Mae'n bleser gan ALPHAcademi Prifysgol Bangor wahodd ceisiadau i’r Cynllun Efrydiaeth PhD Iechyd Ataliol. Bydd y cynllun doethuriaeth cyffrous hwn yn cefnogi unigolion dawnus i wneud ymchwil doethurol mewn pwnc sy'n ymwneud ag iechyd ataliol a thegwch iechyd.
Cylch Gwaith
Nod y cynllun yw meithrin gallu lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i wneud gwaith ymchwil. Byddwn yn ariannu hyd at ddau broject ymchwil o ansawdd uchel sy'n ymdrin â'r agenda ataliol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Croesewir ceisiadau gan oruchwylwyr arfaethedig mewn amrywiaeth eang o feysydd pwnc sy’n ymwneud ag iechyd ataliol a thegwch iechyd.
Meysydd blaenoriaeth
Rydym yn canolbwyntio ar atal - helpu pobl i fod yn iach, yn hapus ac yn annibynnol cyhyd ag y bo modd, nid dim ond eu trin pan fyddant yn sâl. Mae’r ALPHAcademi’n cydnabod dylanwad agweddau cymdeithasol ehangach ar iechyd, ac mae’n dwyn ynghyd arweinwyr a darpar arweinwyr o amryfal wasanaethau i ddysgu trwy wneud, gan dynnu ar ddirnadaeth ar sail tystiolaeth.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn projectau sy'n mynd i'r afael â'r meysydd blaenoriaeth a amlinellir yng nghanllawiau Cymru Iachach Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys cydweithio â phartneriaid allanol (fel byrddau iechyd, sefydliadau trydydd sector a chwmnïau preifat).
Rydym hefyd yn rhoi pwyslais mawr ar gydweithio rhwng goruchwylwyr o wahanol adrannau, ysgolion neu golegau ym Mhrifysgol Bangor, felly rhoddir blaenoriaeth i brojectau sy'n dangos cydweithio trawsadrannol rhwng ymgeiswyr.
Cymhwysedd
- Prifysgol Bangor ddylai fod y sefydliad lletyol.
- Rhaid i geisiadau ddod gan ddau ymgeisydd sydd ynghlwm â Phrifysgol Bangor ar adeg gwneud cais.
- Rhaid i ymgeiswyr fod â chontract parhaol gyda Phrifysgol Bangor o 0.6 cyfwerth ag amser llawn o leiaf.
- Rhaid i geisiadau ddod gan oruchwylwyr arfaethedig y PhD, a ddiffinnir fel y rhai sy’n ymgeisio i’r cynllun hwn. Nhw fydd yn recriwtio’r myfyriwr, gyda chymorth gan ALPHAcademi.
- Ar ôl derbyn dyfarniad, rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus recriwtio myfyriwr addas i'r project erbyn dyddiad cau a drafodwyd.
- Rhaid i geisiadau gael cefnogaeth Pennaeth yr Adran.
- Anogir ymgeiswyr i gynnwys partner (e.e. bwrdd iechyd, sefydliad trydydd sector) a all ychwanegu gwerth at y project ymchwil arfaethedig, er nad yw hyn yn hanfodol.
- Rhaid i ymgeiswyr fod yn fodlon i aelod o ALPHAcademi fod yn drydydd goruchwyliwr ar gyfer y PhD i ddarparu arbenigedd iechyd ataliol.
- Rhaid i geisiadau ymwneud ag iechyd ataliol, tegwch iechyd neu faes pwnc iechyd neu ofal cymdeithasol cysylltiedig.
- Ni ellir defnyddio'r cynllun i ariannu rhan o gwrs astudiaethau presennol sy'n arwain at gymhwyster PhD.
- Rhaid i'r cyllid y gwneir cais amdano gynnwys lwfans blynyddol o £17,668 y myfyriwr - ni chaiff costau ymchwil fod yn fwy na £5000 ac ni chaiff cyfanswm y cyllid y gofynnir amdano fod yn fwy na £72,892.
Darllenwch y canllawiau ymgeisio i wybod mwy.
Y broses asesu ceisiadau a chanlyniadau
Dylid cyflwyno'r Ffurflen Gais (gan gynnwys CVs yr ymgeiswyr) fel dogfen Word neu PDF gyda'r holl lofnodion awdurdodedig gofynnol (sgan neu electronig) wedi'u cynnwys. Dylai’r ffurflen gael ei chyflwyno gan un o’r Ymgeiswyr i’r cyfeiriad canlynol: ALPHAcademy@bangor.ac.uk
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 13:00 y pnawn ar 28/11/2022. Disgwyliwn hysbysu pob ymgeisydd o'r canlyniad erbyn 22/12/2022
Ar hyn o bryd mae dau gam ymgeisio i’r Cynllun Efrydiaeth PhD Iechyd Ataliol. Yn y cam cyntaf asesir fel hyn:
- Gwiriadau cymhwysedd a chystadleurwydd sylfaenol.
- Pwyllgor Efrydiaeth ALPHAcademi yn adolygu ansawdd ceisiadau.
- Gwneud argymhellion ariannu terfynol.
Yn yr ail gam bydd ALPHAcademi yn cefnogi ymgeiswyr llwyddiannus i ddod o hyd i fyfyriwr PhD addas.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y broses ymgeisio, anfonwch e-bost atom: ALPHAcademy@bangor.ac.uk