Swyddogaeth
Mae aelodau Cyngor y Brifysgol yn chwarae rhan allweddol yn gyrru’r sefydliad yn ei flaen, gan lunio ei gyfeiriad strategol a’i genhadaeth a sicrhau bod rheolwyr y Bwrdd Gweithredol yn rhoi sicrwydd digonol i’r Ymddiriedolwyr.
Mae is-bwyllgorau’r Cyngor yn cynorthwyo i roi sicrwydd i’r Ymddiriedolwyr ledled strwythur llywodraethu’r Brifysgol:
- Pwyllgor Archwilio a Risg
- Pwyllgor Cyllid
- Pwyllgor Enwebiadau a Llywodraethu
- Pwyllgor Pobl a Diwylliant
- Pwyllgor Taliadau
- Pwyllgor Strategaeth yr Iaith Gymraeg
Dylai unigolion sydd â diddordeb ymuno â’r Cyngor fel aelod annibynnol, neu sydd â diddordeb cael eu cyfethol i un o’r is-bwyllgorau, gysylltu ag Ysgrifennydd y Brifysgol, Mrs Gwenan Hine.
Disgwyliad y rôl fel aelod o'r Cyngor fyddai hyd at 15 awr y mis, gan gynnwys aelodaeth o un neu fwy o'r is-bwyllgorau. Cofiwch fod rôl ymddiriedolwr yn wirfoddol ac nad oes tâl.
Aelodau Annibynnol y Cyngor
Cyn newyddiadurwr a gwneuthurwr ffilmiau dogfen yw Marian a enillodd sawl gwobr yn ystod ei gyrfa ddisglair yn y BBC cyn datblygu gyrfa fel Cyfarwyddwr Anweithredol ar lefel uchaf bywyd cyhoeddus, gan gynnwys gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Celfyddydau Cymru, lle roedd yn Is-gadeirydd. Mae hefyd wedi gwasanaethu ar gyrff llywodraethu nifer o elusennau eraill a sefydliadau addysgol. Yr oedd eisoes wedi bod yn aelod o’r Cyngor, ac o’r herwydd mae ganddi ddealltwriaeth drylwyr o’r Brifysgol a’r heriau sy’n wynebu’r sector addysg uwch.
Cafodd Marian, sy’n siaradwr Cymraeg rhugl, ei magu yng nghanolbarth Cymru a’i haddysgu yn Aberystwyth a Llundain. Mae wedi yw yng Ngogledd Cymru ers dros 30 mlynedd. Ymhlith ei diddordebau mae cerddoriaeth a’r theatr, ac mae’n mwynhau cerdded yng nghefn gwlad Cymru yn ogystal â chefnogi tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru.
Mae Marian yn aelod o’r pwyllgorau canlynol:
- Pwyllgor Enwebiadau a Llywodraethu (Cadeirydd)
- Pwyllgor Taliadau
- Pwyllgor Cyllid a Strategaeth
- Pwyllgor Pobl a Diwylliant
- Fforwm Ymgysylltu ar y Cyd (Cadeirydd)
Mae’r Is-Lyngesydd Syr Paul Lambert wedi meithrin sgiliau strategol, ariannol ac arweinyddiaeth mewn cyfres o swyddi ac apwyntiadau amlwg yn Whitehall a’r sector elusennol. Mae ar hyn o bryd yn Ysgrifennydd Cyffredinol St John International a chynt bu’n Ddirprwy Bennaeth y Staff Amddiffyn (Gallu i Weithredu), gan fod yn gyfrifol am offer a chyllideb gefnogi o £14bn a rhoi cyngor annibynnol i weinidogion. Cafodd ei urddo’n Farchog yn 2012 ac mae wedi ymrwymo i ddysgu gydol oes. Mae ganddo brofiad rhyngwladol helaeth.
