fy mod eisiau gyrfa ym myd marchnata. Felly, penderfynais wneud fy ngorau glas i wneud hynny. Mae'n debyg bod fy niddordeb mewn seicoleg defnyddwyr yn amlwg yn y ffaith mai fi oedd y myfyriwr mwyaf llwyddiannus yn fy mlwyddyn (ddim yn ddiymhongar iawn, dw i'n gwybod). Fel rhywun nad oedd erioed wedi teimlo fel un o’r goreuon mewn unrhyw beth, roedd y gydnabyddiaeth honno'n arwydd o fy awydd i gael gyrfa ym myd marchnata.
Ochr yn ochr â’m hastudiaethau, ymunais hefyd â’r rhaglen Byddwch Fentrus, bûm yn arweinydd cyfoed i’r glasfyfyrwyr, a bûm yn gwerthu jariau bisgedi ym marchnad Nadolig y myfyrwyr. Hyd yn oed bryd hynny, yn ddiarwybod imi, roedd Prifysgol Bangor yn helpu i feithrin fy ysbryd entrepreneuraidd.
Ar ôl y brifysgol, es yn ôl i’m tref enedigol, fel y mae llawer o fyfyrwyr yn ei wneud. Cefais swydd fel cynorthwyydd marchnata gyda chwmni lleol. Dros nifer o flynyddoedd a chyda chwmnïau gwahanol, gweithiais fy ffordd i fyny'r ysgol farchnata.
Ar ôl colli fy swydd yn annisgwyl, cymerais y saib sydyn yn fy ngyrfa fel cyfle i ddilyn fy mreuddwyd - gan ddechrau fy menter lawrydd fy hun.
Camais i’r byd llawrydd ym mis Ionawr 2020. Ar ôl blwyddyn lwyddiannus o weithio'n llawrydd, dechreuais asiantaeth farchnata fy hun, o’r enw Fika Digital ym mis Mehefin 2021.
Mae Fika Digital yn defnyddio grym y cysylltiad rhwng pobl, yn seiliedig ar fy niddordeb mewn seicoleg defnyddwyr, i helpu arweinwyr busnes i greu cynnwys marchnata sy'n cysylltu â’u cynulleidfa ddelfrydol (ac yn ei throsi).
Rwyf bellach yn gweithio gyda brandiau anhygoel ledled y byd, ac rwyf wedi cael effaith fawr ar eu hamcanion marchnata a busnes ehangach, ac rwy’n cael defnyddio seicoleg defnyddwyr yn fy ngwaith pob dydd.
Cymerodd fy ngyrfa dro annisgwyl ond anhygoel a chredaf yn ddiffuant fod fy amser ym Mhrifysgol Bangor wedi helpu i’m rhoi ar y llwybr o fod yn fyfyriwr ifanc, annibynnol ond penderfynol i fod yn entrepreneur, ychydig yn hŷn a doethach.
Efallai na fydd pethau bob amser yn gweithio yn ôl y disgwyl - weithiau, maent yn gweithio er gwell. Manteisiwch ar bob cyfle a ddaw a pheidiwch â bod ofn mentro.”