Fy ngwlad:
Llyfrgell y gyfraith

Graddau Y Gyfraith Ôl-raddedig Trwy Ddysgu

Mae astudio am radd ôl-radd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor yn golygu y byddwch yn astudio cwrs a fydd yn eich paratoi ar gyfer y dyfodol gan geisio dyfnhau eich gwybodaeth ac ehangu eich sgiliau cyfreithiol. Mae ein rhaglenni gradd LLM arbenigol wedi'u dylunio i roi mantais gystadleuol i chi yn y farchnad swyddi heddiw.

Pa gwrs LLM yw’r un iawn i chi?

O fewn Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor mae gennym gyfres o raglenni LLM y gall myfyrwyr ddewis ohonynt. Mae ein cyrsiau LLM yn seiliedig ar ein ymchwil academaidd ac maent yn feysydd y mae gennym arbenigedd penodol ynddynt. Dyma drosolwg cryno o'r rhaglenni LLM rydym yn eu cynnig.

Mae ein cwrs blaenllaw, LLM y Gyfraith, yn cynnig amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol i fyfyrwyr er mwyn cadw eu harbenigedd yn eang. Mae dulliau ymchwil cyfreithiol yn greiddiol i’r cwrs, a bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ganolbwyntio ar faes ymchwil penodol yn y traethawd hir

Gan adlewyrchu rhagoriaeth Ysgol y Gyfraith Bangor mewn cyfraith ryngwladol ar draws y sbectrwm o hawliau dynol, cyfraith ddyngarol, cyfraith trosedd ryngwladol, cyfraith newid hinsawdd a'r amgylchedd, mae ein cwrs LLM Hawliau Dynol Ryngwladol a Chyfraith Trosedd Ryngwladol yn ddewis gwych i'r rhai sydd eisiau gwneud gwahaniaeth.

Mewn cydweithrediad â'r Adran Droseddeg, mae ein cwrs LLM y Gyfraith a Throseddeg yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu harbenigedd troseddegol ar yr un pryd â’i gymhwyso mewn enghreifftiau cyfreithiol, gyda thraethawd hir sy'n canolbwyntio ar y gyfraith.

Gradd ar y cyd rhwng Ysgol Busnes Bangor ac Ysgol y Gyfraith Bangor yw’r radd Y Gyfraith a Rheolaeth. Mae wedi’i hachredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig, ac yn darparu cymhwyster deuol o radd Meistr Prifysgol Bangor a chymhwyster Lefel 7 mewn Rheolaeth Strategol ac Arweinyddiaeth.

Merch yn llyfrgell Prifysgol Bangor
Student in Bangor University Library
Myfyriwr yn edrych ymlaen yn sefyll mewn ystafell llys ffug ym Mhrifysgol Bangor

Beth yw Gradd LLM a Meistr yn y Gyfraith?

Rhaglen ôl-radd yn y gyfraith yw Meistr yn y Gyfraith y byddech yn ei hastudio fel arfer ar ôl cwblhau gradd israddedig yn y gyfraith. Mae rhaglenni ôl-radd o'r fath yn aml yn canolbwyntio ar feysydd penodol o astudiaethau cyfreithiol ac yn eich galluogi i fod yn arbenigol iawn mewn maes penodol o'r gyfraith. Bydd astudio gradd Meistr yn y Gyfraith yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd proffesiynol.

Pam astudio gradd LLM neu radd Meistr yn y Gyfraith?

Er nad yw cael gradd ôl-radd yn hanfodol i ddilyn gyrfa yn y gyfraith, gall gynnig nifer o fanteision. Bydd astudio Gradd Meistr yn y Gyfraith yn:

  • rhoi mantais gystadleuol i chi yn y farchnad swyddi;
  • mireinio eich sgiliau a'ch gwybodaeth gyfreithiol ymhellach;
  • eich helpu i benderfynu ym mha faes cyfreithiol yr hoffech arbenigo;
  • rhoi cyfle i chi ddatblygu maes ymchwil cyfreithiol er mwyn parhau i wneud astudiaethau doethurol.
     
Student looking ahead with graduation cap
Van Anh Le - Bangor University Law graduate

VAN ANH LE

Ar ôl graddio o Brifysgol Bangor, bûm yn gweithio fel Cymrawd Addysgu yn y maes Cyfraith Eiddo Deallusol yn Ysgol y Gyfraith Durham ac Ysgol y Gyfraith Warwick. Cefais fy enwebu am un o Wobrau Warwick am Ragoriaeth mewn Addysgu. Rydw i'n ddyledus iawn i'm cyn-oruchwyliwr PhD, a wnaeth fy annog i wneud cais am ysgoloriaeth ymchwil yn ystod fy PhD a cefnogi’n llwyr wrth i mi chwilio am waith.

DYSGWCH FWY AM VAN ANH

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Gyfraith . 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Gyfraith llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudioGyfraith ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Gyfraith ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.