Mae ein graddau yn y Gwyddorau Meddygol yn seiliedig ar ymarfer meddygol modern ac fel un o'n graddedigion, bydd gennych y sgiliau i ddilyn amrywiaeth o lwybrau at yrfa clinigol, meddygol a gofal iechyd, yn cynnwys y potensial i gael mynediad ôl-radd i feddygaeth a hyfforddiant meddyg cysylltiol. Byddwch yn dysgu mewn labordai modern ac yn cael profiad o ddefnyddio sbesimenau dynol go iawn i ddyfnhau eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o anatomeg ddynol.
Mae ein hysgol fach, gyfeillgar yn caniatáu ichi ddod i adnabod ein staff academaidd yn dda iawn a chael cymorth academaidd a bugeiliol yn hawdd, fydd yn eich galluogi i berfformio ar eich gorau. Ni fyddwch ar goll mewn darlithfa o gannoedd gan ein bod yn canolbwyntio ar ddysgu mewn grwpiau bach, felly byddwn yn dod i'ch adnabod yn gyflym. Mae ein staff yn cynnwys academyddion, clinigwyr ac ymchwilwyr gyda phrofiad sylweddol yn y GIG, mewn prifysgolion ac yn y byd masnachol.
- Mae ein cwricwlwm blwyddyn 1af israddedig cyffredin yn caniatáu i fyfyrwyr gyfnewid rhwng cyrsiau, gan ddarparu hyblygrwydd wrth i'w diddordebau ddatblygu dros y flwyddyn gyntaf
- Mae myfyrwyr Gwyddor Feddygol yn cael canolbwyntio ar addysg anatomegol a ffisioleg ddynol, gan gynnwys mynediad i ystafell ddyrannu celaneddol, sy'n brin y tu allan i ysgolion meddygol.
- Mae'r radd BSc Gwyddor Biofeddygol wedi ei hachredu gan yr Institute of Biomedical Science (IBMS)
- Ymhlith yr adnoddau rhagorol, ceir labordai ymchwil celloedd a moleciwlaidd gyda'r holl offer angenrheidiol.
- Rydym yn cynnig blwyddyn sylfaen gyffredinol i bob cwrs israddedig, er mwyn ehangu mynediad i addysg ar lefel prifysgol
- Mae gan ein staff enw da yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ym maes addysg ac ymchwil meddygol a gofal iechyd
- Mae amrywiaeth o bosibiliadau i wneud interniaeth ac i fynd ar leoliad gwaith ar gael, i roi hwb i'ch CV a sicrhau bod gennych fantais dros raddedigion eraill yn y farchnad waith
Mae ein hysgol fach, gyfeillgar yn caniatáu i chi ddod o hyd i arbenigedd sy'n addas i'ch diddordebau a'ch dyheadau gyrfaol. Mae'r flwyddyn gyntaf gyffredinol yn golygu bod gennych yr hyblygrwydd i ddilyn eich diddordebau wrth iddynt ddatblygu a'r potensial i newid gradd ar ddiwedd eich blwyddyn gyntaf, waeth pa gwrs byddwch yn dechrau arno. Mae ein graddau wedi eu gwreiddio'n gadarn yn yr ymchwil diweddaraf, ac mae'r cynnwys yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd er mwyn sicrhau y byddwch yn cael y wybodaeth ddiweddaraf mewn maes sy'n symud yn gyflym.
Mae gennym gysylltiadau rhagorol â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n un o'r byrddau iechyd mwyaf yn y DU, a Chronfa Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin, yr elusen ganser fwyaf blaenllaw ar gyfer gogledd orllewin Lloegr a gogledd Cymru. Mae rhai darlithwyr yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac i'r brifysgol ar yr un pryd, sy'n golygu y cewch eich dysgu gan staff a darlithwyr er anrhydedd sydd ag 'ymbarél' cynhwysfawr o sgiliau ac arbenigedd - o'r labordy i erchwyn gwely cleifion.