Manylion
Mr Robert Eastwood
Rheolwr Cyllid a Gwasanaethau Ymchwil (dros dro)
+44 (0)1248 351151
Prifysgol Bangor
Penodwyd Rob Eastwood yn Gyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Ymchwil (dros dro) ym mis Mawrth 2020, gyda chyfrifoldeb am ddarparu cyngor ac arweiniad strategol ar yr holl faterion ariannol ledled y brifysgol a chyfrifoldeb am weithrediad y Swyddfa Cefnogi Ymchwil.
Mae gan Rob brofiad helaeth o'r sector addysg uwch, gan iddo ddechrau ei yrfa yn y sector pan gafodd ei benodi'n gyfarwyddwr cyllid ym Mhrifysgol Brunel yn 2007. Symudodd i Brifysgol Lerpwl yn 2009 lle roedd yn gyfrifol am y Swyddfa Cefnogi Ymchwil yn ogystal ag am gyllid a chaffael. Ers gadael Lerpwl ar ddiwedd 2016, mae Rob wedi gweithio fel cyfarwyddwr cyllid dros dro mewn nifer o brifysgolion, gan gynnwys dwy brifysgol arall yng Nghymru.