Mae Paul yn aelod o’r pwyllgorau canlynol:
- Pwyllgor Archwilio a Risg (Cadeirydd)
- Fforwm Ymgysylltu ar y Cyd
Mae Dr Rees yn gyn Brifathro Coleg Menai ac yn Uwch Gyfarwyddwr gyda chyfrifoldeb am faterion allanol gyda Grŵp Llandrillo Menai. Cyn hynny roedd yn Brifathro/Prif Weithredwr Coleg Meirion-Dwyfor ac yn Bennaeth Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog.
Dros y blynyddoedd mae hefyd wedi bod yn gyfarwyddwr nifer o gyrff, gan gynnwys Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn, Fforwm a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Roedd hefyd yn aelod o Bwyllgor Rhanbarthol Canolbarth Cymru, ELWa.
Rhwng 2006 a 2012 roedd yn aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru. Roedd yn Is-gadeirydd y Cyngor, ac yn gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg rhwng 2009 a 2012.
Rhwng 2012 a 2015 bu Ian yn cadeirio Panel Ymgynghorol Comisiynydd y Gymraeg ac yn 2018 penodwyd yn gadeirydd Pwyllgor Archwilio a Risg y Comisiynydd.
Mae Ian yn aelod o’r pwyllgorau canlynol:
- Pwyllgor Archwilio a Risg
- Pwyllgor Enwebiadau a Llywodraethu
- Pwyllgor Pobl a Diwylliant (Cadeirydd)
- Pwyllgor Materion yr Iaith Gymraeg (Cadeirydd)
Bu'n Gyfarwyddwr Diogelwch Senedd San Steffan rhwng 1 Medi 2016 a 31 Rhagfyr 2020, swydd a oedd yn ymwneud â diogelwch corfforol, gweithredol a phersonél Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi ac roedd yn aelod o fwrdd rheoli'r ddau dŷ. Cyfarwyddwr Anweithredol rhaglen seiberddiogelwch Senedd San Steffan. Uwch Berchennog Cyfrifol Rhaglen Adfer ac Adnewyddu proffil uchel Senedd San Steffan gwerth £5bn.
Mae ei swyddi blaenorol wedi cynnwys:
- Cyfarwyddwr Diogelwch y Swyddfa Dramor a Chymanwlad gyda chyfrifoldeb am bob agwedd ar ddiogelwch corfforol, technegol a phersonél 286 aelodau staff y Swyddfa Dramor a Chymanwlad sy'n gweithio dramor ac yn y Deyrnas Unedig.
- Gwasanaethau Corfforaethol Conswl Cyffredinol a Chynghorydd EM (Swyddfa Dramor a Chymanwlad), 2015 - 2015, yn Washington DC. Roedd y swydd yn cynnwys cyfrifoldeb am AD, cyllid, ystadau, caffael a rheoli cyfleusterau mewn deg lleoliad ledled UDA. Sefydlodd ganolfan wasanaethau a rennir ar gyfer America.
- Prif Swyddog Gweithredu (10 Downing Street), 2006 - 2012, a oedd yn cynnwys goruchwylio gwaith trin ar yr adeilad.
- Cyfarwyddwr Seilwaith (Swyddfa'r Cabinet), 2002 - 2006 a oedd yn ymwneud ag ystadau, rheoli cyfleusterau, TG a thelathrebu a diogelwch.
- Amrywiol swyddi TG a rheoli projectau yn y sector preifat.
Aelod o dîm adolygu porth risg uchel â phrofiad o weithio gyda'r Swyddfa Gartref a'r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Rwy'n Gyfrifydd Rheoli Siartredig ac yn Fanciwr Siartredig, mae gennyf MBA gyda rhagoriaeth o Henley Management College ac wedi graddio o Major Projects Leadership Academy Prifysgol Rhydychen/Awdurdod Projectau a Seilwaith Trysorlys EM.
