Fy ngwlad:
Arbrofi prydau a dail petri

Bioleg

Yn y 10% uchaf o blith prifysgolion y byd o ran cynaliadwyedd (QS World Rankings: Sustainability 2024).

 

Ar y dudadeln yma:

Ein cyrsiau Bioleg

Os rydych am wneud cais ar gyfer cwrs yn dechrau ym Medi 2025, cymerwch olwg ar ein tudalen Sut i Wneud Cais.

 

Darganfyddwch y cwrs Bioleg i chi

Bioleg - BSc (Anrh)
Dysgwch am ficrobau, planhigion ac anifeiliaid, am fioleg celloedd a bioleg foleciwlaidd, ecoleg ac esblygiad. Dewch i gael profiadau ymarferol yn y labordy ac yn y maes a datblygwch sgiliau ar gyfer gyrfaoedd amrywiol ym maes bioleg.
Cod UCAS
C100
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Bioleg - MBiol
Cwrs israddedig estynedig yw’r radd Meistr 4 blynedd hon a fydd yn cynyddu eich gwybodaeth am fioleg planhigion ac anifeiliaid.
Cod UCAS
C101
Cymhwyster
MBiol
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Bioleg (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Adeiladwch sylfaen mewn bioleg, enillwch sgiliau ar gyfer gyrfaoedd cyffrous mewn meysydd amrywiol. Opsiwn delfrydol i unrhyw un sydd ddim cweit yn bodloni'r gofynion mynediad i wneud gradd 3 blynedd.
Cod UCAS
C10F
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Bioleg Mor a Sŵoleg - MSci
Cynyddwch eich dealltwriaeth o fywyd morol. Gwnewch ymchwil uwch i fioleg môr a swoleg, a meistroli technegau arbenigol.
Cod UCAS
C169
Cymhwyster
MSci
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Bioleg Môr - MSci
Astudiwch amrywiaeth fywiog y cefnfor. Archwiliwch agweddau sylfaenol bioleg bywyd y môr a chynaliadwyedd a gwnewch ymchwil a gwaith maes gyda'r cwrs MSci hwn.
Cod UCAS
C167
Cymhwyster
MSci
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Bioleg Môr a Sŵoleg - BSc (Anrh)
Cyfunwch fioleg môr a swoleg ac archwilio amrywiaeth bywyd ac ecosystemau anifeiliaid, o'r mynyddoedd i riffiau cwrel trofannol a ffosydd y dyfnfor.
Cod UCAS
CC13
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Bioleg gyda Biotechnoleg - BSc (Anrh)
Cyfunwch fioleg â thechnoleg flaengar. Dewch i ennill sgiliau labordy ac ymchwilio i beirianneg enetig ar gyfer gyrfa sy'n rhoi llawer o foddhad ac a fydd yn gwella ansawdd bywyd ac iechyd ein planed.
Cod UCAS
C511
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Bioleg gyda Biotechnoleg - MBiol
Cwrs israddedig estynedig yw’r radd Meistr 4 blynedd hon a fydd yn cynyddu eich gwybodaeth am fioleg gyda biotechnoleg.
Cod UCAS
C510
Cymhwyster
MBiol
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Cadwraeth Fertebratau'r Môr - BSc (Anrh)
Astudiwch organebau’r môr, eu cynefinoedd a'r we fwyd sy'n cynnal ysglyfaethwyr apig, gan gynnwys mamaliaid morol, pysgod, adar y môr, ac ymlusgiaid.
Cod UCAS
C355
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Cadwraeth Fertebratau'r Môr - MSci
Cwrs israddedig estynedig yw’r radd Meistr 4 blynedd hon a fydd yn cynyddu eich gwybodaeth am gadwraeth fertebratau’r môr.
Cod UCAS
C356
Cymhwyster
MSci
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Swoleg gyda Rheolaeth Anifeiliaid - MZool
Cwrs israddedig estynedig yw’r radd Meistr 4 blynedd hon a fydd yn cynyddu eich gwybodaeth am swoleg a rheolaeth anifeiliaid.
Cod UCAS
C336
Cymhwyster
MZool
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Sŵoleg gyda Chadwraeth - MZool
Cwrs israddedig estynedig yw’r radd Meistr 4 blynedd hon a fydd yn cynyddu eich gwybodaeth am swoleg gyda chadwraeth.
Cod UCAS
CD34
Cymhwyster
MZool
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Sŵoleg gyda Chadwraeth - BSc (Anrh)
Cyfunwch swoleg â chadwraeth, a dysgwch am swoleg draddodiadol, gan gynnwys tacsonomeg, morffoleg, ffisioleg a bioleg celloedd gyda phwyslais ar ecoleg anifeiliaid.
Cod UCAS
C3L2
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Sŵoleg gyda Herpetoleg - MZool
Dewch i wella eich arbenigedd mewn swoleg a herpetoleg gyda'r cwrs hwn ym Mhrifysgol Bangor!
Cod UCAS
C303
Cymhwyster
MZool
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Sŵoleg gyda Phrimatoleg - BSc (Anrh)
Cyfunwch swoleg a phrimatoleg a chael hyfforddiant swolegol eang i chi i werthfawrogi gwybodaeth uwch ac arbenigol am brimatiaid yn y cyd-destun esblygiadol llawnaf.
Cod UCAS
C329
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Sŵoleg gyda Phrimatoleg - MZool
Cwrs israddedig estynedig yw’r radd Meistr 4 blynedd hon a fydd yn cynyddu eich gwybodaeth am swoleg a phrimatoleg.
Cod UCAS
C333
Cymhwyster
MZool
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Sŵoleg gydag Ornitholeg - MZool
Cwrs israddedig estynedig yw’r radd Meistr 4 blynedd hon a fydd yn cynyddu eich gwybodaeth am swoleg ac ornitholeg.
Cod UCAS
C334
Cymhwyster
MZool
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
SCROLL
SCROLL

