Fy ngwlad:
Nyrs mewn dosbarth

Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant

Llun o fyfyrwyr yn cerdded y tu allan i ddrws ail lawr adeilad Pontio.

Croeso i AHEPW

Esiampl o addysg ac arloesedd trawsnewidiol sy’n flaenllaw ym maes gofal iechyd. Rydym yn ymrwymo i ail-lunio dyfodol iechyd a llesiant, yng Nghymru a ledled y byd. Mae’r academi, sef yr ALPHAcademi gynt, yn cynrychioli ymrwymiad dwfn i hyrwyddo tegwch iechyd, hyrwyddo llesiant, a hyrwyddo mesurau ataliol i fyd iachach. Mae ar groesffordd addysg, ymchwil ac ymarfer, ac rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni ôl-radd cynhwysfawr, cyrsiau unigol, a modiwlau dysgu hyblyg mewn Iechyd Ataliol, Iechyd y Boblogaeth, ac Arweinyddiaeth. Mae cyfuniad nodedig o ddysgu ar-lein ac yn y cnawd sy’n darparu ar gyfer anghenion amrywiol gweithwyr proffesiynol sy'n yn ogystal â phrofiad addysgol cyfoethog.

Yn ogystal, rydym yn darparu gweithdai ar-lein am ddim, gwasanaethau ymgynghorol, a thîm o weithwyr proffesiynol, ymchwilwyr, ac addysgwyr o fri sy'n dod â'u harbenigedd amrywiol i'r rhaglenni. Gyda’n gilydd, rydym yn cychwyn ar daith i rymuso’r dysgwyr i arwain newid trawsnewidiol ym myd iechyd a llesiant.

Mae’r Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant yn rhan annatod o rwydwaith o Academïau Dysgu Dwys a ariennir gan Lywodraeth Cymru—hyb cydweithredol sy’n ymroddedig i feithrin sgiliau, meithrin arbenigedd, cyfnewid gwybodaeth, a throsi ymchwil yn atebion diriaethol, yn y byd go iawn.

Ymunwch â ni mewn project cyffrous a ninnau’n braenaru'r tir ar gyfer dyfodol iachach a thecach.

0:02
Datblygwch eich gyrfa gyda'r Academi ar gyfer Tegwch, Atal a Lles Iechyd ym Mhrifysgol Bangor.

0:09
Sylw i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac arweinwyr iechyd y cyhoedd! Hyrwyddo tegwch ac atal iechyd gyda’n MSc mewn ‘Atal, Iechyd y Boblogaeth, ac Arwain

0:20
Mae ein cwrs yn cynnig dysgu hyblyg i gyd-fynd â'ch amserlen, gan gydbwyso gwaith, teulu ac addysg.

0:24
Cydweithio ag arweinwyr diwydiant ac academaidd mewn amgylchedd arloesol, beirniadol.
0:30
Cofrestrwch ar gwrs AHEPW Prifysgol Bangor i ddatgloi eich potensial.

0:36
Holwch nawr ar gyfer Dechrau Medi 2024
Ysgoloriaethau ar gael.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Ewch i www.bangor.ac.uk/ahepw
ahepw@bangor.ac.uk

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â chyfleoedd astudio, cyllid, gweithio gyda’r adran neu brojectau: AHEPW@bangor.ac.uk 

Partneriaid

Academiau Dysgu Dwys Cymru
Welsh Government logo
logo of betsi cadwaladr

Fron Heulog, Bangor, LL57 2EF

BLE RYDYM NI

Fron Heulog, Bangor, LL57 2EF

Mae’r Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant, fel rhan o Brifysgol Bangor, wedi ymrwymo i gydnabod a gwerthfawrogi gwahaniaethau pobl, i feithrin y cryfderau y mae’r gwahaniaethau hynny yn eu cynnig i’r Brifysgol, ac i gefnogi’r holl staff a myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial. Rydym wedi ymrwymo i greu cymuned amrywiol o fyfyrwyr ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol.