Gweithdy Newid Ymddygiad Iach
Gweithdy Ar-lein AM DDIM
Ymunwch â ni ar 13eg o Fawrth am ein gweithdy ar-lein AM DDIM ar Newid Ymddygiad Iachos.
Nid yw gweithredoedd da bob amser yn cyd-fynd â’n bwriadau gorau. Bydd y gweithdy hwn yn rhoi cyflwyniad i newid ymddygiad ac yn ystyried beth sy'n dylanwadu ar ymddygiad a pham weithiau nad yw gosod nodau yn arwain at gamau priodol. Byddwn yn cyflwyno ffyrdd o ddadansoddi ymddygiad a deall y sbardunau, a hefyd yn edrych ar wahanol ffyrdd o ymyrryd a cheisio newid ymddygiad. Yn y gweithdai, byddwn yn edrych ar astudiaethau achos yn ogystal â thrafod damcaniaethau a dulliau adnabyddus (fel y dull proses ddeuol, a’r model COM-B) o newid ymddygiad, gan archwilio sut y gellir cymhwyso’r rhain yn ymarferol.