Eric yw Llywodraethwr Arweiniol Prevent, ac mae’n aelod o’r Pwyllgorau a ganlyn:
- Pwyllgor Cyllid (Cadeirydd)
- Pwyllgor Pobl a Diwylliant
- Pwyllgor Taliadau
Mae Jean yn Gymrawd Prifysgol Bangor. Bu’n Brif Swyddog Nyrsio Llywodraeth Cymru rhwng mis Hydref 2010 a mis Ebrill 2021. Mae ei gyrfa nyrsio yn ymestyn dros 40 mlynedd, dechreuodd fel nyrs gofrestredig yn Abertawe ac mae wedi ymarfer yng Nghymru ac yn Llundain. Mae hi wedi dal sawl uwch swydd ym myd addysg nyrsio, gyda Bwrdd Cenedlaethol Cymru (corff rheoleiddio), Proffesiynau Iechyd Cymru ac fel gwas sifil yn Llywodraeth Cymru. Roedd ei gwaith rhyngwladol yn ymwneud â Chomisiwn yr UE a Sefydliad Iechyd y Byd. Ar hyn o bryd, mae hi’n Athro Gwadd Nyrsio ym Mhrifysgol De Cymru, yn ymddiriedolwr gyda thair elusen, yn llysgennad ar gyfer Brynawel Rehab (cyffuriau ac alcohol), mentor ar raglen i ferched o leiafrifoedd ethnig mewn gofal iechyd yng Nghymru ac mae’n feirniad ar banel Gwobrau Dewi Sant. Jean oedd Uchel Siryf Morgannwg Ganol yn 2023-24. Mae Jean yn Gymrawd Prifysgol Abertawe, yn Gymrawd y Queen’s Nursing Institute, ac yn Gymrawd er Anrhydedd Coleg Brenhinol y Bydwragedd. Dyfarnwyd gwobr Cyflawniad Oes Llywodraeth Cymru iddi yn 2021.
Mae Jean yn aelod o’r pwyllgorau canlynol:
- Pwyllgor Pobl a Diwylliant
- Pwyllgor Archwilio a Risg
Penodwyd Tim Wheeler yn Brifathro Coleg Caer ym 1998 ac wedyn yn Is-Ganghellor Prifysgol Caer yn 2005. Ymddeolodd o'r swydd hon yn 2020. Yn ystod ei amser yno tyfodd y sefydliad o 4,200 o fyfyrwyr i 20,700, o un safle i naw gan gynnwys Canolfan Prifysgol Amwythig. Ehangodd y cwricwlwm o addysg, nyrsio, y celfyddydau a gwyddoniaeth i gynnig y gyfraith, meddygaeth, busnes, peirianneg a gwelwyd y trosiant yn cynyddu o £14M i £130M gyda gwarged o £3M.
Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Bae Colwyn, ac yna Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle cafodd radd baglor a doethuriaeth mewn seicoleg. Mae ganddo nifer o ddoethuriaethau er anrhydedd. Yn ystod ei yrfa, mae wedi dal swyddi mewn prifysgolion yng Nghymru, Lloegr, Iwerddon a’r Alban, a chyfnod fel Uwch Ysgolhaig Ymchwil Gwadd yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen. Mae llawer o'i waith wedi cynnwys ymgynghoriaethau academaidd a diwydiannol, yn ogystal â phrofiad yn Ewrop, America, Tsieina ac Awstralia. Mae wedi cyhoeddi dros 120 o erthyglau, llyfrau ac adroddiadau ymchwil mewn ystod amrywiol o feysydd gan gynnwys seicoffarmacoleg, dyslecsia, cyfathrebu a diogelwch.
Roedd Tim yn Ddirprwy Gadeirydd LEP (Partneriaeth Menter Leol) Swydd Gaer a Warrington ac yn aelod o’r Mersey Dee Alliance, melin drafod economaidd trawsffiniol.
Mae’n gyn-ddirprwy Gadeirydd Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (UCAS). Mae’n Ddirprwy Raglaw Swydd Gaer ac mae ganddo ran amlwg ag Eglwys Gadeiriol Caer fel Canon Lleyg. Mae’n rhyddfreiniwr Dinasoedd Llundain a Chaer.
Mae wedi bod yn llywodraethwr ysgol a llywodraethwr corfforaeth AB ers dros 35 mlynedd. Tim yw Cadeirydd Bwrdd Coleg Cambria.
