EIN CASGLIADAU
Rydym yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â chasgliadau archifol eraill.
Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Gellir rhannu'r daliadau archifol yn 3 grŵp
Cofnodion y Coleg
Mae cofnodion y coleg yn ffurfio canran uchel iawn o ddaliadau Adran yr Archifdy. Mae eu ffurf yn amrywio’n fawr, o ohebiaeth, ffotograffau, cardiau post, effemera printiedig, rhaglenni, a chynlluniau, i doriadau papurau newydd, llyfrynnau, printiadau a chofnodion. Maent yn ymwneud â phynciau megis adeiladau’r Brifysgol, gwahanol gronfeydd, aelodau o’r staff, clybiau a chymdeithasau, cyngherddau, streiciau a phrotestiadau, neuaddau preswyl, cynadleddau, ysgoloriaethau ac yn y blaen. Maent yn dyddio o’r cyfnod cyn sefydlu’r brifysgol yn y 1880au, i’r 1980au.
Casgliadau Arbennig
Mae’r rhain yn cynnwys papurau ystadau a theuluoedd Sir Fôn, Sir Gaernarfon, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Sir Feirionnydd yn bennaf. Serch hynny, mae yma gasgliadau o bapurau gan athrawon a darlithwyr y Brifysgol, haneswyr, hynafiaethwyr, ffermwyr, gwŷr busnes a gweinidogion yr efengyl. Hefyd, papurau twrneiod a chyfreithwyr lleol, cofnodion i blanhigfeydd yn Jamaica ac India’r Gorllewin, a chofnodion hela. Maent yn dyddio o’r 12fed ganrif hyd heddiw. Cliciwch yma am restr o'r casgliadau arbennig.
Y Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor
Mae hwn yn gasgliad amrywiol o bapurau mewn gwahanol ffurfiau: cofnodion llenyddol, hanesyddol a hynafiaethol o gyrff crefyddol ac addysgol; cofnodion perchnogaeth tir ac eiddo; archifau personol a theuluol; cofnodion ffermio a chofnodion amaethyddol; cofnodion o natur wleidyddol; cofnodion achyddol ac yn y blaen. Maent yn dyddio o ddiwedd y 12fed ganrif hyd heddiw.
Chwilio am Archifau a Llawysgrifau
Mae gan yr Archifau gatalog ar-lein i alluogi defnyddwyr i chwilio drwy filoedd o ddisgrifiadau o lawysgrifau unigol a gedwir yn y Brifysgol.
Er bod y gronfa ddata yn cynnwys miloedd o ddisgrifiadau, rydym yn annog defnyddwyr i gadw mewn cof bod y catalog yn waith ar y gweill. Er bod data newydd yn cael ei ychwanegu'n rheolaidd, nid yw gwybodaeth am rywfaint o'n casgliad ar gael yma eto. Cliciwch yma am restr o'r catalogau sydd ar gael ar-lein.
Mae gan yr Archives Hub wybodaeth am ein holl Gasgliadau Arbennig Archifol a chanran helaeth o’n Casgliad Cyffredinol. Mae'r wybodaeth, ar hyn o bryd, ar lefel casgliad ac yn rhannol ar lefel eitem.
Gellir gwneud ceisiadau am fanylion pellach neu ddisgrifiadau lefel eitem i'r Adran. Gweler y dudalen Cysylltwch â Ni.
Mae disgrifiadau hefyd ar gael ar gatalog Ar-lein y Llyfrgell. Pan fyddwch yn cynnal chwiliad, cofiwch nodi eich bod yn chwilio drwy gatalog Casgliad Archifau Prifysgol Bangor yn unig.
Mae yna hefyd gatalog cardiau yn yr ystafell ddarllen sy'n gweithredu fel canllaw i'r holl Gasgliadau Arbennig a Chyffredinol. Fe'i trefnir o dan enwau personol, pwnc a lleoedd. Gall darllenwyr newydd sydd am edrych ar y mynegai cardiau ofyn am arweiniad gan staff yr Archifau.
Chwilota Catalog ar-lein yr Archifau a Chasgliadau Arbennig
Dyma fideo byr i’ch cynorthwyo i chwilio drwy gatalog ar lein yr archifau a chasgliadau arbennig.
