"...gadael Bangor a symud i Lundain oedd y penderfyniad anoddaf i mi orfod ei wneud erioed ac rwy'n dal i feddwl am fy nghyfnod yn y brifysgol ac am fyw yn Eryri bob dydd."
“Ar ddiwrnod olaf wythnos yn Nolgellau ym mis Hydref 2020, ychydig cyn y 'cyfnod atal byr' i geisio rheoli ymlediad COVID-19, euthum am dro bach ar fy mhen fy hun. Roedd fy ngwraig yn 'gweithio gartref' yn ein bwthyn gwyliau ac fe adewais Ddolgellau ar fore hyfryd, clir i gerdded ar hyd y ffordd i faes parcio Tŷ Nant. Roeddwn eisoes wedi cerdded ar hyd llethrau Cader Idris o Dŷ Nant yn gynt yn yr wythnos.
Yn fuan ar fy nhaith cyfarfûm â Phil, oedd yn wreiddiol o Essex, yn mynd â’i gi defaid y Goror hardd am dro, ac fel minnau’n mwynhau'r tywydd a'r golygfeydd godidog.
Gwnaethon rannu hanesion am ein cariad at Eryri a chŵn defaid y Goror. Ymron i 40 mlynedd ynghynt, roedd fy nghi defaid i, Tess, a hanai o fferm ar gyrion Bethesda, yn ffefryn mawr ymhlith fy nghyd myfyrwyr a ffrindiau lleol yn ystod fy mlwyddyn hyfforddi athrawon ym Mhrifysgol Bangor a’m blwyddyn gyntaf o waith yn Awdurdod Iechyd Gwynedd.
Byth ers iddo symud i Eryri rai blynyddoedd yn ôl, dywedodd Phil ei fod yn profi teimlad o golled gorfforol pob tro y byddai’n gadael yr ardal, hyd yn oed am ychydig ddyddiau.
Rwyf innau’n teimlo'r un fath, bob amser yn syllu’n ôl trwy’r drych cefn i gael un cipolwg terfynol ar y mynyddoedd wrth droi am y de ar ôl un o’m hymweliadau rheolaidd.
Roeddwn yn ddiweddar wedi ail-ganfod fy nau ffrind gorau o ddyddiau coleg, Helen a Simon, trwy Facebook. Bellach roeddynt yn byw ym Majorca a Melbourne. Cawsom aduniad yn Swydd Efrog yn 2019 a rhannu llu o atgofion am ein dyddiau fel myfyrwyr.
Er bod ein dewisiadau bywyd wedi ein gwahanu o filoedd o filltiroedd, roeddem i gyd yn dal i rannu ein hatgofion cariadus o’n bywyd fel myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor ac o fyw yn Eryri.
A minnau wedi fy magu ar ystâd cyngor enfawr ym Manceinion, rydw i bob amser wedi gwerthfawrogi pa mor lwcus oeddwn i ddewis Bangor a symud i fyw i gymuned fach, falch mewn ardal mor brydferth. Roedd y cyfeillgarwch, y gefnogaeth gan staff academaidd ac ymddiddan cyfeillgar a thynnu coes y bobl leol yn rhywbeth na allwn fod wedi'i brofi mewn prifysgol mewn dinas fawr.
Ym mis Mawrth 2020, fel rhan o’m 'taith ffarwel' fel cyfarwyddwr Adnoddau Dynol ac ymgynghorydd, ychydig cyn i mi ymddeol o waith amser llawn, rhoddais gyflwyniad i grŵp bach o fyfyrwyr ym Mangor ar ba mor bwysig yw hi i gyflogwyr drin eu gweithwyr â charedigrwydd a thosturi, a'r budd a ddaw i sefydliadau o’r arddull honno o reoli. Rwy'n deall mai fi oedd yr ymwelydd allanol olaf â'r campws cyn y cyfnod clo a ddechreuodd ychydig ddyddiau'n ddiweddarach.