Mae'r addysgu a'r cyrsiau y mae Bangor yn eu cynnig heb eu hail.

Steve Backshall,  Darlithydd er Anrhydedd ac un o dîm addysgu Prifysgol Bangor; naturiaethwr, fforiwr a chyflwynydd

[0:03] Mor, mor gyffrous! Mae hi’n grêt cwrdd gyda Steve! Mae’n gyfle mor grêt i hyd yn oed cael gweld 

[0:09] y Fenai mewn ffordd wahanol hefyd.

[0:12] Un o’r rhesymau i mi ddewis dod i Fangor oedd i gael bod mewn ardal fel hon, 

[0:16] Does dim ffordd well o dreulio’r prynhawn i ddweud y gwir! 

[0:23] Rydym yn mynd allan i’r afon Menai Fenai ac yna i Ynys Seiriol gyda chriw o fyfyrwyr gwyddorau naturiol 

[0:28] i gael blas o’r gorau sydd gan yr ardal yma i’w chynnig. 

[0:47] Wel, hyd yma rydym wedi gweld y gorau o’r bywyd gwyllt o’r rhan yma o’r byd, yn enwedig yr adar.  

[0:53] Mae’r ysgafelloedd yn dew, bron i bob centimedr, wedi ei orchuddio gyda heligogod, gwylanod 

[0:59] ac rydym wedi gweld mulfrain gwyn ac wrth gwrs y palod (puffins).

[01:02] Mae’n debyg mai dyma pam wnes i benderfynu creu perthynas gyda Bangor. 

[01:06] Oherwydd yr hyn rydych yn ei weld yn y fan yma. Gall unrhyw sefydliad fuddsoddi mewn isadeiledd.

[01:11] Gall unrhyw sefydliad gael adeiladau mwy, neu gael mwy o addysgu.

[01:14] Ond does dim buddsoddiad yn y byd all gael hyn. 

[01:18] Hyn ar ein trothwy, sy'n gwneud Bangor y lle gorau i astudio’r gwyddorau naturiol.

[01:30] Mae’n wych. Yn amlwg dim ond jyst y cwmni gyda Steve yma, mae gweld y bywyd gwyllt, y gwylanod coes-ddu... 

[01:37] y mulfrain, y morloi a’r math yna o beth. Hollol ryfeddol a phrofiad unigryw iawn.

