Fy ngwlad:
LLun tanddwr o bysgod mewn riff

Graddau Bioleg Môr Israddedig

Mae Bioleg Môr wedi cael ei ddysgu yma ers bron i 100 mlynedd. Rydym yn unigryw am ein bod yn cynnwys astudiaeth o bob elfen o amgylchedd môr y byd, o aberoedd ac arfordiroedd i ddyfnderoedd y cefnfor.  

Yn y 10% uchaf o blith prifysgolion y byd o ran cynaliadwyedd (QS World Rankings: Sustainability 2024).

Ar y dudadeln yma:
Ein Cyrsiau Bioleg Môr

Os rydych am wneud cais ar gyfer cwrs yn dechrau ym Medi 2025, cymerwch olwg ar ein tudalen Sut i Wneud Cais.

 

Darganfyddwch y cwrs Bioleg Môr i chi

Bioleg Mor a Sŵoleg - MSci
Cynyddwch eich dealltwriaeth o fywyd morol. Gwnewch ymchwil uwch i fioleg môr a swoleg, a meistroli technegau arbenigol.
Cod UCAS
C169
Cymhwyster
MSci
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Bioleg Môr - BSc (Anrh)
Astudiwch amrywiaeth fywiog y cefnfor. Archwiliwch yr agweddau sylfaenol ar fioleg bywyd y môr a chynaliadwyedd. Gwnewch ymchwil a gwaith maes.
Cod UCAS
C160
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Bioleg Môr - MSci
Astudiwch amrywiaeth fywiog y cefnfor. Archwiliwch agweddau sylfaenol bioleg bywyd y môr a chynaliadwyedd a gwnewch ymchwil a gwaith maes gyda'r cwrs MSci hwn.
Cod UCAS
C167
Cymhwyster
MSci
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Bioleg Môr (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Archwiliwch fioleg y môr trwy wneud blwyddyn sylfaen ac ymchwilio i ecosystemau a bioamrywiaeth. Siapiwch ymdrechion cadwraeth a datblygwch sgiliau gwaith maes.
Cod UCAS
C16F
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Bioleg Môr a Sŵoleg - BSc (Anrh)
Cyfunwch fioleg môr a swoleg ac archwilio amrywiaeth bywyd ac ecosystemau anifeiliaid, o'r mynyddoedd i riffiau cwrel trofannol a ffosydd y dyfnfor.
Cod UCAS
CC13
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Bioleg Môr ac Eigioneg - BSc (Anrh)
Cyfunwch fioleg môr ac eigioneg ac archwilio prosesau biolegol, cemegol a ffisegol y cefnforoedd, y moroedd a'r aberoedd.
Cod UCAS
CF17
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Bioleg Môr ac Eigioneg - MSci
Cwrs israddedig estynedig yw’r radd Meistr 4 blynedd hon a fydd yn cynyddu eich gwybodaeth am fioleg môr ac eigioneg.
Cod UCAS
F712
Cymhwyster
MSci
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Gwyddor Morol a Chadwraeth - BSc (Anrh)
Gwyddor Forol a Chadwraeth ym Mangor: Astudio mewn lleoliad arfordirol unigryw. Archwilio ecosystemau morol a chyfrannu at gadwraeth y cefnforoedd.
Cod UCAS
F715
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
SCROLL
SCROLL
Dan Lambley, a raddiodd o Fangor, wrth ei waith yn ystod ymarfer ymateb i ollyngiad olew

Proffil Cyn-fyfyriwr Dan Lambley

"Fel Ymatebydd Gollyngiadau Olew, mae'n rhaid i mi deithio i unrhyw le yn y byd ar fyr rybudd i ddarparu cyngor technegol a chymorth ymateb gweithredol i leihau effaith amgylcheddol gollyngiadau olew."
 

Mae'r addysgu a'r cyrsiau y mae Bangor yn eu cynnig heb eu hail.

Steve Backshall,  Darlithydd er Anrhydedd ac un o dîm addysgu Prifysgol Bangor; naturiaethwr, fforiwr a chyflwynydd

[0:03] Mor, mor gyffrous! Mae hi’n grêt cwrdd gyda Steve! Mae’n gyfle mor grêt i hyd yn oed cael gweld 

[0:09] y Fenai mewn ffordd wahanol hefyd.

[0:12] Un o’r rhesymau i mi ddewis dod i Fangor oedd i gael bod mewn ardal fel hon, 

[0:16] Does dim ffordd well o dreulio’r prynhawn i ddweud y gwir! 

[0:23] Rydym yn mynd allan i’r afon Menai Fenai ac yna i Ynys Seiriol gyda chriw o fyfyrwyr gwyddorau naturiol 

[0:28] i gael blas o’r gorau sydd gan yr ardal yma i’w chynnig. 

[0:47] Wel, hyd yma rydym wedi gweld y gorau o’r bywyd gwyllt o’r rhan yma o’r byd, yn enwedig yr adar.  

