Mae gweithgareddau academaidd y Brifysgol wedi cael eu trefnu'n dri choleg fel y gwelir isod:
- Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas
- Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Coleg Meddygaeth ac Iechyd
- Mae'r Brifysgol yn ymfalchïo yn ansawdd yr addysgu a gynigir. Cefnogwyd hyn mewn adolygiad diweddar gan Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd y DU (QAA), a arweiniodd at y gymeradwyaeth uchaf bosibl i safonau academaidd y Brifysgol
- Mae myfyrwyr wedi cofrestru ar 324 o raglenni israddedig a 125 o raglenni ôl-raddedig.
- Mae myfyrwyr israddedig wedi'u cofrestru i 1883 o fodiwlau.
- Cynigir 340 o fodiwlau israddedig trwy gyfrwng Cymraeg.
- Mae gan Brifysgol Bangor Ganolfan Ehangu Mynediad sy’n cynnig cyswllt hanfodol rhyngddi â’r gymuned sy’n gymaint rhan ohoni.