Dros nifer o fisoedd, mae cyn-fyfyrwyr Peirianneg Electronig Mike Riley (1975) ac Alec McCalden (1976) wedi gweithio i roi wefan at ei gilydd sydd yn adrodd stori a hanes archif gyhoeddus darlledu ar y radio o dan arweiniad myfyrwyr yn ardal Bangor, ac rydym wrth ein bodd eu bod wedi cytuno i'w rannu fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Prifysgol Bangor yn 140 oed.
Yn canolbwyntio ar y 1970au a’r 1980au, mae’r casgliad yn adlewyrchu cyfnod cyn i’r byd fynd ar-lein pan oedd ffrydio, gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol yn bethau i’r dyfodol, ac roedd darlledu trwy gyfrwng radio’n gyfrwng diwylliannol pwysicach o lawer nag ydyw heddiw. Mae stori’r cyfnod hwnnw’n dod â thechnolegau ynghyd â brwdfrydedd mawr dros ddangos yr hyn a oedd yn bosibl mewn tirwedd ddarlledu a oedd yn ynysig braidd.
Mae gennym archif ar y we gyda stori lawn System Ddarlledu Rag Bangor, sy'n gynnwys llawer o glipiau sain a delweddau o'r cyfnod.
Llongyfarchiadau i Mike ac Alec am lunio archif mor ddiddorol a diolch yn fawr iddynt am eu gwaith caled wrth ddod â'r cyfan at ei gilydd er mwyn i ni i gyd ei fwynhau. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau am y gwaith, cysylltwch â Bethan Perkins, Swyddog Cysylltiadau Alumni, ar b.w.perkins@bangor.ac.uk