Sut mae arweinwyr meddygol yn gwella gofal? Trwy 'waith dehongli', 'gwaith diplomyddol', a 'gwaith atgyweirio'
Gan Dr Lorelei Jones
Ionawr 2025
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae polisi gofal iechyd wedi rhoi rhan amlwg i arweinwyr meddygol mewn sefydliadau gofal iechyd ac yn y system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach. Ceir tystiolaeth bod presenoldeb meddygon ar fyrddau ysbytai yn gysylltiedig â gwasanaethau o ansawdd uwch. Yr hyn nad yw'n hysbys yw sut maent yn cael yr effaith hon. Cymharwyd gweithgareddau pob dydd cyfarwyddwyr meddygol mewn sefydliadau gyda lefelau gwahanol o aeddfedrwydd o ran gwella ansawdd. Gwnaethom ofyn, 'beth mae cyfarwyddwyr meddygol yn ei wneud?' a 'sut mae hyn yn cyfrannu at wella gofal iechyd?' Roedd y gwaith maes yn cynnwys cysgodi cyfarwyddwr meddygol mewn sefydliad gyda lefel ‘uchel’ o aeddfedrwydd ym maes gwella ansawdd. Er mwyn cadw cyfrinachedd, rydym yn cyfeirio ato yma fel 'Stephen'.
Gwaith dehongli
Mewn sefydliadau sy'n perfformio'n dda, mae cyfarwyddwyr meddygol yn 'gyfryngwyr ffiniau' pwysig, ac yn cydlynu rhwng gwahanol feysydd ac yn dehongli gwahanol fathau o wybodaeth. Er enghraifft, maent yn dehongli data i aelodau eraill o’r uwch dîm rheoli, mewn testun ysgrifenedig ar ddechrau adroddiadau, ac ar lafar yn ystod cyfarfodydd. Gan ddefnyddio eu hyfforddiant meddygol, neu hyfforddiant ychwanegol mewn gwella ansawdd a gyflawnwyd fel rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus, maent yn tynnu sylw at unrhyw dueddiadau arwyddocaol. O'u profiad o waith clinigol rheng flaen, a'u hymwneud â staff clinigol ar y wardiau, maent yn cyfrannu dadansoddiad ychwanegol, gan nodi achosion a chanlyniadau, ac awgrymu camau gweithredu adferol. Er enghraifft, yn ystod un cyfarfod bwrdd, cyflwynodd Stephen adroddiad ar adolygiad marwolaethau. Esboniodd i'r bwrdd yr arfer technegol o addasu risg a rhoddodd arweiniad ar sut i ddehongli'r data. Mae cyfarwyddwyr meddygol hefyd yn dehongli canfyddiadau ymchwil diweddar; datblygiadau mewn polisïau gofal iechyd cenedlaethol; a gweithgareddau asiantaethau allanol amrywiol, gan ddistyllu'r goblygiadau i'r sefydliad ac i waith staff rheng flaen.
I’r gwrthwyneb, mewn sefydliadau gyda lefel ‘isel’ o aeddfedrwydd ym maes gwella ansawdd, roedd y gwaith dehongli hwn yn aml ar goll, gan nad oedd swydd cyfarwyddwr meddygol ar gael. Er enghraifft, mewn un sefydliad roedd yn ymddangos bod y cyfarwyddwr meddygol, yn ystod cyfarfodydd y bwrdd, yn ymwneud yn bennaf â dadleuon llafar gyda'r cadeirydd, a rhoi canlyniad cadarnhaol ar ddata a oedd yn ymwneud â rhaglen datblygu gwasanaeth yr oedd yn ei oruchwylio yn y sefydliad. Roedd cyfarwyddwr meddygol arall yn darparu graffiau heb unrhyw esboniad o sut i'w dehongli, ac roedd yn ymddangos yn elyniaethus ac yn dawedog yn ystod cyfarfodydd, o ran cyfathrebu llafar a di-eiriau.
Gwaith diplomyddol
Mae gwaith diplomyddol yn cynnwys delio'n ddoeth â meddygon ar wahanol lefelau o'r sefydliad trwy wybodaeth am normau proffesiynol, gwahaniaethau diwylliannol rhwng arbenigeddau a grwpiau proffesiynol ac arferion gwaith. Roedd bod yn feddyg wedi helpu Stephen i ymgysylltu â chlinigwyr a oedd wedi cael profiad o fentrau lluosog yn cael eu rhoi ar waith ac yna’n cael eu disodli gan fentrau eraill ac, o ganlyniad, wedi mynd yn sinigaidd neu’n amharod i gymryd rhan mewn rhaglenni newid pellach. Fel yr eglurodd Stephen yn ystod cyfweliad:
Yr hyn yr oedd y meddyg gofal brys yn ei ddweud oedd 'dyma'r chweched tro mewn dwy flynedd i mi gael fy nhynnu oddi wrth fy ngwaith i ddod i grwpiau ffocws i roi 'post it' [meimio glynu 'nodyn post-it' ar y wal]' ... Felly rhywfaint ohono yw cael pobl i obeithio, os ydych yn gwybod beth rwy'n ei feddwl, oherwydd maen nhw'n ochelgar, maen nhw wedi cael eu siomi o'r blaen.
