Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL54 7DG
Ein Lleoliad
Mae campws Prifysgol Bangor wedi ei leoli dafliad carreg o’r môr, Ynys Môn ac ar garreg drws Parc Cenedlaethol Eryri.
Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL54 7DG
Teithio i Fangor
Mae’n llawer haws dod i Fangor nag y byddech yn feddwl - Mae cysylltiadau ffordd da i Fangor ar hyd arfordir gogledd Cymru o'r M56 a'r M6.
Mae trenau uniongyrchol o Lundain (~4 awr), Manceinion (~2.5 awr), Crewe (~2 awr) a Chaerdydd (~4 awr).
Teithio o dramor - y meysydd awyr agosaf yw maes awyr Liverpool John Lennon, maes awyr Manceinion, a maes awyr Birmingham, sydd i gyd tua 2-3 awr i ffwrdd. Y porthladd agosaf yw Caergybi, sydd â llongau’n hwylio’n uniongyrchol o Iwerddon ac yna taith hanner awr o Gaergybi i Fangor.