Pam dewis astudio Dylunio Cynnrych ym Mangor?
Mae ein cwrs Dylunio Cynnyrch wedi cyrraedd y safle uchaf trwy’r Deyrnas Unedig yn ôl Tabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2024. Cyflawnodd y cwrs hefyd ganlyniadau gwych yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr diweddaraf gan gynnwys: 1af am Addysgu ar y cwrs, 1af am Gyfleoedd Dysgu, 1af am Gefnogaeth Academaidd, a 1af am Drefniadaeth a Rheolaeth.
Byddwch yn ymarfer yr hyn rydych wedi ei ddysgu mewn darlithoedd ac yn ennill profiad ymarferol o ddod â chynnyrch arloesol i’r farchnad, rheoli projectau masnachol mewn modd proffesiynol a helpu cwmnïau i fod yn fwy effeithlon, cystadleuol a pherthnasol yn y byd heddiw.
Cewch eich dysgu mewn grwpiau bychain gan ddarlithwyr sydd am eich gweld yn ffynnu. Bydd ein gweithdy prototeipio aml-ddeunydd, swît CAD a chyfarpar o’r radd flaenaf yn eich galluogi chi i wireddu eich syniadau. Nid oes cost ychwanegol am ddeunyddiau na defnyddio’r gweithdy a gofodau stiwdio.
Daw ein myfyrwyr a staff o wahanol gefndiroedd, ond mae pob un yn rhannu’r un nod, yn weledyddion ac yn ymroddedig i wella ein byd trwy ddylunio ac arloesi.
Bydd Dylunio Cynnyrch yn agor byd o yrfaoedd diddorol a chreadigol. Mae hyn yn cynnwys dewis eang o yrfaoedd I bobl greadigol sydd isio datrys problemau, arloesi a newid y byd.
Mae popeth yn ein hamgylchedd adeiledig wedi cael ei greu gan bobl i bobl. Bydd ein cwrs Dylunio Cynnyrch BSc (Anrh) yn eich galluogi i wireddu eich syniadau i wneud y byd yn lle gwell.
Myfyriwr Dylunio Cynnyrch yn gweithio gyda meddalwedd CAD Solidworks
Ein cyrsiau Dylunio Cynnyrch
Dyma drosolwg o'r cyrsiau Dylunio Cynnyrch israddedig sydd ar gael i chi eu cymharu a dewis y cwrs sy'n iawn i chi.
Dyma drosolwg o'r cyrsiau Dylunio Cynnyrch israddedig sydd ar gael i chi eu cymharu a dewis y cwrs sy'n iawn i chi.
Pam astudio Dylunio Cynnyrch ym Mhrifysgol Bangor?
[00:04] Y ffordd rydan ni yn gweithredu ydi ein bod yn rhoi myfyrwyr yng nghanol y broses.
[00:09] Rydan ni wedi gwrando ar ddiwydiant i weld am beth mae nhw'n chwilio amdano
[00:12] gan fyfyrwyr ac rydyn wedi dylunio ein cwrs i ateb y gofynion yna
[00:16] Be yda ni yn gynnig yma, ar y cwrs yma, sy'n wahanol i'r rhan fwyaf o lefydd eraill
[00:20] ydi ein bod yn teilwra'r cwrs yma i siwtio'r unigolyn fel bod yr unigolyn hwnnw yn cael gyrfa
[00:26] o fewn y byd dylunio. Gan bod ni yn gweithio yn agos gyda diwydiant a 'da ni yn gwrando ar beth mae diwydiant
[00:35] ei gwneud hi'n hawdd iddyn nhw gael eu cyflogi. Maen't yn cael eu cyflogi mewn ystod eang
[00:41] ei gwneud hi'n hawdd iddyn nhw gael eu cyflogi. Maen't yn cael eu cyflogi mewn ystod eang
[00:46] o ddiwydiant rhwng o gwmniau sydd yn gweithgynhyrchu peirianneg o'r technoleg flaenaf CNC
[00:53] i ddylunwyr sydd yn gweithio o fewn cwmniau ar gynnyrch penodol i gwmniau agency designers
[01:00] lle mae nhw yn gweithio ar amryw o brojectau. Yn aml mae 'na fyfyrwyr yn mynd ac yn arbenigo mewn dylunio graffeg
[01:05] dylunio gyfer y we, felly mae'r cwrs yn arwain y myfyrwyr ar drywydd eang dros ben.
[01:15] Dwi yn meddwl fod hynna yn rhwybeth pwysig achos mae'r cydweithio rhwng y myfyrwyr
[01:18] rhwng y staff a'r myfyrwyr hefyd y cydweithio efo'r
[01:22] cwmnioedd diwydiannol yn rhywbeth sy'n arbennig yn fan hyn.
Cymerwch olwg ar ein cyfleusterau Dylunio Cynnyrch
Gradd Dylunio Cynnyrch fydd yn eich paratoi am yrfa lewyrchus
Fel myfyriwr graddedig y cwrs Dylunio Cynnyrch BSc (Anrh) byddwch yn hynod o gyflogadwy. Byddwch yn gallu defnyddio eich sgiliau dylunio i wneud y byd yn lle gwell drwy ddatrys problemau i gwsmeriaid, cleientiaid a chwmnïau ledled y byd.
Byddwch yn gweithio ar brojectau byw gyda chwmnïau ac yn ennill profiad diwydiannol, yn dysgu sut i reoli projectau masnachol mewn ffordd broffesiynol, yn galluogi cwmnïau i fod yn fwy effeithlon, cystadleuol a pherthnasol yn y byd heddiw.
