Fy ngwlad:
Grŵp astudio

Addysg

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Addysg

Pam Astudio Addysg?

Rydym yn gryf o'r farn ein bod yn 'addysgu'r rhai fydd yn gwneud newidiadau yfory'.  Bydd y cyrsiau hyn yn eich galluogi i fod wrth wraidd gwella ansawdd a dealltwriaeth addysgol, ble bynnag yr ewch yn eich gyrfa. 

  • Hyblygrwydd o ran astudio - cewch astudio'n llawn amser neu'n rhan amser a chan ddibynnu ar y modiwlau rydych chi'n eu hastudio cewch astudio rhai wyneb yn wyneb neu ar-lein
  • Caiff ein cyrsiau eu llunio i ddiwallu anghenion myfyrwyr y Deyrnas Unedig a myfyrwyr rhyngwladol, gan sicrhau eich bod yn ennill dealltwriaeth leol a rhyngwladol o faterion addysgol allweddol
  • Byddwch yn elwa o gefnogaeth ac arweiniad gan diwtoriaid profiadol
  • Mae ein staff yn ymchwilwyr o fri ac mae eu gwybodaeth a'u harbenigedd yn rhan o'ch modiwl, gan sicrhau y bydd gennych ddealltwriaeth gyfoes o faterion addysgol
  • Hyblygrwydd wrth astudio - ym modiwl y traethawd hir byddwch chi'n dewis eich maes pwnc eich hun ac a ydych chi am ddilyn project cymhwysol neu broject ymchwil ac mae hynny'n eich galluogi i deilwra'ch dysgu i'ch gyrfa a'ch diddordebau
  • Mae ein cyrsiau'n ymateb i'r newidiadau sy'n digwydd ym myd addysg ac i anghenion y myfyrwyr at y dyfodol, ac mae modiwlau newydd yn cael eu cyflwyno e.e. Dwyieithrwydd mewn Addysg (a ddysgir trwy gyfrwng Cymraeg), Cymhwysedd Digidol (modiwl ar-lein)
  • Cewch gyfle i astudio trwy gyfrwng Cymraeg a byddwch yn ennill dealltwriaeth fanwl o faterion addysgol mewn amgylchedd dwyieithog

Ar ôl cwblhau un o'n graddau'n llwyddiannus bydd gennych wybodaeth a dealltwriaeth systematig o amryw o faterion addysgol cyfredol (e.e. asesu, rheoli ymddygiad, cwnsela, addysg gynhwysol, iechyd meddwl).

Ym mhob agwedd ar ein dysgu, beth bynnag fo'r cwrs, rydym yn cysylltu theori â'r ymarfer sydd ar waith yn y byd go iawn gan roi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ffynnu yn y proffesiwn o'ch dewis.

Nid oes angen i chi ein cymryd ar ein gair. Dywedodd myfyriwr MA Addysg yn ddiweddar, 'Fe wnes i fwynhau'n fawr a dysgais gymaint nes fy mod yn gobeithio y bydd yn hwb i 'ngyrfa ym maes addysg. Roedd pob darlith yn ddiddorol ac yn werth chweil'.

Fideo - Gweld y byd trwy lygaid plentyn

Mae'r radd amlddisgyblaethol ddeinamig hon yn cynnig cyfle i chi astudio ystod amrywiol o bynciau sy'n ymwneud â phrofiadau byw plant a phobl ifanc yn y gymdeithas gyfoes.

Cyfleoedd Gyrfa mewn Addysg

Ar ôl i chi raddio byddwch yn gallu diwallu'r galw sydd am arbenigwyr sy'n meddu ar gymwysterau da sy'n gallu gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd mewn addysg ac amryw o gyd-destunau eraill. Gan ddibynnu ar yr hyn y canolbwyntiwch arno yn eich astudiaethau bydd dewisiadau'n agored i chi yn eich gyrfa mewn meysydd fel addysg, seicoleg, cymdeithaseg a phroffesiynau perthynol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, gwaith ieuenctid a chymunedol.

  • Mae'r rhaglen MA Addysg yn berthnasol i amrywiaeth dda o gyd-destunau proffesiynol a gall wella'ch rhagolygon gyrfa fel athro, cynorthwyydd dysgu, darlithydd, gweithiwr iechyd, gweithiwr cymdeithasol neu yng ngwasanaeth yr heddlu.
  • Ar y rhaglen MA Addysg, cewch ddewis dilyn y llwybr dyslecsia er mwyn ennill cymhwyster arbenigol h.y. AMBDA (Aelodaeth Gyswllt o Gymdeithas Dyslecsia Prydain) neu astudio modiwl unigol i wella eich datblygiad proffesiynol e.e. Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Fel myfyriwr graddedig MA Plentyndod ac Ieuenctid cewch eich paratoi i wella ymarfer gweithlu'r plant
  • Caiff y myfyrwyr fynd rhagddynt naill ai i raglen EdD neu PhD ran-amser neu lawn amser, gan ddibynnu ar ddiddordeb ac arbenigedd y myfyrwyr.

Ein Hymchwil o fewn Addysg

Yn yr Ysgol Gwyddorau Addysgol cewch ddysgu am ganfyddiadau ymchwil diweddaraf eich maes a bydd cyfle i weithio gydag arbenigwyr ymchwil o fri rhyngwladol i gynllunio a gweithredu eich ymchwil eich hun. Fe'ch addysgir gan unigolion sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol am eu harbenigedd ac sy'n cael eu gwahodd yn rheolaidd i siarad mewn amryw o ddigwyddiadau blaenllaw ledled y byd. 

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.