Fy ngwlad:

Casgliadau'r Archif (Casgliadau Arbennig)

Casgliadau'r Archif

 

Amlwch - Llawysgrifau

Papurau teulu Matthews o Amlwch, gynt o’r Wyddgrug ac Aberystwyth, o’r 18fed i’r 19eg ganrif

Anglesey Hunting Club - Cofnodion

Cofnodion Clwb Hela Sir Fôn a sefydlwyd yn 1815

Anglesey Hunt - Cofnodion ac Arteffactau

Cofnodion Helfa Sir Fôn, yr helfa hynaf ym Mhrydain

Ashby (Tŷ Calch) - Llawysgrifau

Gohebiaeth a chofnodion personol teulu Prydderch o Ddyffryn Gwyn, Trefdraeth, Sir Fôn, a theulu Williams o Dŷ Calch, Bodorgan, o’r 18fed i’r 19eg ganrif

Bala-Bangor - Llawysgrifau

Cofnodion Coleg Bala-Bangor, Coleg yr Annibynwyr

Baron Hill - Llawysgrifau

Cofnodion teulu Bulkeley o Baron Hill, Biwmares, Sir Fôn, o’r 14eg i’r 20fed ganrif

Biwmares a Sir Fôn - Cofnodion

Cofnodion Cyngor Bwrdeistref Biwmares, o’r 17eg i’r 20fed ganrif

Belmount - Llawysgrifau

Papurau teuluol Syr Henry Lewis o Belmont, Bangor

Bodorgan - Llawysgrifau

Cofnodion teulu Meyrick o Fodorgan, Sir Fôn, o’r 15fed i’r 20fed ganrif

Bodrhyddan - Llawysgrifau

Cofnodion ystâd Bodrhyddan yn Sir y Fflint a’r perchnogion dilynol, sef teuluoedd Conway, Yonge, Shipley, Shipley-Conwy a Rowley-Conwy, o’r 14eg i’r 20 fed ganrif. 

Broom Hall - Llawysgrifau

Gweithredoedd a dogfennau amrywiol a gyflwynwyd gan W.P.O. Evans o Broom Hall ger Pwllheli, Sir Gaernarfon

Brynaerau - Llawysgrifau

Papurau teuluol Solomon Williams, 1770-1848, o Frynaearau Isa, Clynnog, Sir Gaernarfon

Caerau - Llawysgrifau

Cofnodion teulu Owens o Gaerau ym mhlwyf Llanfair-yng-Nghornwy, Sir Fôn, o’r 17eg i’r 20fed ganrif

Carter Vincent - Llawysgrifau

Cofnodion o swyddfa Carter Vincent a’i Gwmni, Bangor, cyfreithwyr, o’r 18fed i’r 20fed ganrif

Castell - Llawysgrifau

Papurau teulu Roberts o Castell ger Pentir, Bangor, Sir Gaernarfon

Cefn Du - Llawysgrifau

Cofnodion yn ymwneud â Chwarel Lechi Cefn Du ym mhlwyfi Llanrug a Llanbeblig, Sir Gaernarfon

Cefn Llan - Llawysgrifau

Papurau perthynol i deulu Hughes o Gefn Llan a Chefn Llan Uchaf ym mhlwyf Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon

Coetmor - Llawysgrifau

Papurau William John Parry, 1842-1927, o Coetmor Hall, Bethesda, gŵr gwleidyddol amlwg a sylfaenydd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru  

Corfanydd - Llawysgrifau

Papurau Robert Herbert Williams (Corfanydd), 1805-1876, emynydd

Crawley-Vincent - Llawysgrifau

Papurau perthynol i deuluoedd Crawley a Vincent o Gorddinog, Abergwyngregyn, Sir Gaernarfon

Cynhaiarn - Llawysgrifau

Cofnodion o swyddfa Gwyndaf Williams, Porthmadog, cyfreithiwr, ond wedi hel yn ystod practis pennaeth cynharach ar y cwmni, sef Thomas Jones (Cynhaiarn) a fu farw yn 1916

Dinam Hall - Llawysgrifau

Papurau teulu Williams o Dinam Hall, Llangaffo, Sir Fôn, o’r 17eg i’r 19eg ganrif

Edern - Llawysgrifau

Papurau Ellis James o Vaynol Home Farm, Bangor a fu farw yn 1878, ffermwr

William Charles Evans - Papurau

Papurau Williams Charles Evans, 1911-1988, biocemegydd

Gaianydd - Llawysgrifau

Papurau’r Parch. O. Gaianydd Williams a fu farw yn 1928, Gweinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd

Garthewin - Llawysgrifau

Cofnodion ystâd Garthewin, Sir Ddinbych, o’r 15fed i’r 19eg

Gasquoine - Llawysgrifau

Papurau'r Parch. Thomas Gasquoine a fu farw yn 1913, Gweinidog gyda'r Annibynwyr

Goppa - Dyddiaduron

Dyddiaduron David Tegla Jones o Goppa, Trawsfynydd, Sir Feirionnydd, ffermwr a chynghorydd, o’r 19eg i’r 20fed ganrif

