Proffil Myfyriwr Sophie James
Mae Sophie yn astudio Iaith Saesneg a Ffrangeg drwy'r gyfrwng Gymraeg yn Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Ieithoedd Modern.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Ieithoedd Modern llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Ieithoedd Modern ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Ieithoedd Modern ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Ein Hymchwil o fewn Ieithoedd Modern
Mae ein proffil ymchwil rhyngwladol mewn ieithoedd modern yn deillio o waith deinamig ein staff academaidd ac ymchwil, sydd wedi creu projectau o bwys, yn unigol ac mewn cydweithrediad ag eraill, ym meysydd hanes, diwylliannau a gwleidyddiaeth y byd Ffrengig, Sbaenaidd, Almaeneg ac Eidalaidd, gydag arbenigedd cynyddol mewn Astudiaethau Cyfieithu ac Astudiaethau Tsieinëeg.
Rydym yn falch o'n perfformiad cryf yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil y Llywodraeth (REF 2014), a farnodd fod 76% o'n hymchwil o safon ryngwladol ragorol neu gyda'r gorau yn y byd, gyda chanlyniadau nodedig iawn o ran effaith ein hymchwil.
Mae gennym gryfderau ymchwil arbennig yn y meysydd canlynol: safbwyntiau ôl-drefedigaethol at ddiwylliannau Ffrengig a Sbaenaidd, gwleidyddiaeth cofio a choffáu, llên teithio, astudiaethau Catalanaidd a Galisaidd, troseddu trefnedig yn yr Eidal, cyfieithu, grym a disgwrs beirniadol, ffilm a hunaniaeth genedlaethol, diwylliant poblogaidd a chomics, diwylliannau materol a thestunau materol, diwylliannau gweledol a chelf gyfoes.
Mae ein myfyrwyr yn elwa o gymuned ymchwil fywiog a chynhwysol. Mae ein hymchwil yn sail i'n haddysgu ac rydym hefyd yn cynnal Fforwm Ymchwil cyffrous bob tymor, sy'n cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys sgyrsiau gan ysgolheigion gwadd a'n staff ymchwil a myfyrwyr ein hunain, cyfarfodydd lansio llyfrau a pherfformiadau celf, cerddoriaeth a barddoniaeth.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.