Pam Astudio Cydymaith Meddygol?
Roedd yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Bangor ymhlith y rhai cyntaf i gynnig cyrsiau Cydymaith Meddygol. Mae gennym sawl blwyddyn o brofiad o hyfforddi Cymdeithion Meddygol ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ehangu nifer ein lleoedd a gyllidir ar hyn o bryd. Fel Cydymaith Meddygol dan hyfforddiant gyda ni:
- Byddwch yn profi'r ddarpariaeth glinigol a gwyddonol yn yr Ysgol a'r lleoliadau clinigol ledled gogledd Cymru mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr neu Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Cewch eich hyfforddi ar fodel meddygol mewn grŵp bach ac elwa o sylw unigol
- Byddwch yn cael cyfle i astudio a mynd ar leoliadau yn ddwyieithog
- Telir ffioedd y cwrs gan Lywodraeth Cymru
- Llwyddodd 89% o'n graddedigion i basio eu harholiadau cenedlaethol Cydymaith Meddygol ar yr ymgais gyntaf, sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol (2019).
Cyfleoedd Gyrfa fel Cydymaith Meddygol
Mae Cymdeithion Meddygol yn gweithio mewn meddygfeydd, adrannau damweiniau ac achosion brys, a wardiau meddygol a llawfeddygol cleifion preswyl ledled y DU, a disgwylir i'w niferoedd gynyddu dros y blynyddoedd i ddod wrth i fodelau darparu gofal iechyd a chlinigol yn y GIG barhau i ddatblygu.
Ein Hymchwil
-
Ymysg y 10 Uchaf am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2022)
Yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol, mae ein hymchwil yn defnyddio dulliau blaengar i roi sylw i gwestiynau sylfaenol ym maes meddygaeth a/neu ddatblygu cymwysiadau i ddiwallu anghenion clinigol difrifol. Mae gennym y nod cyffredinol o wella llwybr y claf, naill ai trwy gyfrannu gwybodaeth newydd i lenwi bwlch pwysig mewn gwybodaeth feddygol neu ddatblygu cymwysiadau sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at wella iechyd a lles.
Rydym yn canolbwyntio'n gryf ar ymchwil canser lle mae ein timau ymchwil nid yn unig yn archwilio'r prosesau cymhleth sy'n arwain at ddatblygiad, cynnydd ac ymwrthiant canserau i therapïau, ond maent hefyd yn datblygu'r sylfaen ar gyfer therapïau newydd a thechnolegau monitro cleifion. Mae'r timau ymchwil canser wedi'u lleoli yn Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin, sy'n ein hintegreiddio â'r rhwydweithiau ymchwil ehangach mewn prifysgolion ymchwil eraill ledled y byd a darparwyr gofal iechyd. Mae hyn yn sicrhau bod ein hymchwil yn berthnasol i anghenion cleifion canser yng Nghymru a thu hwnt.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.