R.D. Griffith - Llawysgrifau

Papurau R.D. Griffith o Hen Golwyn, Sir Ddinbych a fu farw yn 1958, cerddor amatur ac awdurdod ar gerddoriaeth grefyddol Cymru

Gwalchmai - Llawysgrifau

Papurau’r Parch. Richard Parry (Gwalchmai), 1803-1897, Gweinidog gyda’r Annibynwyr

Gwredog - Llawysgrifau

Cofnodion fferm Gwredog, Amlwch, Sir Fôn a’i phreswylwyr, o’r 19eg i’r 20fed ganrif

Gwyneddon - Llawysgrifau

Llawysgrifau a gasglwyd gan John Davies (Gwyneddon) a Gwyneddon Davies o Gaernarfon, yn cynnwys barddoniaeth Gymraeg gynnar yn bennaf, o’r 16eg i’r 19eg ganrif

Henblas A a Henblas B - Llawysgrifau

Papurau perthynol i deuluoedd Lloyd, Morgan ac Evans o Henblas a Threfeilir, Sir Fôn, o’r 16eg i’r 20fed ganrif

Henllys - Llawysgrifau

Cofnodion ystadau Henllys a Bodior ym Miwmares a Rhoscolyn, Sir Fôn, o’r 16eg i’r 20fed ganrif

Gabriel Hughes - Llawysgrifau

Papurau Gabriel Hughes, 1861-1932, o’r Rhyl, groser

Dr Hugh Jones - Llawysgrifau

Papurau Dr Hugh Jones, 1857-1919, Gweinidog gyda’r Wesleaid a hanesydd

Kinmel - Llawysgrifau

Cofnodion ystâd Cinmel, Sir Ddinbych a Sir y Fflint, o’r 14eg i’r 20fed ganrif

Llecheiddior - Llawysgrifau

Papurau R.H. Evans o Bwllheli and Melin Llecheiddior, Pennaeth Ysgol Fferm Castell Madryn a phrisiwr trwyddedig yn Sir Gaernarfon a Sir Fôn

Lligwy - Llawysgrifau

Papurau ystâd Lligwy, Sir Fôn, o’r 15fed i’r 20fed ganrif

Syr John Edward Lloyd - Llawysgrifau

Papurau Syr John Edward Lloyd, hanesydd

Llwydiarth Esgob - Llawysgrifau

Cofnodion o swyddfa Thomas Prichard, o Lwydiarth Esgob, Llannerchymedd, Sir Fôn, cyfreithiwr, o’r 16eg i’r 20fed ganrif

Llysdulas - Llawysgrifau

Papurau teuluoedd Lewis a Hughes o Lysdulas, Sir Fôn a Pharc Cinmel, Sir Ddinbych

Maesyneuadd - Llawysgrifau

Papurau perthynol i deuluoedd Wynne a Nanney o Faesyneuadd a Maesypandy, Sir Feirionnydd

Melville Richards – Archif Enwau Lleoedd

Archif o ddeunydd ar enwau lleoedd a gasglwyd gan yr Athro Melville Richards, 1910-1973. I edrych yn yr archif, ewch i http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr/

Meudwy Môn - Llawysgrifau

Papurau’r Parch. Owen Jones (Meudwy Môn), 1806-1889, Gweinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd

Mona Mine - Llawysgrifau

Cofnodion Mwynglawdd Copr Mona, Mynydd Parys, Sir Fôn

Morfa - Llawysgrifau

Papurau’r Parch. Joseph Morris, 1806-1891, o Madryn Lodge, Sr Gaernarfon

Mostyn - Llawysgrifau

Cofnodion teulu Mostyn, Sir y Fflint, o’r 13eg i’r 20fed ganrif, gan gynnwys llawysgrifau llenyddol a hanesyddol

Nannau – Llawysgrifau

Papurau teulu Nannau, Dolgellau, teulu Vaughan o Hengwrt a Dolmelynllyn, Sir Feirionnydd, a’r papurau sy’n berthynol i ystadau Meillionydd ac Ystumcolwyn, o’r 15fed i’r 20fed ganrif

Nantlle - Llawysgrifau

Cofnodion perthynol i chwareli llechi Dyffryn Nantlle

Newell - Llawysgrifau

Papurau’r Parch. Richard Newell, 1785-1852

Nicander - Llawysgrifau

Papurau’r Parch. Morris Williams (Nicander), 1809-1874

Pamplin - Papurau

Gohebiaeth William Pamplin, 1806-1899, botanegwr, cyhoeddwr botanegol, llyfrwerthwr ac asiant gwerthu hadau

