

Croeso i’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig sy’n rhan o Gwasanaethau Digidol.
Rydym yn gyfrifol am gasglu ac am ofal tymor hir llawysgrifau, casgliadau archifol ac ystod eang o lyfrau prin a deunydd printiedig.
Ein hamcan yw sicrhau bod ein hadnoddau ar gael i bob ymchwilydd, yn rhad ac am ddim. Rydym yn brysur hyrwyddo ein casgliadau fel adnoddau gwerthfawr ar gyfer ymchwil a dysg ac yn cynnwys y gymuned gyfan yn ein gweithgareddau yn ogystal â staff a myfyrwyr oddi fewn i’r Brifysgol.
Bangor University Archives and Special Collections - Its archival and manuscript holdings are today among the most distinguished in a university anywhere in Britain.
Digwyddiadau
Newyddion Cyfredol
-
20 Ionawr 2025
Cronfa Bangor yn cefnogi cadwraeth hanes pensaernïol y brifysgol
-
19 Rhagfyr 2024
Archifau Prifysgol Bangor ac ISWE yn ennill grant gan Lywodraeth Cymru i Ddigideiddio Papurau Jamaica Ystad y Penrhyn
-
23 Gorffennaf 2024
Cronfa Bangor yn cefnogi arddagosfa ar-lein o lyfrau Arthuriadd prin
Arddangosfeydd Ar-lein

Dathlu'r 140
Yn yr arddangosfa hon cawn gipolwg ar hanes cyfoethog y Brifysgol am y 140 mlynedd ddiwethaf. O'r nifer fawr o ddeunyddiau sydd gan Archifau'r Brifysgol ei hun, cafwyd detholiad o enghreifftiau cynrychioliadol, ac sy’n dwyn atgofion i’r cof, i ddarlunio bywyd a gwaith myfyrwyr a staff ddoe a heddiw.

CYSYLLTU CASGLIADAU CYSYLLTU CASGLIADAU
Eleni, 100 mlynedd ers cyhoeddi ei llyfr cyntaf, rydym yn dathlu gwaith y Gregynog Press - gwasg breifat o'r radd flaenaf a atgyfodwyd yn y 70au dan yr enw Gwasg Gregynog.

R.S. Thomas: Ei fywyd a'i waith - 2022
Mae ein harddangosfa flynyddol eleni yn dathlu bywyd a gwaith y bardd R.S. Thomas (1913-2000)

Urdd Gobaith Cymru yn Gant Oed- 2022
Hoffai Prifysgol Bangor eleni ddymuno pen-blwydd hapus i Urdd Gobaith Cymru #Urdd100, prif fudiad ieuenctid Cymru.

Cyrraedd y Copa - 2021
Rydym yn olrhain hanes mynydda yng ngogledd Cymru yn ein harddangosfa flynyddol, rithiol, a hynny drwy gyfrwng deunydd printiedig a llawysgrifau amrywiol o'n casgliadau.

Syr Charles Harper "gweinyddwr trefedigaethol"
Casgliad Charles Harper yn cynnwys 15 albwm sy'n gofnod pwysig o fywyd a gwaith gwas sifil yn yr Ymerodraeth Brydeinig, cyn ac ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cofio Cynan - 2020
Eleni, a hithau’n hanner can mlynedd er marwolaeth y bardd Cynan (1895-1970), rydym yn olrhain hanes ei fywyd a’i waith drwy gyfrwng ein llawysgrifau a’n llyfrau.