Mae Tim yn aelod o’r pwyllgorau canlynol:
- Pwyllgor Taliadau
- Pwyllgor Cyllid
Cafodd Elin Wyn ei geni a’i magu yng Nghaerdydd ac mae hi’n dal i fyw yn y brifddinas. Mewn gyrfa o 24 blynedd fel newyddiadurwr gyda BBC Cymru a bu’n is-olygydd, cynhyrchydd a golygydd ar nifer o raglenni newyddion, materion cyfoes a gwleidyddol ar radio a theledu. Yn 1999, pan sefydlwyd y Cynulliad Cenedlaethol, bu’n gyfrifol am sefydlu sianel S4C2 i ddarlledu holl drafodion y Cynulliad yn fyw.
Yn 2006 sefydlodd Elin gwmni ymgynghori a hyfforddi gan arbenigo ym maes cyfathrebu. Bu’n hyfforddi newyddiadurwyr yn Nigeria, Ghana, Swaziland (bellach Eswatini), Pakistan, Cwrdistan a Kuwait. Yng Nghymru bu’n cynnig hyfforddiant cyfryngau i nifer o sefydliadau gan gynnwys Parc Cenedlaethol Eryri, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cymdeithas Cyfreithwyr Cymru, Comisiwn Cyfle Cyfartal, Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru ac S4C.
Yn 2016 penodwyd Elin yn ddarlithydd busnes cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, y swydd gyntaf o’i bath yn y brifysgol honno.
O ran gwaith gwirfoddol bu Elin yn lywodraethwr yn ysgolion Cymraeg Pwll Coch a Threganna, yn aelod o Bwyllgor Cymru UNESCO, yn un o sefydlwyr rhwydwaith Menywod Mewn Rheolaeth Cymru ac am 12 mlynedd yn aelod o Fwrdd ac yna yn Gadeirydd Canolfan Gelfyddydau Chapter Caerdydd.
Mae Elin yn aelod o’r pwyllgorau canlynol:
- Pwyllgor Materion yr Iaith Gymraeg
- Pwyllgor Pobl a Diwylliant
Mae gan David dros 30 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes newid yn yr hinsawdd byd-eang a chynaliadwyedd. O 2007 roedd David yn brif arbenigwr newid yn yr hinsawdd yn Natural England lle datblygodd yr ymchwil a’r dull o addasu ar raddfa tirwedd. O 2008 David oedd cyfarwyddwr newid yn yr hinsawdd y Cyngor Prydeinig. Yno, datblygodd raglen ymgysylltu fyd-eang i gefnogi’r Deyrnas Unedig a darparu cefnogaeth ehangach i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd, gan weithio ym maes gwyddoniaeth, y celfyddydau ac addysg. Yn 2012, ymunodd David â Mott MacDonald, lle bu’n darparu’r sylfaen dystiolaeth i sefydlu’r Climate Resilience Initiative a helpodd i drawsnewid y grŵp a’i wneud yn arweinydd byd ym maes datblygu datrysiadau i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd. Yn 2020, ymunodd David â’r Green Investment Group yn Macquarie Capital lle bu’n goruchwylio’r egwyddorion gwyrdd ar gyfer buddsoddiadau ariannol y grŵp ac yn helpu trawsffurfio cymwysterau cynaliadwyedd y CGG. Yn 2022, ymunodd David â chwmni geowyddoniaeth byd-eang lle datblygodd strategaeth a methodoleg i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol i lwyfan integredig risg hinsawdd a chyfalaf naturiol. Mae David wedi bod yn ymwneud â phanel rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar y newid yn yr hinsawdd ers 1992, yn fwyaf diweddar fel prif awdur cydlynol y chweched adroddiad asesu.
Mae David yn aelod o’r pwyllgorau canlynol:
- Pwyllgor Cyllid
Daw Emily Rees â phrofiad mewn cyllid strategol a gweithredol, yn ogystal â phrofiad o lywodraethu cadarn, fel Prif Swyddog Ariannol ac ysgrifennydd cwmni Quartix Technologies plc, sef cwmni sydd wedi’i restru gan AIM ac y mae eu canolfan weithredol yng nghanolbarth Cymru.
