Cyfleoedd Gyrfa mewn Gwyddorau Iechyd
Mae ein cyrsiau gwyddor iechyd ôl-raddedig ym Mangor wedi'u cynllunio i ymateb i'r newidiadau sy'n digwydd yn y gweithle a byddant yn cynyddu eich gwybodaeth ac yn gwella'ch rhagolygon gyrfa ym maes gofal iechyd yn y dyfodol, gan eich helpu i wireddu'ch potensial llawn.
Ceir cyrsiau hyfforddiant proffesiynol ôl-raddedig carlam i raddedigion gwyddor bywyd sy'n arwain at yrfaoedd mewn Nyrsio neu Ffisiotherapi.
Mae ein cyrsiau'n galluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol presennol i ddatblygu eu gyrfaoedd mewn meysydd gan gynnwys Nyrsio; Bydwreigiaeth; Parafeddygaeth; Gwaith cymdeithasol; Proffesiynau perthynol i iechyd; Ymchwil i ofal iechyd; Heneiddio a dementia; Iechyd Cyhoeddus; Rheoli gwasanaethau iechyd; Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Iechyd Galwedigaethol; Fferylliaeth; Ffisioleg Glinigol.
Ein Hymchwil o fewn Gwyddorau Iechyd
Mae ein grwpiau ymchwil i gyd yn rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR). Rydym yn adeiladu ar lwyddiant BIHMR yn REF 2014 i gynnal a chynyddu rhagoriaeth mewn ymchwil iechyd, meddygol a gofal cymdeithasol. Rydym yn cynnal ymchwil o'r safon uchaf sy'n cyfrannu at welliannau mewn iechyd a gofal iechyd lleol, yn ogystal â chael effaith ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
Ein huchelgais yw gwneud cyfraniad cadarnhaol i iechyd a lles yng Nghymru, a datrys heriau'n ymwneud ag iechyd a gofal yn genedlaethol a byd-eang. Rydym yn gwneud hyn trwy:
- gyflawni ymchwil o'r ansawdd uchaf sy'n cynhyrchu atebion newydd mewn gwasanaethau iechyd a gofal
- hwyluso cynlluniau newydd i wella gwasanaethau
- ddarparu'r addysgu a'r dysgu gorau yn seiliedig ar ymchwil gyfoes er mwyn datblygu'r gweithlu iechyd a gofal ar hyn o bryd ac yn y dyfodol
- weithio mewn partneriaeth i sicrhau bod popeth a wnawn o'r safon, ansawdd a gwerth uchaf posibl i ddefnyddwyr gwasanaethau, myfyrwyr, ymarferwyr a rhanddeiliaid eraill
- gydnabod ein treftadaeth ddwyieithog yng Ngogledd Cymru
- gynnal medrusrwydd o ran iaith a diwylliant sy'n berthnasol i bartneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.