[01:41] Mae Steve yn ddyn clên iawn. Ia, hollol anhygoel. Does unman gwell i fod. 

[01:46] Mae hi wedi bod yn brynhawn anhygoel. Dwi’n teimlo fy mod wedi cael fy ergydio ychydig ac yn rynllyd.

[01:51] Ond, i allu dod allan yma, a mi allwch weld y Brifysgol o fan hyn.

[01:56] Gallwch weld y neuaddau preswyl o fama. I fod yn fyfyriwr yma, a meddwl y gallwch orffen astudio 

[02:01] a dod lawr yma a padlfyrddio neu gaiacio allan ar y Fenai a chael hyn fel ffordd o leihau straen arholiadau.

[02:08] Mae hynna yn hollol anhygoel i mi.

Sir David Attenborough

Gradd er Anrhydedd Syr David Attenborough

"Mae gan Brifysgol Bangor enw rhagorol ym maes astudio gwyddorau'r amgylchedd a'r môr. Mae arnom angen pobol efo'r arbenigaeth a'r sgiliau ymchwil hollbwysig i geisio datrys problemau'r byd."

Y fyfyrwraig Amy Stout

Proffil Myfyriwr Amy Stout

"Bu astudio Sŵoleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid yn brofiad anhygoel. Mae yma ddarlithwyr ysbrydoledig yn ymchwilio i lawer o bynciau amrywiol, ac o’n cwmpas mae bioamrywiaeth anhygoel Gogledd Cymru."

Y myfyrwir James Szewczyk

Proffil Myfyriwr James Szewczyk

"Mae sŵoleg gyda herpetoleg yn darparu amrywiaeth eang o fewn y modiwlau, a phob un yn wirioneddol ddiddorol a hwylus." 

Bydd ein cyfleusterau yn dod â'r hyn rydych wedi ei ddysgu yn fyw

Mae’r cyfleusterau yn cynnwys:

  • ein hamgueddfa hanes natur ein hunain 
  • gardd fotaneg
  • acwaria dŵr croyw a morol
  • casgliad o nadroedd gwenwynig
  • labordy pridd tanddaearol mwyaf Ewrop 
  • adardai
  • llong ymchwil sy'n mynd dros y môr
  • fferm ymchwil weithredol
Myfyriwr yn gwisgo siwmper felen yn ysgrifennu mewn llyfr nodiadau, wedi ei hamgylchynau gyda phlanhigion yn y tŷ gwydr yng Ngardd Fotaneg Treborth.
Yn y tŷ gwydr, Gardd Fotabeg Treborth

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

Sgwrsiwch efo'n myfyrwyr

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

 

Ein Hymchwil o fewn Bioleg

Rydym yn cefnogi ymchwil helaeth a thrylwyr ym maes gwyddorau biolegol, yn cynnwys ecoleg foleciwlaiddbiogeocemeg a gwyddor planhigion ffisioleg, ymddygiad a chadwraeth anifeiliaid microbioleg, parasitoleg a biotechnoleg geneteg pysgodfeydd, DNA hynafol, bioleg esblygiadol a chadwraeth, biogeocemeg, biohydrofeteleg, biogemeg cynnyrch planhigion, ffisioleg straen (planhigion), biogeocemeg gwlypdiroedd, niwroffisioleg anifeiliaid cramennog, ymatebion anifeiliaid i straen a microbioleg gymhwysol.

Rydym yn derbyn cefnogaeth ariannol sylweddol gan y cynghorau ymchwil, elusennau, adrannau'r llywodraeth, y Comisiwn Ewropeaidd a diwydiannau ym Mhrydain a thramor. Mae ein sylfaen ôl-ddoethurol yn cael ei chryfhau gan gymrodoriaethau a noddir yn unigol gan yr NERC a'r CE (e.e. Marie-Curie). Mae ein diddordebau amrywiol yn hwyluso cyfnewid syniadau a thechnegau rhyngddisgyblaethol ac yn hyrwyddo cydweithredu yma ym Mangor a chyda cydweithwyr mewn sefydliadau a diwydiannau eraill, yn y DU a thramor.  

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.