Y ffordd symlaf o chwilota ydi i deipio gair neu derm yn y blwch ar dop dde y sgrin ac yno clicio ar y botwm canfod. Er enghraifft, wrth chwilota am y term ‘furlough’, mae dwy eitem yn ymddangos ar y rhestr o ganlyniadau. Cliciwch ar un o’r eitemau er mwyn cael disgrifiad mwy manwl.
Dyma lythyr a ysgrifennwyd gan Isiah Brookes Jones yn 1906. Os am weld y llythyr yma yn yr archifdy, neu, am wneud cais am gopi ohono, gwnewch gofnod o’r rhif cyfeiriad. Yn yr achos yma, BMSS/29381.
Uwchben y disgrifiad, fe welwch bod cofnod o ba gasgliad yn union y daw yr eitem yma. Ynghyd a manylion am leoliad yr eitem oddi fewn i’r casgliad.
Cliciwch ar y botwm nesaf ar waelod y sgrin i weld disgrifiad o’r eitem arall oedd ar y rhestr o ganlyniadau. Mae’r wybodaeth ar ben y sgrin yn datgelu fod yr eitem yma yn perthyn i gasgliad o’r enw Porth yr Aur. Mae modd darganfod mwy am y casgliad yma drwy glicio ar y teitl fel hyn.
Mae modd defnyddio mwy nag un gair i chwilota a gallwch ddefnyddio’r arwydd ‘plws’ i wneud hyn. Er enghraifft, wrth chwilota o dan ‘slaves’ a’r enw lle ‘Clarendon’, fe gawn restr o ganlyniadau sy’n cynnwys y gair ‘slaves a’r enw ‘Clarendon’.
Beth am wneud chwiliad arall.
Mae modd defnyddio’r arwydd ‘minws’ er mwyn eithrio gair o’r chwiliad. Mae’r rhestr o ganlyniadau yma yn dangos cofnodion hefo’r enw lle ‘Bangor’ ond heb yr enw ‘university’.
Mae’n bwysig dewis y geiriau cywir wrth chwilota a gallwch ddefnyddio dyfynodau dwbl er mwyn gwneud hyn. Wrth chwilota am ‘Railway Station’ hefo dyfynodau dwbl, fe gewch ganlyniadau lle mae’r dau air yn ymddangos gyda’i gilydd yn yr union drefn.
Os yw’r ffordd syml yma o chwilota yn darganfod gormod o ganlyniadau, mae modd i chi fireinio eich chwiliad drwy glicio ar y botwm chwilio’r catalog. Wrth chwilio fel hyn, mae modd chwilota drwy gynnwys mwy nag un maes. Er enghraifft, os rown ni ‘Eisteddfod’ o dan ‘Unrhyw Destun’ a 1907 o dan ‘Dyddiad’ a chlicio ar y botwm Chwilio. Fe gawn 24 o ganlyniadau.
Fe welwch yma fod y disgrifiad wedi ei ysgrifennu yn Gymraeg. Y rheswm am hyn yw mai Cymraeg yw iaith y ddogfen wreiddiol. Os yw’r gwreiddiol yn Saesneg, mae’r disgrifiad yn Saesneg.
Dyma enghraifft arall o chwiliad manwl. Wrth chwilio o dan ‘Anglesey’, ‘map’ ac ‘18th ‘Century’, fe gawn ni ddwy eitem yn unig yn y rhestr ganlyniadau.
Wrth ddefnyddio’r catalog ar lein, mae’n bwysig defnyddio geiriau cywir wrth chwilio. Neu, os yw’r chwiliad yn aflwyddiannus, defnyddiwch eiriau sydd yn berthnasol i’r pwnc. Er enghraifft, os oes gynnoch chi ddiddordeb mewn addysg, pam na wnewch chi chwilota am ysgolion neu ddisgyblion.
Mae sillafiad geiriau yn bwysig hefyd wrth chwilio, yn arbennig gyda enwau llefydd. Er enghraifft, mae dwy sillafiad ar gyfer yr enw Llandegai, Llandegai gyda ‘E’ a Llandygai gyda ‘Y’. Fel y gwelwch mae’r canlyniadau yn dipyn gwahanol ar gyfer y chwiliadau hyn.
Gobeithio eich bod wedi cael budd o’r fideo yma, a’i fod wedi darpari cyngor da i chi ar sut i chwilota ein catalog ar lein. Edrych ymlaen yn arw i’ch gweld yn fuan yn yr archifdy