Yn aml, bydd ein myfyrwyr sydd yn graddio yn mynd yn syth i mewn i swydd, gyda llawer yn cael cynnig gwaith gyda’r cwmni sydd wedi rhoi lleoliad gwaith iddynt yn ystod blynyddoedd 2 a 3 o’r cwrs.
Byddwch yn mynychu tri lleoliad yn ystod y radd yn hytrach nag un lleoliad sy'n para blwyddyn ar ddiwedd y cwrs. Ein gradd yw'r unig un radd Dylunio Cynnyrch BSc (Anrh) yn y DU i gynnig hyn.
Bydd y profiad mewn gweithle yn digwydd dros 24 wythnos dros 3 mlynedd - bloc o 8 wythnos pob blwyddyn o'r cwrs.
Byddwch yn elwa o'r canlynol:
- Cefnogaeth gan fentoriaid profiadol
- Ymweliadau gan diwtoriaid cyswllt o’r coleg
- Cynhyrchu portffolio ardderchog
- Profiad o gydweithredu
- Cymryd rhan mewn projectau go iawn
- Datblygiad Personol a Phroffesiynol
- Profiadau a ysgogir gan yrfaoeddr
Byddwch yn astudio methodolegau dylunio sy'n canolbwyntio ar bobl a meddylfryd dylunio. Bydd amrywiaeth o friffiau'n eich herio ac yn eich datblygu'n greadigol ac yn broffesiynol. Bydd projectau gyda phartneriaid diwydiannol yn darparu sylfaen a chyd-destun i ddeall sut mae diwydiant yn gweithio. Eich her fydd bod yn greadigol a sicrhau eich bod yn arloesi yn y briff a roddir i chi.
Mae'r rheiny'n cynnwys:
- Egwyddorion Meddylfryd Dylunio
- Creadigrwydd
- Cyfathrebu a Modelu Dylunio
- Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD)
- Gweithgynhyrchu drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAM)
- Sgiliau Gweithgynhyrchu
- Prototeipio
- Datblygu Cynaliadwy a'r Economi Cylchol
- Sgiliau Cyflwyno
Mae'r darlithoedd yma wedi'u cynllunio i'ch addysgu am y materion sy'n effeithio ar ddylunwyr cynnyrch ym myd diwydiant:
- Arloesi Dylunio ar gyfer Diwydiant
- Arweinyddiaeth Strategol
- Rheoli Projectau
- Sefydliadau a Rheolaeth
- Marchnata
- Sgiliau Cyflwyno
- Dylunwyr mewn asiantaethau
- Dylunwyr cynnyrch mewn cwmnïau ymgynghorol
- Arbenigwr technegol mewn peirianneg a chynllunio drwy gymorth cyfrifiadur
- Peirianwyr cynhyrchu
- Rheolwyr cynhyrchu
- Dylunwyr technegol
- Dylunio mewnol
- Dylunio dodrefn
- Peirianwyr dylunio
- Dylunwyr graffeg
- Dylunwyr digidol
- Dylunwyr gemwaith
- Rheolwyr marchnata
- Rheolwyr datblygu busnes
- Arweinwyr datrysiadau arloesol
- Rheolwyr strategaethau
- Perchnogion busnes hunangyflogedig
- Ymgynghorwyr annibynnol
- Athrawon uwchradd
Rydym yn cyflwyno dwy wobr yn flynyddol i fyfyrwyr Dylunio Cynnyrch sydd yn graddio. Mae Gwobr M-SParc am Berfformiad Academaidd, sy'n werth £150, yn cael ei rhoi i'r myfyriwr sy'n graddio gyda'r marc academaidd uchaf. Mae Gwobr Lloyd Jones, sy'n werth £1500, yn cael ei rhoi i un bachgen ac un ferch fydd yn cyfrannu at agweddau technolegol economi Gogledd Cymru ar ôl graddio.
Proffiliau graddedigion Dylunio Cynnyrch
Dilynwch ni ar Instagram
Yr hyn rwy'n ei garu am y cwrs Dylunio Cynnyrch ym Mhrifysgol Bangor yw bod gennym ddarlithwyr gwybodus iawn gyda phrofiad yn y diwydiant.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus Dylunio Cynnyrch ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Dylunio Cynnyrch ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Dylunio Cynnyrch ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Ein Hymchwil o fewn Dylunio Cynnyrch
Wrth astudio Dylunio Cynnyrch byddwch yn dysgu am y canfyddiadau ymchwil diweddaraf yn eich maes ac yn cael cyfle i weithio gydag arbenigwyr ymchwil o fri cenedlaethol a rhyngwladol wrth gynllunio a gweithredu eich ymchwil eich hun. Fe'ch addysgir gan unigolion sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol am eu harbenigedd ac sy'n cael eu gwahodd yn rheolaidd i siarad mewn amryw o ddigwyddiadau amlwg ledled y byd.
Mae ein hymchwil ym maes Dylunio Cynnyrch wedi'i gwreiddio'n gyson yn ein briffiau byw ac mae'r canlyniadau'n dod yn rhan annatod o brosesau datblygu cynnyrch ac arloesi newydd o fewn cwmnïau. Mae'r profiadau cymhwysol a byd go iawn hyn wedi arwain at i nifer o'n myfyrwyr gael eu henwi ar batentau gyda'n cwmnïau partner.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.