Penrhos - Llawysgrifau

Papurau teulu Owen o Benrhos, Sir Fôn

Penrhyn Castle - Llawysgifau

Cofnodion ystâd y Penrhyn, o’r 13eg i’r 20fed ganrif

Penrhyn BRA – Llawysgrifau

Cofnodion ystâd y Penrhyn, a dderbyniwyd trwy Gymdeithas Gofnodion Prydain

Penrhyn - Gohebiaeth – Ysgol Ganolraddol Bethesda

Gohebiaeth berthynol i sefydlu Ysgol Ganolraddol Bethesda

Penrhyn - Gohebiaeth – Streic yn y Chwarel

Gohebiaeth berthynol i Streic Chwarel y Penrhyn

Pentre Mawr - Llawysgrifau

Dogfennau perthynol i eiddo yn Aberchwilar, Eglwys-bach, Llandyrnog and Spythyd, Sir Ddinbych, o’r 16eg i’r 19eg ganrif

Plas Carreg - Llawysgrifau

Papurau perthynol i dir ym Mhenrhyn Llŷn gyda chyfeiriadau at aelodau o deulu ystâd Carreg, o’r 16eg i’r 20fed ganrif

Plas Coch - Llawysgrifau

Papurau teuluoedd Hughes a Hughes-Hunter o Blas Coch a Brynddu, Sir Fôn, o’r 15fed i’r 20fed ganrif

Plas Gwyn - Llawysgrifau

Cofnodion ystâd Plas Gwyn, Pentraeth, Sir Fôn, o’r 15fed i’r 19eg ganrif

Presaddfed - Llawysgrifau

Cofnodion ystadau Dronwy a Phresaddfed yn Sir Fôn, o’r 15fed i’r 20fed ganrif

Plas Newydd - Llawysgrifau

Cofnodion ystâd Plas Newydd, Sir Fôn

Porth-yr-Aur - Llawysgrifau

Casgliad o bapurau a oedd wedi hel yn swyddfa John Evans, twrnai Porth-yr-Aur, Caernarfon, o’r 16eg i’r 19fed ganrif

Rhiwbach

Cofnodion chwareli llechi Rhiwbach, Ffestiniog, o’r 19eg i’r 20fed ganrif

Sale Catalogues

Catalogau Gwerthu eiddo yn Sir Fôn, Sir Gaernarfon, Sir Gaerfyrddin, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Feirionnydd, Sir Drefaldwyn a Sir Faesyfed yng Nghymru, ac yn Swydd Stafford a Swydd Caer yn Lloegr, o’r 18fed i’r 20fed ganrif

Searell

Papurau Allen Searell o Feddgelert, gynt o Ddyfnaint, a fu farw yn 1865, datblygwr mwyngloddiau a chwareli

Shankland

Papurau’r Parch. Thomas Shankland, 1858-1927, Llyfrgellydd Cymraeg Coleg Prifysgol Gogledd Cymru

Stapleton-Cotton

Papurau teulu Stapleton, perchnogion planhigfeydd siwgr yn India’r Gorllewin, o’r 18fed i’r 19eg ganrif

Trallwyn

Gweithredoedd a dogfennau perthynol i eiddo yn Llangybi, Carngiwch a Phwllheli, Sir Gaernarfon, o’r 17eg i’r 19eg ganrif

Tregayan

Gweithredoedd a dogfennau perthynol i eiddo yn Sir Fôn a Sir Gaernarfon, a roddwyd i’w cadw gan Roger Lloyd o Blas Tregayan, Llangefni, Sir Fôn

Tynygongl

Cofnodion o swyddfa Messrs J.S. Laurie & Co., gynt o Dynygongl, Biwmares, cyfreithwyr. Maent yn cynnwys gweithredoedd, ewyllysiau, llyfrau rhent, mapiau a chynlluniau perthynol i ystadau ac eiddo yn Sir Fôn, Sir Gaernarfon, Sir Feirionnydd a Sir Ddinbych

Wheldon

Papurau a gyflwynwyd gan Syr Wyn Wheldon, yn cynnwys papurau Robert Jones o Ros-lan, 1745-1829 a’i feibion, o’r 18fed i’r 19eg ganrif

Whitney a Clifford

Cofnodion o swyddfa E. Thornton Jones, Bangor, cyfreithiwr. Maent yn cynnwys dogfennau perthynol i faenorau a phlwyfi Whitney a Clifford yng ngogledd-orllewin Swydd Henffordd, o’r 14eg i’r 19eg ganrif

Syr Ifor Williams - Papurau

Papurau Syr Ifor Williams, 1881-1965. Ysgolhaig Celtaidd ac Athro yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru

Wyn Hall - Llawysgrifau

Cofnodion teulu Kenrick o Wynn Hall, Rhiwabon, Sir Ddinbych, o’r 17eg i’r 20fed ganrif

Yale

Papurau perthynol i deulu Jones-Parry o ystadau Cefn Llanfair a Madryn, Sir Gaernarfon. Cyflwynwyd gan Mr a Mrs Yale o Lanbedrog ger Pwllheli