Fy ngwlad:
Maes pwnc UG Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Gall astudio Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol arwain at amrywiaeth gyrfaoedd gwahanol, ym Mangor mae ein graddau traws disgyblaethol yn eich galluogi i gael ffocws clir ar droseddeg a dysgu damcaniaethau o sawl disgyblaeth academaidd.

Ar y dudalen hon:
Ein Cyrsiau mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol
Tegwen Parry

PROFFIL MYFYRIWR Tegwen Parry - Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Mae Tegwen Haf Parry yn fyfyrwraig hŷn ac yn byw ym Mhenrhyndeudraeth. Mae hi'n astudio gradd mewn 'Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol'.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol . 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr  Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol  llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio  Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol  ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai  Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol  ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Lisa Sparkes - Darlithydd mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

[0:00]

Helo, enw fi ydi Lisa Suzanne Sparks a dwi'n darlitho mewn

[0:04]

Troseddeg a Cyfiawnder Troseddol yn Prifysgol Bangor.

[0:07]

Efo myfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf da ni'n sbïo mwy tuag at y theori o Droseddeg so pam mae unigolion yn neud be ma nhw yn neud

[0:15]
pam maen nhw yn troi at droseddu pan da ni’n gwybod ei fod yn erbyn y gyfraith? Da ni hefyd yn sbïo mwy tuag at

[0:22]

yr heddlu, y gwasanaeth prawf, carchar a'r gosb wedyn ond hefyd sbïo ar sut alla

[0:30]

ni helpu unigolion mynd yn ôl i fen i'r gymuned ar ôl bod yn garchar

[0:34]

efo pwnc troseddeg mae yn gymaint o bethau da ni'n trafod

[0:39]

fel dwi'n son y flwyddyn gyntaf mae yn fwy pam mae rhywun yn neud pethau o’n yn yr ail a trydedd flwyddyn dyma lle mae myfyrwyr yn cael

[0:45]

dewis pethau maen nhw eisiau dysgu, yn yr ail flwyddyn da ni yn sbïo

[0:51]

lladdwyr cyfresol a da ni'n sbio ar pam ma nhw yn neud be ma nhw yn neud be sydd wedi digwydd yn eu bywyd nhw

[0:57]

I achosi nhw droi, hefyd da ni yn sbio ar y gosb a be sydd yn digwydd wedyn. .

[1:04]

Da ni hefyd yn sbio ar derfysgaeth un o'r pethau ffefryn fi i siarad am

[1:08]

a da ni eto yn sbio ar pam ma nhw yn neud be ma nhw yn neud ond eto ar yr effaith dim jest ar y wlad

[1:15]

ond ar y byd a thramor. Mae'r pwnc yn rhywbeth pwysig i'r gymuned, mae'r pwnc

[1:21]

da ni'n siarad am troseddu trwy'r adeg

[1:26]

da ni yn eistedd a siarad dros banad neu wrth gerdded lawr y stryd, da ni'n gweld o bob dydd yn y cyfryngau mae o

[1:35]

yna drwy'r adeg, felly mae yn bwysig deall pam ma pobl yn neud be ma nhw yn neud, a sut allwn ni gefnogi'r bobl yma. Hefo Prifysgol Bangor

[1:45]

ma na gymaint o bethau i neud yma, peth gyntaf ydi'r adeilad crwydro rownd yr adeilad

[1:52]

a sbio pa mor brydferth ydi o, ond hefyd tu allan i'r brifysgol ar un ochr mae'r mynyddoedd a'r ochr arall mae'r môr

[2:01]

Ma na gymaint o bethau all myfyrwyr neud yn yr amser tu allan i'r brifysgol, ma na rhywbeth i neud

[2:07]

bob dydd, mynd i Llanberis efo

[2:10]

llyfr da ag eistedd a chymryd pethau i mewn neu os ydych eisiau rhywbeth awyr agored mae yna bethau fel caiac a padl-fyrddio popeth ar gael ar stepen drws

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.