Mewn sefydliadau gyda lefel ‘uchel’ o aeddfedrwydd ym maes gwella ansawdd, roedd gwaith cyfarwyddwyr meddygol wedi ei wreiddio mewn cysylltiadau a rhwydweithiau cymdeithasol hir sefydlog ar draws y rhanbarth. Roedd cysylltiadau da yn elfen bwysig ar gyfer cydweithredu rhwng sefydliadau, meithrin ymddiriedaeth a lleihau gwrthdaro. Roedd perthynas dda gyda'r comisiynydd hefyd wedi galluogi Stephen i drafod cyllid pwrpasol ar gyfer gwella ansawdd yn y sefydliad.
Mae cyfarwyddwyr meddygol yn ymwneud yn helaeth â gwleidyddiaeth cynllunio gofal iechyd rhanbarthol, gan weithio ar 'flaen y llwyfan ' ac yng 'nghefn y llwyfan' <https://onlinelibrary.wiley.com/doi/abs/10.1002/(SICI)1099-1751(199604)11:2%3C101::AID-HPM428%3E3.0.CO;2-Z?casa_token=LsX2ir9SE4UAAAAA:9TI-Poan0itOHBNmT0XgTD7knVYbaltRrMlkkOAmFWQnSYsFLhgHe4SdtnGCG9RZrWL1Aga1hABEiDU>. Er bod cynllunio ar 'flaen y llwyfan' yn pwysleisio gwerthoedd rhesymoldeb, gwrthrychedd, effeithlonrwydd a chyfranogiad, mae cynllunio yng 'nghefn y llwyfan' yn cydnabod dimensiynau gwleidyddol cynllunio, cyfyngiadau'r byd go iawn, a strategaethau a thactegau gwahanol fudd-ddeiliaid.
Gwaith atgyweirio
Treuliodd Stephen lawer o amser yn atgyweirio’r berthynas rhwng pobl, rhwng meddygon a rheolwyr yr ysbyty, a rhwng gwahanol sefydliadau yn y rhanbarth. Rhan bwysig o ddatblygiad gwasanaeth oedd cydnabod trawma blaenorol ac ailadeiladu ymddiriedaeth. Disgrifiodd y cyfarfodydd a gafodd gydag uwch feddygon o fewn y sefydliad fel 'sesiynau therapi yn bennaf'.
Treuliodd Stephen lawer o amser hefyd yn atgyweirio cysylltiadau â sefydliadau allanol a oedd wedi eu hamharu gan ddiwygiadau blaenorol y llywodraeth, megis cyflwyno cystadleuaeth rhwng darparwyr ac ad-drefnu gwasanaethau clinigol yn strwythurol. Mewn un achos roedd Stephen wedi treulio 'dwy neu dair blynedd' yn cael cyfarfodydd ag ysbyty arall mewn ymdrech i atgyweirio'r berthynas fel y gallai ddatblygu rhwydwaith i lawdriniaethau ar draws y rhanbarth.
Mae 'gwaith dehongli', 'gwaith diplomyddol' a 'gwaith atgyweirio' cyfarwyddwyr meddygol yn gwella ansawdd gwasanaethau trwy wella capasiti amsugnol y sefydliad. Mae capasiti amsugnol yn disgrifio gallu sefydliad i adnabod, cymhathu a manteisio ar wybodaeth o'r amgylchedd. Mae sefydlu a chynnal cysylltiadau yn galluogi cyfarwyddwyr meddygol i nodi datblygiadau arloesol mewn rhwydweithiau allanol, tra bod eu gwybodaeth am ddiwylliannau a threfn yn eu sefydliad yn eu galluogi i roi'r rhain ar waith.
Mae ein hastudiaeth yn tynnu sylw at y ffaith y gall newidiadau o’r brig i lawr i wasanaethau clinigol adael ôl emosiynol am gyfnod hir. Mae llawer o'r ymchwil ar newid sefydliadol mewn gofal iechyd wedi tueddu i ganolbwyntio ar ganlyniadau clinigol, neu ddechrau defnyddio modelau gweithredu technegol sy'n esgeuluso'r canlyniadau cymdeithasol ac emosiynol. Felly mae ein hastudiaeth yn ategu astudiaethau presennol o newid sefydliadol mewn gofal iechyd trwy dalu sylw i brofiadau o golled a newid, a'r gwaith o roi sylw i emosiynau megis dicter.
Yn aml, mae gan 'darfu' falens cadarnhaol mewn dadl bolisi. Mae ein hastudiaeth yn cyfrannu at y dystiolaeth ar gyfer yr effeithiau negyddol <https://www.sciencedirect.com/science/article/abs/pii/S0277953604001972> posib o gylchoedd ailadroddus o newid strwythurol, ar ddatblygu gwasanaethau, gofal cleifion a chanlyniadau. Mae ein canfyddiadau hefyd yn darparu ar gyfer dealltwriaeth fwy cynnil o 'wrthwynebiad' proffesiynol i newid sefydliadol, gan ddangos sut y gall hyn ddeillio nid yn unig o fuddiannau personol, ond o flinder gyda mentrau a diffyg ymddiriedaeth sy’n deillio o brofiad o fentrau newid a gafodd eu rhoi o’r neilltu neu eu disodli gan 'y peth nesaf'.
Sylwer: mae'r uchod yn seiliedig ar waith cyhoeddedig yr awdur ym maes gwyddorau cymdeithas a meddygaeth
Diolch i’r staff a roddodd yn hael o’u hamser i gymryd rhan yn yr astudiaeth.
Mae Lorelei Jones yn anthropolegydd ac yn uwch ddarlithydd Trefniadaeth a Llywodraethu Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Bangor
Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn 2021 ar wefan y gyfadran Arweinyddiaeth a Rheolaeth Feddygol