[0:53] Mae’r ysgafelloedd yn dew, bron i bob centimedr, wedi ei orchuddio gyda heligogod, gwylanod 

[0:59] ac rydym wedi gweld mulfrain gwyn ac wrth gwrs y palod (puffins).

[01:02] Mae’n debyg mai dyma pam wnes i benderfynu creu perthynas gyda Bangor. 

[01:06] Oherwydd yr hyn rydych yn ei weld yn y fan yma. Gall unrhyw sefydliad fuddsoddi mewn isadeiledd.

[01:11] Gall unrhyw sefydliad gael adeiladau mwy, neu gael mwy o addysgu.

[01:14] Ond does dim buddsoddiad yn y byd all gael hyn. 

[01:18] Hyn ar ein trothwy, sy'n gwneud Bangor y lle gorau i astudio’r gwyddorau naturiol.

[01:30] Mae’n wych. Yn amlwg dim ond jyst y cwmni gyda Steve yma, mae gweld y bywyd gwyllt, y gwylanod coes-ddu... 

[01:37] y mulfrain, y morloi a’r math yna o beth. Hollol ryfeddol a phrofiad unigryw iawn.

[01:41] Mae Steve yn ddyn clên iawn. Ia, hollol anhygoel. Does unman gwell i fod. 

[01:46] Mae hi wedi bod yn brynhawn anhygoel. Dwi’n teimlo fy mod wedi cael fy ergydio ychydig ac yn rynllyd.

[01:51] Ond, i allu dod allan yma, a mi allwch weld y Brifysgol o fan hyn.

[01:56] Gallwch weld y neuaddau preswyl o fama. I fod yn fyfyriwr yma, a meddwl y gallwch orffen astudio 

[02:01] a dod lawr yma a padlfyrddio neu gaiacio allan ar y Fenai a chael hyn fel ffordd o leihau straen arholiadau.

[02:08] Mae hynna yn hollol anhygoel i mi.

Sir David Attenborough

Gradd er Anrhydedd Syr David Attenborough

"Mae gan Brifysgol Bangor enw rhagorol ym maes astudio gwyddorau'r amgylchedd a'r môr. Mae arnom angen pobol efo'r arbenigaeth a'r sgiliau ymchwil hollbwysig i geisio datrys problemau'r byd."

Bydd ein cyfleusterau yn dod â'r hyn rydych wedi ei ddysgu yn fyw

Fel rhan o'ch gradd, efallai byddwch yn gwneud defnydd o rai o'r cyfleusterau ardderchog, sy'n cynnwys:

  • llong ymchwil morwrol 35 metr - Prince Madog.
  • nifer o longau bychain i wneud ymchwil gyda’r glannau
  • labordai ymchwil mawr, modern
  • cyflenwad dŵr môr wedi'i hidlo yn uniongyrchol o’r Fenai ac acwaria môr dŵr oer a throfannol
  • rhwydwaith cyfrifiadurol ardal leol ar gyfrifiaduron personol, i weithfannau pwerus prosesu rhifau a ddefnyddir wrth fodelu’r cefnforoedd yn rhifiadol.
Myfyriwr yn sefyll ar flaen llong y Prince Madog, yn gwenu ar y camera

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Bioleg Môr. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Bioleg Môr llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Bioleg Môr ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Bioleg Môr ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Ein Hymchwil o fewn Bioleg Môr

Mae gan Brifysgol Bangor hanes hir o ymchwil Bioleg Môr sy'n ymestyn yn ôl dros 100 mlynedd. Mae ein hymchwil yn cynnwys parth llawn y môr, yn amrywio o gynefinoedd lled-ddaearol fel morfeydd heli, i'r môr dwfn, ac o'r pegynau i'r trofannau. Ar hyn o bryd mae gennym brojectau ymchwil sy'n canolbwyntio ar ffiordydd yr Antarctig a riffiau cwrel Cefnfor yr India.

Mae elfen bwysig o ymchwil Bioleg Môr yma ym Mangor yn canolbwyntio ar gadwraeth a rheoli adnoddau môr. Mae ein hymchwil yn edrych ar sut mae cynnwrf anthropogenig megis ecsbloetiaeth, rhywogaethau ymledol a newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ecosystemau'r môr, ac ar y dulliau gorau o reoli ac amddiffyn yr ecosystemau hyn.

Mae ein hymchwil yn sail i ddiwydiant pysgod o’r gwyllt a dyframaeth cynaliadwy. Mae hefyd yn ymdrin ag effeithiau ehangach pysgodfeydd a dyframaethu ar ecosystem y môr, a sut y gallant effeithio ar rywogaethau dalfeydd (pysgod eraill, adar môr, mamaliaid môr, organebau gwely'r môr) a chynefinoedd (e.e. riffiau, gwelyau morwellt). Mae hefyd yn sail i'n datblygiad o ddeorfeydd pysgod trofannol cynaliadwy.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.