Mae ei gyrfa wedi mynd â hi i bob cwr o’r byd gan gynnwys uwch swyddi ariannol mewn busnesau cadarn ar y farchnad stoc a busnesau a gefnogir gan ecwiti preifat. Mae pob rôl y bu’n eu dal wedi cynnwys profiad masnachol a gweithredol cryf a phartneriaethau busnes sylweddol ar draws holl ystod gwaith timau rheoli. Mae rolau Emily hefyd wedi cynnwys arwain ar faterion adnoddau dynol, lle mae hi wedi cyflwyno strategaethau pobl i wella arferion gydol oes gyrfa gweithwyr.
Mae Emily wedi defnyddio ei phrofiad i gynorthwyo dwy elusen fel trysorydd, yn ogystal â bod yn llywodraethwr ysgol cyn hynny, lle roedd yn cadeirio’r pwyllgor cyllid, pobl ac eiddo. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 2 flynedd.
Mae Emily yn aelod o Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli ac mae ganddi BSc (Anrh.) mewn Llywodraeth ac Economeg o’r London School of Economics and Political Science.
Cyfrifydd cymwysedig yw Rheon ac mae wedi dal swyddi uwch yn y Comisiwn Archwilio a Deloitte cyn gweithio'n annibynnol ac fel partner i TDE Associates.
Mae ei feysydd arbenigedd yn cynnwys cyfrifeg ac archwilio, gwella perfformiad ac asesu/rheoli risg. Mae Rheon hefyd wedi arbenigo ym mhob agwedd ar lywodraethu ac wedi cynnal sawl adolygiad ac aseiniadau ymgynghori mewn amrywiaeth o sefydliadau sector cyhoeddus bach a mawr. Bu’n cydweithio â Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth i ddatblygu eu cyrsiau diploma a thystysgrif mewn Llywodraethu Effeithiol, gan hefyd gefnogi mentrau hyfforddi eraill mewn meysydd sy'n gysylltiedig â rheolaeth ariannol a risg.
Mae Rheon wedi chwarae rhan weithredol mewn meysydd sy'n cefnogi plant a phobl ifanc yn ogystal â meysydd sy’n cefnogi’r Gymraeg. Gynt yn Llywodraethwr Ysgol, ymunodd â’r Urdd fel trysorydd a bu’n ymddiriedolwr i’r mudiad am dros 15 mlynedd. Ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr Gŵyl Hanes Cymru i Blant, sef sefydliad sy’n darparu profiadau ar-lein a phrofiadau byw o unigolion neu sefydliadau allweddol sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at hanes Cymru.
Mae'n aelod anweithredol o Awdurdod Cyllid Cymru ar hyn o bryd, ar ôl dal rolau tebyg yn S4C, Estyn a Chymwysterau Cymru. Mae wedi dal rolau ar Bwyllgor Archwilio a Risg Comisiynydd y Gymraeg ac Amgueddfa Cymru, ac wedi cadeirio Bwrdd Ymgynghorol Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Roedd hefyd yn gyfarwyddwr National Theatre Wales (Productions) Limited.
Aelodau yn rhinwedd eu swydd o'r Cyngor
- Yr Athro Edmund Burke (Is-Ganghellor)
- Yr Athro Oliver Turnbull (Dirprwy Is-Ganghellor)
- Ms Nida Ambreen (Llywydd, Undeb y Myfyrwyr)
- Mr Gwion Rowlands (Llywydd, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor)
Penodwyd gan y Senedd
Penodwyd gan y Staff Academaidd
Penodwyd gan Staff Anacademaidd
Ysgrifennydd y Cyngor
- Ysgrifennydd y Cyngor yw Mrs Gwenan Hine, Ysgrifennydd y Brifysgol: gwenan.hine@bangor.ac.uk
Os hoffech gysylltu ag aelodau'r Cyngor, cysylltwch â karen.williams@bangor.ac.uk