Fy ngwlad:
Criw o fyfyrwyr yn eistedd wrth ddesg yn cyd-weithio

Graddau Marchnata Israddedig

Bydd astudio Marchnata ym Mhrifysgol Bangor yn eich annog i feddwl yn strategol ac yn greadigol.  Byddwch yn dysgu sgiliau marchnata ymarferol ochr yn ochr â theori ac mae’r BSc mewn Marchnata wedi'i achredu gan CIM, y gymuned fwyaf o farchnatwyr. Rydym yn ymrwymo i ddysgu a rhoi profiadau o’r byd go iawn i chi. Mi welwch chi hynny yn y ffaith ein bod ni yn y chweched safle ar hyn o bryd am Foddhad Addysgu mewn Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus (Guardian University Guide 2025).

Ar y dudalen hon:
Opsiynau o fewn marchnata

Os rydych am wneud cais ar gyfer cwrs yn dechrau ym Medi 2025, cymerwch olwg ar ein tudalen Sut i Wneud Cais.

 

Darganfyddwch y cwrs Marchnata i chi

Marchnata - BSc (Anrh)
Bydd gradd mewn Marchnata yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau i ddeall defnyddwyr, gwybod beth mae arnyn nhw ei eisiau, a gwybod sut i hyrwyddo cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau.
Cod UCAS
N501
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Marchnata (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Lansiwch eich gyrfa farchnata. Bydd y cwrs BSc Marchnata (gyda Blwyddyn Sylfaen) yn eich paratoi i lwyddo trwy roi sylfaen gref i chi a sgiliau i’ch paratoi ar gyfer y diwydiant.
Cod UCAS
N50F
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser
Rheoli Cyfathrebu Marchnata - BSc (Anrh)
Dysgwch am reoli, cynllunio a strategaethau marchnata, a chyfathrebu marchnata tra byddwch yn ennill sgiliau creadigol, dadansoddol, cymdeithasol a digidol.
Cod UCAS
N507
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Darlun pensaer o Ysgol Busnes Albert Gubay

Rhodd o £10.5 miliwn i sefydlu ‘Ysgol Fusnes Albert Gubay’ ym Mhrifysgol Bangor

Mae’n bleser gennym gyhoeddi rhodd nodedig o £10.5 miliwn gan Sefydliad Elusennol Albert Gubay i sefydlu Ysgol Fusnes Albert Gubay ym Mhrifysgol Bangor. Bydd y rhodd hon yn golygu y gall Ysgol Busnes y Brifysgol symud i gyfleuster deinamig a modern.

Bydd Ysgol Fusnes newydd Albert Gubay yn meithrin rhaglenni arloesol a fydd yn paratoi myfyrwyr i ffynnu yn yr economi fyd-eang sy'n datblygu'n gyflym. Bydd yn cynnwys mannau dysgu blaengar a hybiau cydweithredol a ddyluniwyd i annog creadigrwydd, meddwl beirniadol ac entrepreneuriaeth.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Busnes, Marchnata a Rheolaeth. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Busnes, Marchnata a Rheolaeth llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Busnes, Marchnata a Rheolaeth ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Busnes, Marchnata a Rheolaeth ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Darlithydd mewn Marchnata Dr Sara Parry

Dewch i gwrdd â Dr Sara Parry Uwch Ddarlithydd Marchnata yma yn Ysgol Busnes Bangor. Enillodd Dr Parry ei PhD mewn Marchnata yma ym Mhrifysgol Bangor cyn ymuno â'n staff dysgu. 

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.