TREFNIADAU TRIN, TRAFOD A GOFALU AM DDOGFENNAU
Ymddiriedwyd i'r Adran Archifau a Chasgliadau Arbennig y dasg o edrych ar ôl yr archifau dan ei gofal. Y ffordd orau i sicrhau bod y llawysgrifau hyn yn goroesi a'i bod yn dal yn bosib eu defnyddio yw i'r holl aelodau staff, gwirfoddolwyr a darllenwyr ymarfer y dulliau cywir o drin a thrafod deunyddiau'r archif a'r llyfrgell.
Gofynnir i ddefnyddwyr sy'n edrych ar ddeunydd gwreiddiol drin a thrafod dogfennau yn hynod o ofalus a dilyn y gweithdrefnau a restrir isod.
A wnewch chi ein helpu i sicrhau bod y casgliadau unigryw hyn yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
- Dylai'r dwylo fod yn lân cyn trafod eitemau yn y casgliad. Peidiwch â gwlychu eich bysedd i droi tudalennau.
- Defnyddiwch bensiliau'n unig ar gyfer cymryd nodiadau. Ni chaniateir ysgrifbinnau na beiros mewn unrhyw ran o'r ystafell ddarllen
- Peidiwch â phwyso ar ddogfennau a pheidiwch â gosod llyfrau nodiadau arnynt.
- Ni ddylid gosod dogfennau ar y llawr.
- Ni chaniateir dargopïo dogfennau heb ymgynghori ymlaen llaw â'r Archifydd
- Cymerwch ofal wrth ailosod bwndeli o ddogfennau a chymerwch bob gofal posib i sicrhau eu bod yn y drefn wreiddiol.
- Rhowch wybod am unrhyw nam ar ddogfen neu unrhyw ddamwain sy'n digwydd iddi i staff yr Archifau.
Os nad ydych yn deall unrhyw un o'r cynghorion uchod, gofynnwch am gymorth ar bob cyfrif.
Offer ystafell ddarllen
I'ch helpu i drin deunydd gwreiddiol yn ofalus, mae'r cyfarpar canlynol yn yr ystafell ddarllen:
- Pwysau : mae amrywiaeth o bwysau ar gael. "Nadredd" a ddefnyddir ar gyfer dal tudalennau i lawr a phwysau llechi gyda sylfeini ffelt i ddal corneli mapiau a chynlluniau i lawr.
- Chwyddwydrau : mae chwyddwydrau yma i'ch cynorthwyo chi pan fydd dogfennau'n anodd eu darllen a'u dehongli.
- Clustogau llyfrau : Mae'r rhain yn diogelu meingefn a cholynnau cyfrolau rhwym.
- Menig cotwm : i'w defnyddio wrth drin llawysgrifau prin
- Menig nitril : i'w defnyddio wrth drin ffotograffau heb eu diogelu