Fy ngwlad:
To car heddlu

Graddau Plismona Israddedig

Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig

Dod o hyd i gwrsDiwrnod Agored

Gwnewch gais cyn 6yh ar Ddydd Mercher, 29 Ionawr 2025 i gychwyn eich cwrs ym Medi 2025

Profiad Myfyrwyr

Enw llawn fi ydi Ross Oliver Griffiths. Enw cwrs fi ydi Plismona Proffesiynol, a dwi'n astudio yn y flwyddyn gyntaf.

Y rheswm nesi ddewis Prifysgol Bangor oedd ar ôl dod i ddiwrnod agored roedd y darlithwyr yn andros o garedig, roedd cynnwys y cwrs hefyd yn apelio ata i. Felly dyma'r cwrs iawn i mi.

O ran y cwrs hyd yma dwi'n meddwl y profiad ti yn cael ti mynd i mewn i bethau mi fyddi di yn gweld ar y strydoedd fel aelod o'r heddlu. Mae'n rhoi bach o brofiad ag 'insight' i be fydda chdi yn gael a hefyd y proifiad o mynd i llefydd efo'r cwrs. Ddaru ni gael mynd i'r 'control centre' yn Llanelwy er mwyn cael syniad be sydd yn digwydd tu ôl i'r llenni mewn ffordd.

Faint o bobl sy'n gweithio i gadw pawb yn ddiogel ag yn gwarchod popeth.

Hoff beth i am Fangor ydi'r gymuned, yn enwedig fel Myfyriwr Cymraeg. Just ymuno mewn cymaint ag galli di ag bydd popeth yn haws ag ar noson allan mae'r undeb Gymraeg yn andros o hwyl i fynd efo.
 

Pam Astudio Plismona?

Caiff y cwrs ei ddysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial a gweithdai ac mae'n ceisio rhoi sylfaen drylwyr i fyfyrwyr mewn amrywiaeth o faterion a themâu allweddol sy'n ofynnol i weithio fel heddwas, gan gynnwys:

  • Cyd-destun plismona cyfoes, diwylliant yr heddlu, modelau plismona (gan gynnwys plismona cymunedol a phlismona ar sail tystiolaeth)
  • Datblygu, rôl, trefniadaeth a llywodraethu'r ymdrechion i leihau ac atal troseddau a niwed, ac i sicrhau diogelwch personol a chyhoeddus mewn gwahanol leoliadau
  • Mesurau atal troseddau a'u heffeithiolrwydd
  • Tueddiadau ym maes troseddau ac erledigaeth; gwahanol fathau o droseddau a'u cyd-destun cymdeithasol (gan gynnwys troseddau cyfundrefnol; e-droseddu a therfysgaeth)
  • Dulliau damcaniaethol gwahanol o astudio, dadansoddi ac egluro trosedd, ymddygiad gwyrdröedig ac erledigaeth.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr.

Sgwrsiwch gyda'n myfyrwyr

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Plismona llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Plismona ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Plismona ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Ein Hymchwil o fewn Plismona

Mae ymchwil cyffrous a phwysig ein staff academaidd ym maes Troseddau, Cyfiawnder Troseddol a Chymdeithas yn chwarae rhan sylweddol wrth sicrhau statws Prifysgol Bangor fel un o sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw’r byd.

Mae gan ein ymchwilwyr ddiddordeb mewn effeithiau troseddu a chyfiawnder troseddol ar gymdeithas. Mae hyn yn cynnwys ymchwil byd-enwog a wneir yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas yn archwilio sut y darlunnir troseddu yn y newyddion a'r cyfryngau adloniant, datblygu polisïau ar yr ymatebion priodol i droseddu, newidiadau mewn trefniadau cyfiawnder cymdeithasol ar adeg o gyni cyllidol, yn ogystal â chwestiynau damcaniaethol ehangach am lywodraethu drwy droseddu a chyfiawnder.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.