Fy ngwlad:

Canolfannau Ymchwil

Mae’r Sefydliadau a’r Canolfannau Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, sydd yn seiliedig ar gasgliadau penodol, yn cynorthwyo’r Brifysgol i gyrraedd ei hamcanion stratagaethol mewn perthynas â rhagoriaeth mewn ymchwil a chynyddu incwm ymchwil. Maent hefyd yn hanfodol er mwyn dilysu pwysigrwydd ein casgliadau ar lefel cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae’r Canolfannau hyn yn cael eu cefnogi gan yr Archifau a Chasgliadau Arbennig ac yn ein cynorthwyo i hyrwyddo’r casgliadau (print a di-brint) i gynulleidfa ehangach. Mae ein casgliadau hynod a’r canolfannau ymchwil yn denu is-raddedigion ac ôl-raddedigion ac yn unigryw i Brifysgol Bangor.

Y Sefydliadau a’r Canolfannau Ymchwil sy’n cael cefnogaeth yr Archifau a Chasgliadau Arbennig yw :

  • Canolfan Astudiaethau Arthuraidd
  • Canolfan Astudiaeth R.S. Thomas
  • Canolfan Stephen Colclough ar gyfer Hanes a Diwylliant y Llyfr
  • Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru