Cymerwch gip olwg ar y holl gyrsiau TAR Uwchradd a TAR Cynradd sydd gennym i gynnig.
Dysgu ym Mhrifysgol Bangor
Profiad Myfyrwyr
Fy enw i yw Guto Wyn Hughes. Rwy'n dod o Y Groeslon pentref bach ger Caernarfon. Ar y funud dwi'n astudio TAR Cynradd Cymraeg.
Dwi wedi dewis fod yn athro oherwydd dwi wedi cael profiadau ar ôl chweched i weithio fel cymhorthydd, ac wedi cael blas y hynny wedyn nesi fynd i'r brifysgol a dim neud cwrs BA.
Ar ôl cwblhau fy nghwrs 3 mlynedd mewn chwaraeon, esi fynd ymlaen wedyn i weithio, a di penderfynu dod yn ôl i neud y cwrs TAR ym Mangor er mwyn cymhwyso fel athro.
Mae llawer o gyfleoedd gwahanol er mwyn gallu datblygu yn bersonol mae'r profiad o ddod i adnabod athrawon newydd hefyd yn cymhwyso ar y cwrs wedi bod yn brofiad gwych.
Be dwi wedi mwynhau gora o'r cwrs ydi ystod eang o brofiadau mewn ysgolion gwahanol da ni wedi cael dros y 9 mis diwethaf ysgolion sydd yn arbenigo mewn meysydd dysgu a phrofiad sydd wedi bod yn hollol wych a chael syniadau gan ysgolion eraill. Hefyd y 3 lleoliad gwahanol sydd wedi digwydd o fewn y cwrs.
Wedi bod mewn 3 ysgol wahanol yn dysgu gymaint o oedrannau gwahanol o blant o wahanol ardaloedd, cefndiroedd, cymunedau mae wedi bod yn hollol wych.
Yr adborth y buaswn yn rhoi ydi jest cer amdani mae wedi bod yn flwyddyn hynod werthfawr, o ran yr wythnos gyntaf, yr wythnos croesawu, hyd yma rydych yn dod i nabod gymaint o bobl ella efo'r un fath o werthoedd a chi. Hefyd yr un bobl sydd eisiau neud yr un peth a chyflawni'r un peth o fewn amgylchedd ysgol.
Dwi wedi bod digon ffodus i gael profiadau mewn ysgolion sydd yn ymfalchïo o ddysgu trwy'r cyfrwng y Gymraeg, ac yn cymryd balchder mewn Cymreictod. Dwi wedi bod wrth fy modd yn cael creu'r portffolio Cymraeg yn y Brifysgol ac wedyn defnyddio'r sgiliau da ni'n defnyddio yn y Brifysgol ar lawr y dosbarth, mae wedi bod yn brofiad gwych.
Cyfleoedd Gyrfa mewn Addysgu
Bydd ein cyrsiau TAR Cynradd ac Uwchradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiol rolau ym myd addysg, yn ogystal â datblygu sgiliau arwain hanfodol. Ar ôl cwblhau'r cwrs byddwch yn ennill Statws Athro Cymwysedig (QTS) a gydnabyddir ledled Cymru a Lloegr ac sy'n aml yn drosglwyddadwy ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn dysgu.
Fel myfyriwr graddedig addysg athrawon o Brifysgol Bangor byddwch yn graddio gyda dealltwriaeth fodern, drylwyr o ddysgu ac o arweinyddiaeth addysgol, a wnaiff eich gosod chi ar wahân i athrawon eraill sydd newydd gymhwyso ac a fydd yn llwyfan ragorol ichi ddatblygu eich gyrfa ddysgu mewn byr o dro.
Cymorth a Chymhellion ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA)
Oeddech chi'n gwybod bod cymhellion ar gael pan fyddwch chi'n dilyn rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig ym Mhrifysgol Bangor. Gallech fod yn gymwys am grantiau gan Lywodraeth Cymru, Fwrsariaeth neu Ysgoloriaeth Cyn-fyfyrwyr gan Brifysgol Bangor.
Ein Hymchwil o fewn Addysgu
Yn yr Ysgol Gwyddorau Addysgol, cewch ddysgu am ganfyddiadau ymchwil diweddaraf eich maes a bydd cyfle i weithio gydag arbenigwyr ymchwil o fri rhyngwladol i gynllunio a gweithredu eich ymchwil eich hun. Fe'ch addysgir gan unigolion sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol am eu harbenigedd ac sy'n cael eu gwahodd yn rheolaidd i siarad mewn amryw o ddigwyddiadau amlwg ledled y byd.
Mae tîm TAR addysg athrawon Bangor yn ymwneud ag ymchwil amrywiol sy'n cyfrannu at fodiwlau'r cwrs, gan gynnwys ymchwil o fri rhyngwladol ar ddwyieithrwydd ac amlieithrwydd, mentora, Anghenion Addysgol Arbennig ac arweinyddiaeth ysgol.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.