Fy ngwlad:

Rheolau'r Ystafell Ddarllen

 

A photo of people researching collections in the archives reading room
  • Rhaid i ymchwilwyr allanol sydd eisiau gweld dogfennau gwreiddiol wneud cais am Gerdyn Allanol Llyfrgell ac Archifau.
  • Ni ddylid mynd a bwyd a diod i’r ystafell ddarllen.
  • Rhaid cadw bagiau yn y loceri a ddarparwyd.
  • Rhaid i ymchwilwyr ddefnyddio pensiliau yn yr ystafell ddarllen.
  • Ni ddylid mynd â dogfennau allan o’r ystafell ddarllen.
  • Dylid cymryd y gofal mwyaf wrth drin a thrafod dogfennau. Pan fo’r angen, mae’r staff yn cynnig cymorth a chyngor ar sut i drin a thrafod dogfennau gan ddarparu offer fel clustogau, menyf, pwysau etc. (Gweler y Canllawiau ar sut i drin a thrafod dogfennau).
  • Dylid rhoi gwybod yn syth i staff yr Archifdy am unrhyw ddiffyg mewn dogfen neu os bydd damwain yn peri difrod i ddogfen.
  • Gofynnir i ymchwilwyr ddefnyddio eu ffonau symudol y tu allan i’r ddarllenfa.
  • Ni all staff yr Archifdy roi cyngor cyfreithiol i ddarllenwyr.
  • Staff yr archifdy fydd yn penderfyny faint o ddogfennau ar y tro y caiff ymchwilydd weld.
  • Dylid gwneud cais am ddogfennau a llungopiau cyn 4.30 y.h.
  • Tra’n edrych ar fwndeli o ddogfennau gofynnir i ymchwilwyr ymdrechu i sicrhau fod y drefn wreiddiol yn cael ei chadw.
  • Dylai ymchwilydd ofyn am gymorth gan y staff os yw’n anodd dychwelyd dogfennau i’w pecyn gwreiddiol.
  • Ni fydd dogfennau sy’n rhy fregus yn cael eu rhoi i ddarllenwyr
  • Hysbysir ymchwilwyr os oes copiau ar gael o ddogfennau ac fe’u hannogir i’w defnyddio er mwyn lleihau’r defnydd o’r gwreiddiol neu ddeunydd bregus.
  • Dim ond gyda chaniatâd staff yr Archifdy y cewch ddargopïo. (Dylid gwneud hyn gyda haen bolyester)
  • Gofynnir i ddarllenwyr wisgo menyg “nitrile” wrth edrych ar ffotograffau sydd heb orchudd.
  • Rydym yn darparu slipiau papur di-asid ar gyfer ymchwilwyr sydd angen dilyn testun neu nodi tudalen dros dro.
  • Gyda chaniatad y staff, cewch dynnu lluniau yn y ddarllenfa (gweler “Canllawiau ar gyfer ymchwilwyr sy’n tynnu lluniau”)
  • Mae modd defnyddio’r ystafell addysg ar gyfer ymgynghori ag eitemau mawr fel mapiau er enghraifft.