Taith Rithiol Stiwdio Aria
Y Dderbynfa
Croeso i Stiwdios Aria yn Llangefni. Dyma’r dderbynfa foethus gyda’r murlun trawiadol o du allan yr adeilad a’r mynyddoedd yn y cefndir.
Y Stiwdio
Dyma ni yn stiwdio 2 - ble mae setiau tai rhai o gymeriadau'r gyfres ‘Rownd a Rownd’. Fe welwch fod y setiau gefn yn gefn er mwyn gwneud y mwyaf o’r gofod.
Tŷ Dani
Rydym yn awr yn Nhŷ Dani, un o gymeriadau hir mwyaf poblogaidd y gyfres. Yma mae cegin a lolfa.
Sylwch mai dim ond hanner cyntedd sydd gan Dani – ni all y camera na chithau weld rownd y gornel! Mae drws ffrynt y tŷ ar y stryd ym Mhorthaethwy.
Tŷ Siân
Dyma’r cyntedd yn nhŷ Siân. Sylwch nad ydi’r grisiau yn arwain i unman gan nad oes llofftydd yma. Mae hwn yn replica o dŷ go iawn yn Llandegfan - roedd yn rhaid ail greu'r gegin yn union gan nad oedd modd ffilmio ar leoliad oherwydd y pandemig.
Fflat Jason
Fflat Jason ydi hwn ac yn y stori mae’r lleoliad uwchben y Tŷ Pizza sydd ar set y gyfres ym Mhorthaethwy.
Siop yr Iard
Dyma un o’r setiau mwyaf y stiwdio. Unwaith eto mae tu allan yr iard gychod i lawr wrth y Fenai ym Mhorthaethwy ond ail grëwyd y tu mewn er mwyn hwyluso'r ffilmio gan fod angen gymaint o brops ac ati i lenwi’r siop.
Tŷ Arthur
Wrth i ni ymweld â thŷ Arthur fe welwch weddill y setiau yn glir. Mae wal ar goll yma er mwyn creu gofod i’r criw ffilmio weithio gan fod y set ei hun yn gymharol fychan.
Ac o’r cyntedd eto fe welwch pa mor agos ydi’r setiau at ei gilydd yn y stiwdio.
Tŷ’r K’s
Dyma dŷ’r Ken a Kay. Mae’r tŷ go iawn ar y lot ym Mhorthaethwy ond roedd angen mwy o le oherwydd covid felly adeiladwyd y set yma i fod ychydig yn fwy na’r tŷ gwreiddiol er na fyddech chi yn sylwi hynny ar gamera.
O’r cyntedd fe gawn gip olwg i mewn i’r gegin hefyd.
Tŷ Dylan a Sophie
Yn sicr dyma set grandiaf ’Rownd a Rownd’ - tŷ moethus Dylan a Sophie. Fe gafodd yr Adran Gelf hwyl yn cynllunio hwn.
A dyma’r cyntedd, eto fe welwch nad yw’r grisiau yn arwain i unman a chewch gip olwg o’r lolfa.
Y Galeri
Yng nghornel o’r stiwdio mae ardal y galeri. Yma bydd y cyfarwyddwr a a gweddill y criw yn eistedd yn ystod y ffilmio. Byddant yn gwylio’r digwydd ar y sgriniau ac yn mynd yn ôl ag ymlaen ar y set yn ôl yr angen.
Gwisgoedd
Tu allan i’r stiwdio mae’r adran wisgoedd ac yma mae holl wisgoedd y cymeriadau yn cael eu cadw, eu didoli a’u golchi. Yma bydd yr actorion yn dod i mewn i mewn i’w gwisg cymeriad.
Colur
Ar ôl newid i’w wisg bydd pob actor yn cael colur. Yr adran golur sydd hefyd yn gyfrifol am dorri a steilio gwalltiau a chreu effeithiau arbennig megis briwiau a chleisiau.
Dilynwch ni ar Instagram
Ein Hymchwil o fewn Ffilm, Cyfryngau a Newyddiaduraeth
Mae'r Ysgol yn rhyngddisgyblaethol, yn gydweithredol, yn greadigol ac yn feirniadol. Yn yr asesiad cenedlaethol diweddaraf o ansawdd ymchwil (REF 2014), roedd holl ymchwil yr Ysgol naill ai gyda'r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol o ran ansawdd.
Cryfderau/Arbenigeddau'r Ymchwil
Ein cryfderau allweddol yw gwaith y staff yn y diwylliant digidol; y cyfryngau a chyfathrebu perswadiol; a theori ac ymarfer creadigol (ymarfer-fel-ymchwil).
Mae gennym berthynas arbennig o gryf yn sector diwydiannau'r cyfryngau a chreadigol yng Nghymru, ac rydym hefyd yn ymwneud â'r economi creadigol yn fwy cyffredinol, yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae hyn yn cyfrannu at nifer o agweddau o'n gweithgareddau ymchwil, ac yn gymorth i hyrwyddo ein gwaith hefyd. Yn gymunedol, rydym yn cymryd rhan mewn projectau a datblygiadau'n rheolaidd. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i'r myfyrwyr, ac mae hefyd yn gymorth i gynyddu effaith gyffredinol ein gweithgareddau a chodi ymwybyddiaeth amdanynt. Ymhlith y cwmnïau a'r sefydliadau y buom yn cydweithio â hwy'n ddiweddar mae BAFTA Cymru, cwmni teledu annibynnol Cwmni Da, NoFit State Circus a'r Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr.
Digwyddiadau Ymchwil
Mae gennym ddiwylliant ymchwil bywiog a chyfeillgar. Mae ein cyfres ymchwil wythnosol yn cynnwys cydweithwyr o Fangor, myfyrwyr ôl-radd, ac ymchwilwyr ac ymarferwyr o bob rhan o'r Deyrnas Unedig a thu hwnt, mewn awyrgylch cefnogol, os beirniadol. Rydym hefyd yn gwahodd gwesteion arbennig, ysgolheigion ar ymweliad ac eraill i roi cyflwyniadau ar eu gwaith ymchwil a'u hymarfer.