Dros y misoedd canlynol gwyliais wrth i rai o'm cyn-gydweithwyr yn Public Health England ddod yn wynebau cyfarwydd ar y cyfryngau ac yn 'ffrindiau rhithiol', gan ein helpu trwy'r ychydig fisoedd ofnadwy cyntaf hynny. Tynnwyd sylw yn y wasg a'r cyfryngau cenedlaethol ac ar gyfryngau cymdeithasol at y sefydliadau hynny nad oedd yn trin eu gweithwyr â charedigrwydd a thosturi. Wrth i mi ymddeol, roedd gweithio hyblyg, iechyd meddwl gweithwyr ac amrywiaeth a chynhwysiant yn troi’n elfennau allweddol o strategaeth fusnes pob sefydliad. Mae byd gwaith wedi newid er gwell.
Helpodd fy nghyfnod yn astudio ac yn gweithio ym Mangor imi ddeall pwysigrwydd gofalu am ein gilydd a'r amgylchedd. Chwaraeodd ran bwysig yn fy mharatoi at 25 mlynedd fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Gwasanaeth Sifil.
Ar fy niwrnod olaf yn chwarae criced i Fiwmares yn 1982, cerddais gyda Les, ein ceidwad wiced, o amgylch ffiniau maes criced Porthmadog i fwynhau’r olygfa o aber yr afon a'r mynyddoedd o’i chylch. Dyma Les, oedd yn bostmon ym Mangor, yn dweud wrthyf y byddwn bob amser yn difaru gadael Eryri a symud i Lundain. "Rwyt ti'n fachgen gwirion. Sut elli di adael hyn?"
Dydw i ddim yn difaru fy ngyrfa yn Llundain a de Lloegr - cyfarfûm â’m gwraig, gweithio â chydweithwyr arbennig iawn a daeth Tess y ci gyda mi! Ond gadael Bangor a symud i Lundain oedd y penderfyniad anoddaf i mi orfod ei wneud erioed ac rwy'n dal i feddwl am fy nghyfnod yn y brifysgol ac am fyw yn Eryri bob dydd.
Mae'r cyffro a gaf o weld y Fenai a’r mynyddoedd yn y pellter, a'm teimlad o dawelwch a bodlonrwydd pan fyddaf yn ôl yn cerdded ar Bier Bangor, yn anrhegion rhyfeddol y byddaf yn eu trysori am byth.”
Gyrfa
Ar hyn o bryd rwy’n Brif Gynghorydd i Fwrdd Armstrong Craven, sefydliad rheoli a chyfeirio talent sy’n chwilio am ymgeiswyr ar lefel rheolwyr gweithredol.
Rwyf hefyd yn Ymddiriedolwr y Gymdeithas Frenhinol dros Iechyd y Cyhoedd.
Cymrawd Siartredig y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD), gyda thros 25 mlynedd o brofiad ar lefel cyfarwyddwr Adnoddau Dynol.
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol cyntaf Public Health England yn 2013.
Yn ystod fy nghyfnod yn PHE sefydlais fudiad cymdeithasol dros ddulliau rheoli tosturiol a datblygwyd y gwaith hwnnw gan y Fforwm Cenedlaethol Iechyd a Lles yn y Gwaith dan arweiniad yr Athro Syr Cary Cooper. Mae'r Fforwm Cenedlaethol yn cynnwys oddeutu 40 o gyfarwyddwyr meddygaeth, adnoddau dynol a lles o rai o'r sefydliadau mwyaf ar draws y Deyrnas Unedig.
Hyd nes imi ymddeol o gyflogaeth amser llawn ym mis Mawrth 2020, roeddwn yn Brif Gynghorydd Ymarfer Adnoddau Dynol y CIPD, ac yn teithio ar draws y Deyrnas Unedig ac Ewrop i sicrhau bod y 150,000 a mwy o aelodau’r CIPD yn deall pwysigrwydd 'gwaith da' a'u rôl allweddol yn sicrhau trefniadau rheoli moesegol o fewn eu sefydliadau.